Wednesday, May 20, 2009

Etholiad yn yr haf?


Os ydi hwn i'w gredu mae perygl i ni gael etholiad yn yr haf.

Mae met Gordon Brown - Nick Brown wedi nodi mewn neges Twitter (sydd bellach wedi ei dileu) mai ychydig o wythnosau fydd gan y Llefarydd newydd i setlo cyn y bydd etholiad yn cael ei galw.

Bydd y Llefarydd newydd yn cael ei ethol ar Fehefin 22, sy'n awgrymu (os ydi camgymeriad Brown i'w gymryd o ddifri) y bydd yr etholiad yn cael ei galw ym mis Gorffennaf, a'i chynnal ym Mis Awst. Fedra i ddim cofio etholiad o unrhyw fath (ag eithrio is etholiadau cyngor) yn cael ei chynnal ar yr amser yma o'r flwyddyn.

Byddai'n sicrhau cyfradd pleidleisio isel gan y byddai cymaint o bobl ar eu gwyliau. Efallai y byddai hefyd o rhywfaint o fantais i Lafur - bydd yn lleihau faint o bobl sy'n fodlon gweithio tros bleidiau a ni fydd llawer yn gweithio tros Lafur beth bynnag o dan yr amgylchiadau sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Hefyd wrth gwrs bydd y dosbarthiadau canol i ffwrdd ar eu gwyliau - ac mae Llafur wedi hen golli'r rheiny.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Gall bod yn drychinebus i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'r Rhydd Dems yn dueddol o wneud yn dda mewn etholaethau sydd yn cynnwys prifysgolion ond bydd y myfyrwyr ddim yn yr etholaethau ym mis Awst. Llesol i'r Blaid yng Ngheredigion efallai.

Cai Larsen said...

Ia - efallai Alwyn - ond mae'r Lib Dems wedi dod allan o hyn oll yn gymharol dda - nid nhw fydd yn dioddef fwyaf.

Wedi dweud hynny efallai mai un o'r straeon yna sydd yn cerdded y We o bryd i'w gilydd ydi'r peth i gyd.