Tuesday, June 26, 2012

Bethan Jenkins, trydar, McGuinness a'r Blaid Lafur

Mae sylwadau Bethan ynglyn a 'naifrwydd' Martin McGuinness yn amlwg yn amhriodol. Mae arweinyddiaeth y blaid mae'n perthyn iddi yn wahanol i bob un arall yn yr ynysoedd yma i'r graddau iddi gael ei chreu gan ryfel. Dogherty, Adams, Murphy, Ferris, McGuinness, Kelly, Anderson, Morgan, Ellis, O'Toole - mae'r cwbl wedi treulio lwmp o'u bywydau yn agos at galon grwp parafilwrol cymharol fach a lwyddodd i gadw tros i 50,000 o aelodau lluoedd diogelwch y DU yn brysur am ddeg mlynedd ar hugain. Gellir meddwl am sawl ansoddair i ddisgrifio Martin McGuinness, ond 'dydi 'naif' ddim yn eu plith.

Ond mater ymylol ydi hynny yng nghyd destun y stori fach yma. Mae'n dweud mwy am y Blaid Lafur Gymreig na dim arall. Mae'r blaid honno yn tueddu i wleidydda trwy geisio efelychu'r merched hysteraidd rheiny yn The Crucible, Arthur Miller - chwilio am esgys i chwifio eu breichiau o gwmpas yn lloerig a sgrechian yn uchel a hysteraidd rhywbeth megis I saw Goody Jenkins dance with the divil in the dead of night.

Gan i Bethan feirniadu McGuinness mae'r ffatri sterics yn Cathedral Road yn pedlera stori am danseilio'r broses heddwch - ac awgrymu ei bod am ddod a rhyfel yn ol i strydoedd Belfast. Petai wedi dweud rhywbeth ffeind am McGuinness byddai'r ffatri sterics wedi honni ei bod yn Provo cudd gan awgrymu bod ganddi lond bocs o semtex yn y garej.

Mae Bethan yn drydarwraig hynod doreithiog, ond y drwg efo'r fformat 140 llythyren ydi nad yw'n rhoi'r cyfle i'r trydarwr fod yn gwbl glir ynglyn a'r hyn mae'n geisio ei ddweud. O ganlyniad mae'n hawdd i wleidydd sy'n defnyddio'r cyfrwng adael ei hun yn agored i rwdlan afresymegol ac anghymedrol y criw bach hysteraidd sy'n amgylchu Peter Hain. 'Dwi'n meddwl bod Bethan yn ddoeth i gymryd gwyliau bach o drydar i ystyried sut y gall wneud y defnydd mwyaf effeithiol a di risg o'r i hyrwyddo achos y Blaid.

5 comments:

Anonymous said...

ond mae hyn oll yn dangos naifrwydd llwyr Bethan J ac yn anffodus nid dyma'r tro cyntaf yn ystod y wythnosau diwethaf iddi wneud a dweud pethau dwl.

Methu cyfarfodydd yn Nulyn, cwyno am bwlis gwleidyddol a nawr cyhuddo McGuinnes o bawb o fod yn "naif".

Falle bod y Blaid Lafur yn gwneud mor a mynydd o bethau ond bai y Blaid ydy rhoi cyfle iddynt. Mae angen i BJ ddechrau bod yn tipyn mwy aeddfed yn wleidyddol neu gadael i eraill fod yno yn ei lle hi

Anonymous said...

Ella bod Llafur wedi mynd dros ben llestri.

OND, y gwirionedd yw mae Bethan yn haeddu y storiau 'ma yn y papur. Nid storiau wedi'i wneud yw rhain, a mae hi yn honi mai bwlio 'dio!.

Ond y hi nath drydar hyn a hi nath ddim droi i fyny i gyfarfod yn y gogledd.

Ar joc ydy, mae rhai o tweets hi am gwleidyddion eraill wedi bod yn ofnadwy.

Yn bersonol dwi ddim yn meddwl y dylsa Bethan gario ymlaen fel AC. Efallai ddyla hi ystyried cael amser i ffwrdd am ychydig.

Ond er diddordeb Blogmenai- dwin meddwl rhaid i'r Blaid gorfodi aelodau rhanbarthol sydd wedi bod yno ers dipyn (hy 'established') i drio am sedd mewn etholaeth, fel nath Nerys Evans.

Dwin son am J.Davies, L.Wood, B.Jenkins - mae rhain i gyd wedi bod ar seddi rhestr am yn hir nawr. Pam ddim trio am etholaeth a gadael rhywun fresh fynd ar y sedd rhestr? NId dyma yw un or peth da am y sedd rhestr- da chin guranteed cael eich ethol felly maen ffordd da o cael gwaed newydd i fewn. Be tin feddwl?

Mae Bethan Jenkins yn fy nharo fel gwleidydd anlwcus . Mae gwleidyddiaeth yn 90% gallu , a 10% o lwc - ond peidiwch a'i drio heb y lwc yna. Gwnaiff fyd o les iddi fod allan o lygad y cyhoedd am sbelan.

MERI WILLIAMS said...

Mae Bethan J yn embaras - a dyw Leanne W ddim lot gwell - y ddwy yn twitran i ddim pwrpas. Calliwch da chi, neu dewch a'r dynion yn ol.