Wednesday, December 24, 2008

Refferendwm - pryd?

Mae nifer o faterion wedi codi yn y ddadl ar waelod fy mlog isod - ac os caf gyfle ceisiaf edrych ar un neu ddau o'r materion tros y diwrnodiau nesaf. 'Dwi am gychwyn efo amseriad refferendwm.

I ddechrau fe gawn ni anwybyddu sylwadau Dafydd Elis Thomas yn y Western Mail. Yn anffodus mae Dafydd yn benderfynol mai fo ydi Connor Cruise O'Brien cenedlaetholdeb Cymreig, ac mae'n cael hwyl yn dweud pethau sy'n gwneud i bobl fel Hogyn o Rachub a Hen Rech Flin neidio i fyny ac i lawr mewn cynddaredd. Mae'r sylwadau y dylid disgwyl tan bod 20% o fwyafrif a bod rhaid wrth gytundeb y gymdeithas gyfan yng Nghymru - nid i'r Blaid a Llafur yn unig yn arbennig o ffol, ond wnawn ni ddim aros efo nhw rhag ofn i mi gael fy hun yn neidio i fyny ac i lawr ar ben yr un bocs sebon a HRF a HoR.

Mae erthygl Richard Wyn Jones yn Barn yn haeddu mwy o barch fodd bynnag. Dadl Dicw ydi na ddylid mynd am refferendwm eto oherwydd nad oes modd sicrhau mwyafrif tros bwerau deddfu ar hyn o bryd oherwydd nad oes modd adeiladu ymgyrch gryf o blaid hynny yn ystod y cyfnod o gwmpas etholiad cyffredinol Prydeinig. Mae sylwedd i'r ddadl yma. Mi fyddwn i'n ychwanegu problem arall hefyd - mae'r amgylchiadau anodd economaidd a geir ar hyn o bryd yn ei gwneud yn llai tebygol y byddai refferendwm yn llwyddiannus - yn yr un ffordd a bod annibyniaeth i'r Alban wedi ei daflu'n ol oherwydd y cyd destun economaidd.

Mae yna ateb, ac mae hwnnw ar gael yn erthygl Dicw - er nad ydi o yn tynnu sylw ato. Un o'r pwyntiau diddorol mae Dicw yn eu codi yn ei erthygl ydi bod y drefn anfoddhaol bresennol o anfon LCOs i San Steffan yn golygu bod aelodau'r pwyllgor dethol tros faterion Cymreig yn San Steffan gyda mwy o ddylanwad tros faterion Cymreig na llawer i aelod o'r Cynulliad ei hun. Mae'n debygol mai'r Toriaid fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf a bydd hyn yn arwain at fwyafrif iddynt ar y pwyllgor dethol - beth bynnag y canlyniad yng Nghymru. Golyga hyn y bydd y drefn bresenol o ddeddfu trwy LCOs yn arwain at ddylwanad sylweddol gan y Toriaid - pobl fel David Davies a David Jones - ar y broses o ddeddfu yng Nghymru.

'Rwan, dydi'r Toriaid ddim yn dderbyniol i elfennau arwyddocaol o gymdeithas yng Nghymru - a fyddan nhw byth. Mae hyn yn rhoi cyfle i adeiladu naratif gwleidyddol a allai ennill - pleidleisiwch Ia er mwyn sicrhau nad yw'r Toriaid yn rhedeg y sioe yng Nghymru. Ni fyddai'n naratif cwbl onest - ond yng nghyd destun troelli gwleidyddol Prydeinig mae'n ddigon di niwed. Yn bwysicach mae'n llawer gwell naratif etholiadol na pleidleisiwch Ia er mwyn sicrhau bod deddfau sy'n ymwneud a Chymru yn cael eu creu yng Nghymru .

Wrth gwrs gallai'r Toriaid yn San Steffan atal y refferendwm - ond byddai hynny'n sicrhau llwyddiant yn diweddarach wedi i'r Toriaid golli grym.

2 comments:

Anonymous said...

rhidian: "Dafydd yn benderfynol mai fo ydi Connor Cruise O'Brien cenedlaetholdeb Cymraeg,"

anghytuno 'da ti am y busnes persription a sosialaeth ond cytuno 'da ti 100%ar hwn. DET yn ceisio bod yn Dilechdid mewn un dyn. Plentynaidd wir.

Anonymous said...

Wel, blogMenai ddywedodd hyn, nid fi.

Dwi'n cytuno i raddau. Dwi yn hoff iawn o Dafydd, ond mae o yn hoffi cicio'r nyth cacwn weithiau! Pwy all ei feio? - mae gwylio Alwyn ap Huw a'i fath yn mynd yn flin yn ddoniol dros ben!