'Dwi'n gwybod nad ydi'r croeso i ddatganiad Jane Hutt heddiw ynglyn a datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg wedi derbyn croeso di gymysg, ond i mi mae ymhlith y datblygiadau mwyaf cadarnhaol i ddeillio o gytundeb Cymru'n Un. Mae hefyd yn ddadl bwerus iawn pam ei bod yn angenrheidiol i Blaid Cymru fod mewn llywodraeth.
I fod yn fras iawn, bwriad y cynllun ydi ei gwneud yn ofynol ar i Awdurdodau Lleol ganfod faint o alw sydd am addysg Gymraeg yn eu hardal nhw a mynd ati i ddiwallu'r galw hynny. Mae lle cryf i gredu bod y galw am addysg Gymraeg yn uwch o lawer na'r cyflenwad ym mhob rhan o Gymru bron - ceir tystiolaeth o hyn heddiw. Yn wir mae'n debyg bod mwy na hanner rhieni'r wlad eisiau addysg Gymraeg i'w plant - 21% o blant 7 oed sy'n derbyn addysg Gymraeg heddiw a 10% sy'n sefyll eu TGAU sy'n gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cynllun yn gosod targed o gynyddu'r ffigyrau hyn i 25% a 13%. Mae'r targedau yma yn uchelgeisiol, ond maent hefyd yn gyraeddadwy. O'u gwireddu byddant yn gamau arwyddocaol tuag at wireddu nod Cymru'n Un o greu Cymru ddwyieithog.
Cyn cynhyrfu'n lan ('dydi gor ganmol - nag yn wir canmol o gwbl - ddim ymhlith nodweddion y blog yma), efallai y dyliwn ychwanegu ychydig eiriau o amheuaeth. Os ydi'r cynllun yn mynd i weithio mae'n bwysig cymryd y canlynol i ystyriaeth:
(1) Dylid sicrhau bod y fethodoleg mae Awdurdodau yn ei defnyddio wrth ganfod faint o alw sydd yn gyson ac yn effeithiol. Mae'n hawdd cael unrhyw waith ymchwil i ddod i'r canfyddiad mae'r sawl sy'n ei gomiwsiynu ei eisiau trwy lunio'r fethodoleg mewn ffordd arbennig.
(2) Dylid sicrhau bod pob Awdurdod yn gorfod llunio cynllun gweithredu sy'n manylu ar sut yn union, ac erbyn pryd maent am ddarparu'r wasanaeth. Os nad ydi'r cynlluniau gweithredu hyn yn foddhaol, dylai'r asiantaeth arolygu ESTYN lunio rhai ar ran yr Awdurdod. Dylai ESTYN hefyd arolygu sut mae pob Awdurdod yn gweithredu eu cynllun.
(3) Lle nad ydi Awdurdod yn llwyddo i ddiwallu'r galw am addysg Gymraeg dylid eu cosbi'n ariannol, a dylid rhoi'r adnoddau a godir felly i Awdurdodau sy'n llwyddo i ddiwallu'r angen hwnnw er mwyn iddynt ddatblygu addysg cyfrwn Cymraeg ymhellach.
Mae gen i ofn os nad oes elfen gref o orfodaeth bydd datblygiad addysg Gymraeg yn parhau'n dameidiog (a defnyddio ansoddair Jane Hutt). Bydd Awdurdodau gwrth Gymreig megis Rhondda Cynon Taf neu Merthyr yn dod o hyd i ffyrdd o beidio a chwrdd a'u cyfrifoldebau.
Wedi dweud hyn oll 'dwi'n argyhoeddiedig bod hwn yn gam sylweddol yn hanes addysg Gymraeg.
1 comment:
cytuno - mae angen bod yn wyliadwrus, ond mae hwn yn gam fawr iawn.
Fel ddywedodd D. Enw ar flog Vaughan, 139 mlynedd wedi Deddf Iaith 1870 wnaeth gymaint o niwed i'n hiaith, mae ganddom ni lywodraeth, sydd o'r diwedd yn rhoi datblygu'r Gymraeg a chamau a strategaeth bendant ar ei gyfer ar ganol ein system addysg.
Os gall Cymru'n Un weithredu hwn bydd yn gymynrodd bwysig iawn i'r genedl.
Post a Comment