Saturday, March 09, 2013

Goblygiadau pol Ashcroft i Gymru

Dydi Blogmenai ddim yn trafferthu edrych ar bolau Prydeinig unigol fel rheol, ond mae pol achlysurol Michael Ashcroft yn un arbennig ac mae'n cynnig mwy na'r rhan fwyaf o bolau piniwn arferol.  Mae'n canolbwyntio ar etholaethau ymylol - y rhai sy'n penderfynu etholiadau Prydeinig, mae'r sampl yn anferth a felly'n ei gwneud yn bosibl i edrych ar ranbarthau unigol mewn ffordd ystyrlon, mae'n grwpio etholaethau yn ol deinameg gwleidyddol a daearyddiaeth ac mae'n cymryd i ystyriaeth y ffaith bod pobl yn aml yn gadael i ffactorau lleol ddylanwadu ar y ffordd maent yn pleidleisio.  Yn anffodus - yn wahanol i'r Alban, dydi Cymru ddim yn cael ei thrin fel uned arwahan - felly mae angen ychydig o waith cyn gallu dod i gasgliadau am etholaethau Cymreig.  Dydi'r pol ddim yn edrych ar etholaethau lle mae Plaid Cymru'n gystadleuol chwaith.  Serch hynny dyma ymgais i ddod i gasgliadau am etholaethau Cymreig o ddata pol Ashcroft.

I ddechrau mae'r pol yn awgrymu bod gogwydd o 5.5% oddi wrth y Lib Dems tuag at y Toriaid mewn etholaethau gwledig lle mae'r melynion yn gyntaf a'r gleision yn ail.  Awgryma hyn y collid Brycheiniog a Maesyfed.

Mae'r ogwydd oddi wrth y Lib Dems tuag at Lafur yn anferth mewn etholaethau Cymreig a Seisnig lle mae'r naill yn gyntaf a'r llall yn ail - 17.1%.  Awgryma hyn y byddai'r Lib Dems yn colli o filltiroedd yng Nghanol Caerdydd.

Does yna ddim categori yn y pol sy'n ffitio'n union efo seddi ymylol Toriaidd / Llafur yng Nghymru, felly mae dod i gasgliadau yma yn fwy anodd.  Mae'r gogwydd tuag at Lafur yn amrywio o 5% yn Llundain i 10.5% yn yr etholaethau o gwmpas aber yr Afon Tafwys.  Ond os ydym yn cymryd bod y gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yng Nghymru o gwmpas cymedr holl etholaethau ymylol Toriaid / Llafur  ardaloedd Ashcroft, cawn ogwydd o 8.1%.  Canlyniad gogwydd felly i'r Toriaid fyddai colli Aberconwy, Preseli / Penfro, De Penfro / Gorllewin Caerfyrddin, Bro Morgannwg a Gogledd Caerdydd.  Cant neu ddau fyddai ynddi yng Ngorllewin Clwyd.

Petai canfyddiadau pol Ashcroft yn cael eu gwireddu yn 2015, tair sedd yn unig y gallai pleidiau'r glymblaid fod yn hyderus eu cadw - Mynwy, Brycheiniog a Maesyfed a Threfaldwyn.  Y Toriaid fyddai'n ennill y dair yn ol pob tebyg.  'Dydi cyfyngiadsu'r pol ddim yn caniatau i ni ddod i gasgliadau am Ceredigion.

Gellir gweld data'r pol yma.

5 comments:

Twm said...

Mae yna sectiwn wahanol ar seddi ceidwadol yng nghymru "Conservative seats in Wales" http://lordashcroftpolls.com/2013/03/marginal-territory-the-seats-that-will-decide-the-next-election/#more-2052

Ceid 33 Llaf 40 Rhyd 3 PC 9 UKIP 11

O'i gymharu ar etholiad 2010 yn y sedd yma (mean o'r canran yn yr 8 sedd ceidwadol yn 2010)

Ceid 41 Llaf 27 Rhyd 19 PC 9 UKIP 3

Uniform swing Tories yn cadw Maldwyn yn hawdd ac yn cadw Mynwy o 2%.


Cai Larsen said...

Ia, ti'n gywir Twm - dwi'n gwneud cam ag Ashcroft - darllen yr adroddiad wnes i yn hytrach na'r data atodol.

Ar y ffigyrau Cymreig gallai'r Toriaid yn hawdd golli pob dim ag eithrio Maldwyn.

Anonymous said...

.. a PC golli Arfon, ond enill Ceredigion?

Cai Larsen said...

Dydi pol Ashcroft ddim yn edrych ar seddi Plaid Cymru - felly dydi hi ddim yn bosibl dod i gasgliadau ynglyn a hynny.

Anonymous said...

I'm excellent at financial planning, and giving advice about weather to purchase certain items or cut back. how can i begin a website handing out these suggestions?.

my weblog transvaginal mesh
My page: paginasamarillas-atl.com