Monday, May 11, 2009

Apel Cheryl, Toby a Hector



'Dydi hi byth yn hawdd gofyn i ddieithriaid am bres i fwydo'ch cwn, ac mae llawer iawn o sbeitio snobyddlyd yn gallu cael ei daflu tros y treueniaid sy'n gorfod gwneud hyn. Er enghraifft mae'r Daily Telegraph, efallai'r papur mwyaf snobyddlyd yn y Bydysawd, wedi bod yn gwneud yn union hynny i ferch dra anffodus o Landaf yng Nghaerdydd.

Er i Cheryl gael ei geni i deulu da iawn a'i haddysgu yn Cheltenham Ladies College yn anffodus aeth i fyw i Lundain lle sythiodd ei statws yn y Byd gyda chyflymder dychrynllyd bron mor ddi symwth a chwymp Jonathan Aitken neu Jeffrey Archer. Mewn dim roedd yn byw ar y strydoedd oer, caled gyda neb ag eithrio ei dau gi - Toby a Hector yn gyfeillion iddi.

Rwan mae Cheryl yn gyfangwbl ddibynol ar Hector a Toby am gwmni ac am ei diogelwch personol ar strydoedd cas y ddinas fawr. Yn anffodus ni all fforddio eu bwydo nhw - felly mae'n gorfod meddwl am ffyrdd creadigol a dychmygus o gadw cyrff ac eneidiau ei chyfeillion blewog ynghyd. Dyna ddigwyddodd pan ddaeth o hyd i bentwr o ffurflenni costau o Dai'r Cyffredin yng ngardd hynod rhywun o'r enw Alan Duncan - ac mi hawliodd gostau am Pedigree Chum i Toby a Hector. Llenwi ffurflenni o'r math yma ydi un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol mae neb wedi meddwl amdano o gael pres gan bobl eraill.

Ond yn anffodus, oherwydd sbeit y Telegraph bu'n rhaid i Cheryl dalu'r pres i gyd yn ei ol. Felly mae gen i ofn bod perygl marwol i gwn Cheryl. 'Dwi'n bwriadu anfon siec o £10 iddi er mwyn rhoi cymorth iddi fwydo'r cwn. Os oes rhywun arall am wneud yr un peth gellir anfon arian iddi trwy law Cronfa Amddiffyn Toby a Hector, 4 Ffordd Penlline, Caerdydd, CF14 2XS. Cyfranwch yn hael gyfeillion - mae'r achos yn un da.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mae Geoffrey Archer a Jeffrey Archer ill dau yn awduron byd enwog. Geoffrey efo G yw'r storïwr gorau o'r ddau, ond Jeffrey efo J yw'r Arglwydd, y cyn AS Ceidwadol a'r cyn carcharor.

Cai Larsen said...

Cweit - well i mi newid pethau cyn bod yn wrthrych achos llys.