Saturday, June 16, 2012

Is etholiad Bryncrug a hen batrwm yn dod yn ol

Prif arwyddocad yr is etholiad ym Mryncrug mae'n debyg ydi'r ffaith nad oes gan y Blaid fwyafrif llwyr ar Gyngor Gwynedd o ganlyniad i beidio a'i hennill - nid bod hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr - byddai'r dealltwriaeth efo Llafur wedi goroesi beth bynnag. Yn wir prin ei bod yn yn syndod na ddaeth y Blaid yn gyntaf - er bod gennym ymgeisydd da, ac er i'r ymgyrch fod yn digon effeithiol, dydi hwn ddim yn dir naturiol i ni - dydan ni erioed wedi ennill sedd yno.

Yr hyn sy'n fwy diddorol i'r sawl sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gwynedd ydi perfformiad hynod o wan yr ymgeisydd Llais Gwynedd - dyn sy'n digwydd bod yn wr i gynghorydd LlG sydd a phroffeil uchel iawn, sef Louise Hughes.

Mae'r canlyniad yn cadarnhau patrwm rhanbarthol a sefydlwyd yn etholiadau mis Mai eleni pan berfformiodd Llais Gwynedd yn gadarn iawn yn Nwyfor, yn siomedig yn Arfon ac yn drychinebus ym Meirion. Roedd ganddynt bedair sedd ym Meirion ar gychwyn tymor y cyngor diwethaf, un sydd ganddynt bellach - un Louise yn Llangelynin.

Efallai ei bod werth atgoffa ein hunain o'r canlyniadau ym Meirion ym mis Mai i ddeall yn iawn pa mor drychinebus oeddynt i Lais Gwynedd mewn gwirionedd.

Llangelynin:

LlG 493
Ann 235

Brithdir:

PC 527
LlG 121

Diffwys a Maenofferen:

PC 309
LlG 92

Harlech:

PC 471
LlG 187

Llanbedr:

PC 261
LlG 184

Penrhyndeudraeth:

PC 655
LlG 258

Rwan mi fyddwn mae'n debyg yn gor symleiddio i awgrymu y byddai Llais Llyn ac Eifionydd yn enw mwy addas i Lais Gwynedd na'r un swyddogol - mae ganddynt ddeg (neu unarddeg erbyn meddwl o ganlyniad i un o'r cynghorwyr annibynnol yn newid ochr) o aelodau yn Nwyfor, un ym Meirion a dau yn Arfon - ond mae gwirionedd yn y gor symleiddiad hwnnw.

Mae'r patrwm rhanbarthol wedi mynd yn gliriach yn ddiweddar, roedd gan Lais Gwynedd bedwar aelod ym Meirion yn 2008 o gymharu a'r un sydd ganddynt heddiw, ac maent wedi colli pedair is etholiad o'r bron yno hefyd. Mae ganddynt broblem ychwanegol yn Arfon - sef nad ydynt yn gallu dod o hyd i ymgeiswyr i'r dwyrain o Gaernarfon - ardal boblog sy'n cael ei chynrychioli gan lawer o gynghorwyr.

Yn rhyfedd iawn, mae'r patrwm yma yn adlais o batrwm nid anhebyg oedd yn bodoli yn y dyddiau cyn ad drefnu llywodraeth leol yn 1996. Bryd hynny roedd Plaid Cymru yn gwneud yn llawer gwell ar lefel llywodraeth leol ym Meirion ac Arfon nag oedd yn gwneud yn Nwyfor - er bod y gwrthwyneb yn aml yn wir mewn etholiadau San Steffan. Nid oedd y Blaid yn ennill mwyafrif llwyr yn y ddau ranbarth fel mae'n ei wneud heddiw, ond roedd yn gwneud yn dda - yn llawer gwell nag oedd yn ei wneud yn Nwyfor. Doedd Llais Gwynedd ddim yn bodoli bryd hynny wrth gwrs, annibynwyr o gwahanol fath oedd yn cael eu hethol yn Nwyfor bryd hynny - ond mae'n ddiddorol fel mae hen batrymau etholiadol yn dod yn ol i'r wyneb.

2 comments:

Anonymous said...

dadansoddiad cywir iawn. Tristwch y peth ydy bod nifer o'r cynghorwyr annibynol ym Meirion yn iachach a haws gwneud a nhw na rhai Llais Gwynedd

Anonymous said...

Diolch byth for trigolion Dwyfor wedi gweld drwy'r blaid o'r diwedd