Thursday, April 26, 2012

Beth goblyn sydd o'i le ar y Cambrian News?

Wele eu stori tudalen flaen yr wythnos yma.Mae Louise Hughes o Lais Gwynedd yn cwyno fod y cyn gynghorydd annibynnol Morgan Vaughan wedi bod yn ffonio pobl a dweud wrthynt nad yw'n ddibynadwy.
Ymddengys mai'r peth pwysicaf sydd wedi digwydd yn nhiriogaeth y Cambrian News yr wythnos diwethaf ydi bod cynghorydd yn cyhuddo cyn gynghorydd o ddweud pethau cas amdani yn ystod yr wythnosau cyn etholiad.

O ddifri rwan - ydi'r Cambrian News o dan yr argraff bod yna rhywbeth anarferol am bethau cas yn cael eu dweud am gynghorwyr yn ystod ymgyrchoedd etholiadol?

Am y tro cyntaf mae'n debyg, mae Blogmenai yn cael ei hun yn llongyfarch ac edmygu  Louise Hughes - roedd yn gryn gamp ar ei rhan i allu dwyn perswad ar bapur newydd i redeg  stori mor ddi ddim - heb son am ei rhoi ar eu tudalen flaen. 

Wedi dweud hynny, dwi ddim rhy siwr beth i'w ddweud am y Cambrian News.

6 comments:

Anonymous said...

Gellir ddweud bod hyn yn dra eironig. Mae Louise Hughes yn ddynas hynod o anymunol a'n siwr o fod yn pedlo bob fath o honiadau am ymgeiwyr y Blaid.

Anonymous said...

Y Cambrian News?! Beth sydd o'i le ar bob un papur newydd yng Nghymru.

Mae yna fwy o angen am bapur newydd dyddiol Cymreig na phapur newydd dyddiol Cymraeg.

Anonymous said...

Wrth gwrs mae rhywbeth arall fan hyn - panic a hynny gan ymgeisydd Llais Gwynedd gan fod cefnogaeth gref i'r ymgeisydd annibynnol sy'n sefyll yn ei herbyn.

Ond yn null 'Sunaidd' ein papurau lleol mae ymgais i greu stori 'fawr' allan o unigolyn yn ceisio perswadio unigolion eraill i beiido pleidleisio dros un ymgeisydd a hynny gyda chymorth ffon a barn ar yr ymgeisydd yna.
Ecsclwsif!

Alwyn ap Huw said...

Mae tudalen flaen fy mhapur lleol innau (North Wales Weekly News Dyffryn Conwy) yn cynnwys stori'r un mor hurt, sef un am yr ymgeisydd Ceidwadol yn cynnal protest er mwyn ymgyrchu dros groesfan yn y Llansanffraid Glan Conwy (er gwaetha'r ffaith bod trefniadau ar gyfer creu'r groesfan eisoes ar y gweill).

Y rheswm pam bod storïau tebyg yn cael tudalen blaen papurau lleol yw diffyg newyddiadurwyr i ymchwilio stori ar gyfer y papurau Cymreig.

Yr hyn y mae Louise yn Llwyngwril a Dan yn Llansanffraid wedi gwneud yw cynnig stori dda ar blât i'r papurau lleol. A chware teg i'r ddau am achub ar y cyfle. Dyma wers i Blaid Cymru a'r achos cenedlaethol ehangach: mae'r Cambrian News, y NWWN, Y Caernarfon & Denbigh, y Llanelli Star ac ati yn awchu am storïau i'w gosoda ar eu tudalennau blaen - onid ein lle ni, yn absenoldeb gwell gyfryngau, yw eu bwydo nhw?

Plaid Gwersyllt said...

Mae Alwyn yn llygad ei le! Mae cyn lleied o newyddiadurwyr da ar ol ac mae hi'n dipyn hawsach "copy & paste" stori o ddatganiad na gneud y gwaith caib a rhaw.

Ifan Morgan Jones said...

"Mae cyn lleied o newyddiadurwyr da ar ol ac mae hi'n dipyn hawsach "copy & paste" stori o ddatganiad na gneud y gwaith caib a rhaw."

Dw i didm yn credu ei bod hi'n fater o 'ddiffyg newyddiadurwyr da' ond yn hytrach 'diffyg newyddiadurwyr'. Beth sydd ei angen ar newyddiadurwyr er mwyn dod o hyd i straeon da ydi amser. Ond y gwir ydi bod papurau newydd yn torri'n ol yn gyson ar nifer eu newyddiadurwyr ac yn disgwyl i'r rhai sy'n weddill wneud mwy (creu fideos/uwchlwytho straeon i'r wefan ayyb). Y canlyniad ydi nad oes gan y newyddiadurwr papur lleol amser i adael ei ddesg, heb son am ymchwilio i straeon o safon.