Monday, October 15, 2012

Y Cynulliad a cham ddefnydd o alcohol

Felly Bethan Jenkins ydi'r ddiweddaraf ymysg ACau'r Cynulliad i gael ei hun mewn dwr poeth oherwydd amgylchiadau sydd a chysylltiad o rhyw fath a'r ddiod gadarn.

Mae'r rhestr o ACau sydd wedi cael eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd oherwydd alcohol yn un eithaf hir, ac fe sefydlwyd y patrwm yn nyddiau cynnar y Cynulliad.  Mae llawer o  straeon am aelodau cynulliad o pob plaid yn cam ddefnyddio alcohol, ond yn osgoi unrhyw broblemau cyfreithiol neu gyhoeddusrwydd gwael, wedi bod o gwmpas ers dyddiau cynnar y Cynulliad hefyd.  Mi wna i wrthsefyll y demtasiwn i fanylu.

Yr hyn sy'n weddol amlwg fodd bynnag ydi bod yna batrwm o gam ddefnyddio alcohol ymysg aelodau cynulliad.  Cyn i mi bechu neb, dwi'n prysuro i ychwanegu nad ydi pawb yn euog o hyn o bell ffordd - ond mae mwy o broblemau yn codi nag y byddai rhywun yn disgwyl ymhlith grwp cymharol fach o bobl.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal tros y sawl sy'n gweithio iddynt.  Hynny yw mae dyletswydd  i edrych ar ol lles a iechyd gweithwyr.  Mae'n weddol amlwg bod un haenen o leiaf o'r sawl sy'n gweithio i'r Cynulliad yn agored i broblemau sy'n ymwneud ag alcohol.   Mi ddylai'r Cynulliad ystyried rhoi trefn mewn lle sy'n ei gwneud yn haws i unrhyw aelodau sydd a phroblem alcohol fynd i'r afael a'r sefyllfa.

Golyga hyn sefydlu gweithdrefnau i adnabod problemau,  creu trefn lle gall aelodau siarad yn agored efo rhywun yn y gweithle am broblemau alcohol,  cynnig gwasanaeth cwnsela a mynediad i wasanaethau iechyd galwedigaethol.  Mae'n bosibl bod trefniadau felly mewn lle wrth gwrs - ond mae tystiolaeth y misoedd ac yn wir y blynyddoedd diwethaf yn awgrymu'r gwrthwyneb.


9 comments:

Bill Chapman said...

Dylai Bethan Jenkins ymddiswyddo.

Anonymous said...

Mi gollais i fy ngwaith 20 mlynedd yn ol pan oeddwn tua 20 oed oherwydd i mi or-ofed a chael fy hun mewn picil. Credwch neu beidio, rwy'n dal i ddioddef. Nid yw cyfrifiaduron y system cyfraith a threfn yn anghofio....byth! Dwi'n meddwl bydd hyn yn gwneud Ms Jenkins yn well aelod cynulliad oherwydd iddi brofi sut mae olwynion sy sytem gyfriethiol yn troi ac yn gweithio. Mae eisiau diwygio'r system. Pan gawn yr hawl i wneud hynny yng Nghymru, mi fydd nifer o'n aelodau cynulliad yn cofio....gobeithio.

Anonymous said...

Ond wrth gwrs, mae pethau fel hyn mor estron i'r Cymry Cymraeg dosbarth canol a pharchus. A ddylswn i wedi ychwanegu 'hunan gyfiawn'?

Ifan Morgan Jones said...

Wrth edrych yn ol doedd lleoli'r Cynulliad drws nesaf i holl dafarndai Bae Caerdydd ddim yn syniad da... Efallai mai'r ateb yw agor tafarndai yng nghorff yr adeilad fel yn San Steffan. Fel yna galla'r staff alw tacsi iddyn nhw ar y ffordd allan.

Cai Larsen said...

Mae gen i syniad gwell Ifan - lleoli'r adeilad ar ben mynydd - ymhell oddi wrth unrhyw dafarn.

Anonymous said...

Ma hi'n hen bryd edrych ar rol Darren Hill yn hyn i gyd !

Roedd boss Positif Politics gyda :-

1. Keith Davies a'i wraig pan roedd hi'n shitless ac ymosod ar weithwyr gwesty.

2. Mick Bates pan roedd e'n pissed ac ymosod ar weithwyr ysbyty.

3. Nick Ramsay pan roedd e'n feddw gachu a cholli pwyllgorau.

4. Bethan Jenkins y noson gafodd i ei dal.

Ydy rhoi £5000 dros y bar fel y gwnaeth mewn ty bwyta Ffrenig yn ddiweddar yn gall!

O leif ma fe wedi dinsitrio gyrfaoedd un o bob plaid!

Anonymous said...

What's Taking place i am new to this, I stumbled upon this I've found It absolutely helpful and it has aided me
out loads. I am hoping to contribute & assist other customers like its aided me.
Great job.
Feel free to visit my weblog :: how can i make money from the internet

Anonymous said...

Normally I don't read post on blogs, however I wish to say that this write-up very pressured me to try and do so! Your writing style has been amazed me. Thank you, quite great article.
My website - fx professionals

Anonymous said...

For latest news you have to go to see web and on internet I found this web page as a most excellent
website for latest updates.
Feel free to surf my webpage - read more...