Friday, April 27, 2012

Pwy sy'n cael trafferth recriwtio?

Mae ymdriniaeth digon diddorol yn Golwg ddoe o'r etholiadau lleol yng Nghaerdydd, Gwynedd, Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Mae ymdriniaeth cymharol fanwl o'r fath yn rhywbeth i'w ganmol i'r graddau ei fod yn anarferol yng nghyd destun y cyfryngau Cymreig. Mae'r Bib wrth gwrs yn rhy brysur yn canolbwyntio ar geisio creu brwdfrydedd tros y frenhiniaeth i roi llawer o sylw i'r broses ddemocrataidd yng Nghymru, ond dydi'r cyfryngau eraill fawr gwell chwaith.

Beth bynnag mae eu hymdriniaeth o'r etholiadau yma yng Ngwynedd ychydig yn anghytbwys i'r graddau bod yr ornest yn cael ei phortreadu fel un rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru, er bod mwy o ymgeiswyr gan y grwp Annibynnol na sydd gan Llais Gwynedd, a'i bod yn debygol y bydd y grwp Annibynnol yn fwy nag un Llais ar ol yr etholiad - yn union fel y bu tros y bedair mlynedd ddiwethaf.

Yr hyn ddaeth a gwen i fy wyneb yn arbennig oedd sylwadau un o arweinwyr Llais, Alwyn Gruffydd ynglyn ag ymgeiswyr y Blaid. Dyfynnaf:

Mae gweld cyn-gynghorwyr Plaid Cymru yn ceisio ad ennill eu seddau ar Gyngor Gwynedd yn awgrymu fod y Blaid yn cael trafferth recriwtio gwaed newydd.
Rwan yn ol fy nghyfri i mae yna ymgeisydd yn sefyll ar ran Plaid Cymru nad oedd yn gwneud hynny yn 2008 yn y wardiau canlynol:

Glyder, Llanllyfni, Llanwnda, Penisarwaun, Seiont, Talysarn, Tregarth, Waunfawr, Y Bontnewydd, Y Groeslon, Menai - Bangor (2 sedd), Abererch, Llanaelhaearn, Llanystumdwy, Clynnog, Nefyn, Dwyrain Porthmadog, Tudweiliog, Llanengan, Abermaw, Bowydd a Rhiw, Diffwys a Maenofferen, Llanbedr, Llanuwchllyn, Penrhyndeudraeth, Cricieth.

Mae hyn yn rhoi cyfanswm o 27 ymgeisydd 'newydd'.  29 o ymgeiswyr - hen neu newydd - sy'n sefyll tros Lais Gwynedd.


Dwi'n gwybod bod rhai o'r ymgeiswyr yn ymladd y seddi yn enw'r Blaid y tro hwn, tra eu bod yn eu hymladd ar ran rhywun arall yn 2008, a dwi hefyd yn gwybod i un neu ddau sefyll ar ran y Blaid ymhellach yn ol yn y gorffennol nag yn 2008. 

Dwi hefyd yn gwybod ei bod yn amser etholiad a bod gwleidyddion yn gyffredinol yn troelli ac yn gor ddweud ar amser felly.  Mae hynny'n ddigon dealladwy.  Ond bobol bach, mae hon yn gryn droelliad. 

6 comments:

Anonymous said...

Be dwedo Golwg amdan plaid cymru yng Nhaerdydd>

Vaughan said...

Er mwyn y nefoedd. Wyt ti'n treulio eiliad yn gwrando, gwylio neu ddarllen cynyrch y BBC?

Cai Larsen said...

Ydw, dwi'n dal i deimlo'n sal ar ol gwrando ar Post Prynhawn heddiw a dweud y gwir.

Anonymous said...

Beth ddigwyddodd i'r "50 ymgeisydd ar draws y sir" yn ol cyhoeddiad Llais Gwynedd rai wythnosau'n ol?

Anonymous said...

http://www.facebook.com/groups/llaisgwynedd/#!/groups/Plaidely/

Mae hwn yn wefan da

Anonymous said...

Rank your Youtube Videos at http://youtuberanking.
top-infοrmаtion.net/ -> Just $5 a Vіdeo!
Also visit my site :: Stamina Fold-to-Fit Folding Equipment Mat (84-Inch by 36-Inch) Review