Monday, December 08, 2008

Kirsty Williams, y Lib Dems a'r BBC





Llongyfarchiadau i Kirsty Williams ar gael ei hethol yn arweinydd y Lib Dems yng Nghymru. Mae blogmenai wedi darogan hyn ers talwm wrth gwrs. Mae blogmenai yn gywir am pob dim, pob amser. Hon yn ddi amau ydi'r joban mwyaf heriol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ystyriwch hyn - gyda'r drefn etholiadol ryfedd sydd gennym yn y Cynulliad y lleiaf o seddi mae'n ymarferol bosibl i'r Lib Dems eu cael ydi pump (hy un ar pob rhestr ranbarthol). Chwe sedd mae'r Lib Dems wedi ei gael ym mhob etholiad Cynulliad hyd yn hyn - un yn fwy na'r lleiafswm posibl. Son am dan gyflawni.

Mae yna reswm amlwg tros y tan gyflawni epic yma wrth gwrs - sef nad oes yna fawr o bwrpas i'r Lib Dems yng nghyd destun gwleidyddiaeth Gymreig. Roedd Kirsty yn son heddiw am ail gynnau gwleidyddiaeth rhyddfrydig - ond dyna'r broblem, mae'r traddodiad rhyddfrydig yn bwysig iawn yng Nghymru, ac mae ei ddylanwad yn fawr ar y pleidiau mawr Cymreig eraill. Dydi bod yn ryddfrydig ddim ynddo'i hun yn rhoi'r hunaniaeth unigryw mae'n rhaid wrtho i lwyddo'n etholiadol. Mae'n anodd gen i weld pa dir gwleidyddol gwag sydd ar gael iddynt mewn gwleidyddiaeth Gymreig, ac felly mae'n anodd gweld Kirsty'n newid pethau.

Ar nodyn arall, roedd ymdriniaeth y BBC o'r gystadleuaeth yn ddigri. Yr ystrydebau oedd yn cael eu gwthio oedd bod Jenny yn 'brofiadol', tra bod Kirsty yn 'garismataidd'. Rwan 'dwi'n gallu meddwl am lawer o ansoddeiriau i ddisgrifio Kirsty - ond 'dydi hi'n sicr ddim yn garismataidd. Mae ei mynegiant llafar yn brenaidd os nad yn glogyrnaidd, 'dydi hi byth yn dweud unrhyw beth gwreiddiol na ffraeth. Ond mae hi'n gymharol ifanc, ac mae'n ddel. 'Fedar y Bib ddim ei disgrifio fel yr ymgeisydd 'del' (am resymau sy'n ymwneud a chywirdeb gwleidyddol a ballu) , felly maent yn defnyddio'r gair 'carismataidd'. Hyd yn oed Vaughan Roderick, wir Dduw.

17 comments:

Anonymous said...

Cytuno yn llwyr am y bbc. Beth yw'r nonsens ma yn disgrifio kirsty hb charismataidd go ddim yn gwybod. Mae'n hollol Ddi-sylwedd...

Anonymous said...

Da iawn blogMenai. O'r diwedd sylwadau call am sefyllfa'r Lib Dems.

Ychydig dwi'n wybod am Kirsty ond o leiaf dwi'n medru gweld nad yw hi'n gymeriad carismataidd - ond cofiwch, nid drwg o beth yw hynny - yn enwedig pan mae galw am ychydig o swmp a sylwedd. Y broblem fawr sy'n wynebu Kirsty yw ateb y cwestiwn anodd 'what are the Lib Dems for.'- ac mae angen mwy na carisma i ateb hwnna.

Yr ofn sydd gen i yw nad oes yna fwy o sylwedd yn Kirsty nag oedd yn Sarah Palin gynt. Cawn ni weld.

Cai Larsen said...

Cytuno efo still a liberal yma. Mae ychydig o garisma o gymorth i arweinydd gwleidyddol - ond mae nodweddion pwysicach o lawer i arweinydd llwyddianus.

Anonymous said...

Ar y cyfan dydw i ddim yn sylwi ar ferched... del ai peidio!
Yr unig ystyr i'r gair carismataidd yw ei bod yn emosiyniol wrth areithio.
Ond cym on...sut arall mae gwahaniaethu?

Cai Larsen said...

Hmm - mae'n debyg y byddai'n anodd disgrifio un fel 'ymgeisydd ifanc ddel', a'r llall fel 'ymgeisydd ddim mor ifanc a ddim mor ddel'.

Anonymous said...

Mae'n tipy o bishyn ond yw hi?

Anonymous said...

This design iѕ ѕtellеr! Үou most certainly
know hoω to κeep a readеr amuѕed.
Bеtween уour wit and your videοѕ, I ωaѕ almost moveԁ to start my own blog (wеll, almost.
..HаHа!) Wonderful job. I reаlly enϳoyed what you had to sаy, anԁ morе than
that, hoω you presented it. Too cool!
Look into my webpage aging Skin Care tips

Anonymous said...

I'm gone to inform my little brother, that he should also visit this weblog on regular basis to obtain updated from most recent information.
hardwood flooring

Anonymous said...

Wow, that's what I was looking for, what a information! existing here at this webpage, thanks admin of this web page.

My site - zetaclear nail fungus relief

Anonymous said...

Hey! Someone in my Facebook group shared this site with
us so I came to look it over. I'm definitely loving the information. I'm bookmarking and will be
tweeting this to my followers! Great blog and amazing design.


my website ... hardwood flooring

Anonymous said...

This post is actually a fastidious one it assists new the web
viewers, who are wishing in favor of blogging.


Here is my website; housekeeping management

Anonymous said...

I am genuinely thankful to the owner of this web site who has
shared this great paragraph at here.

My website: house cleaning phoenix

Anonymous said...

valium online valium side effects duration - buy valium online roche

Anonymous said...

I am genuinely grateful to the owner of this website who has shared this great article at
at this time.

Here is my page: buy zetaclear
My page - zetaclear side effects

Anonymous said...

Hοwdy very cool webѕitе!!
Man .. Excellеnt .. Wonderful .. І wіll bookmаrk your blοg аnd tаke the feeԁs addіtionally?
I am satіѕfieԁ to sеek out numeгоus helpful infoгmatіon heгe withіn the pοst, we want work out morе tеchnіquеs іn thіs regагd, thаnκs for sharing.
. . . . .

My homepage v2 cigs review

Anonymous said...

еxactly where do ωe buy elеctгoniс cigarеttes

Also visit my sitе :: Green smoke reviews

Anonymous said...

Excellent waу of telling, and fastidіous
paragrаph to obtain ԁata rеgardіng my pгesеntation
subјect mattеr, whіch i am going to рresеnt
іn university.

mу homepage :: http://www.adminhouse.jp