Tuesday, May 27, 2008

Y cythral canu - steil Glasgow

Treuliais ddiwrnod neu ddau yn yr Alban tros y gwyliau hanner tymor. Cefais fy hun un prynhawn – prynhawn Sadwrn rownd derfynol cwpan yr Alban fel mae’n digwydd – ym marchnad enwog y Barrowlands ychydig i'r dwyrain o ganol y ddinas.

Un o nodweddion anisgwyl y farchnad ydi’r tafarnau sy’n ei hamgylchu – maent yn dafarnau y gellir eu disgrifio am wn i fel tafarnau Celtic. Celtic, wrth gwrs ydi un o ddau glwb pel droed mawr Glasgow, Rangers ydi’r llall. Mae'r Barrowlands wedi ei leoli ar y brif ffordd o ganol y ddinas i Parkhead, neu Celtic Park. Ceir clybiau eraill yn y ddinas wrth gwrs, ond stori arall ydi honno. Beth bynnag, clwb sy’n cael ei gefnogi gan Babyddion y ddinas ydi Celtic, ac mae llawer iawn o Babyddion yn Glasgow, fel yng ngweddill Gorllewin yr Alban. Mae Celtic hefyd yn boblogaidd iawn yn yr Iwerddon – yn y De a’r Gogledd.

Ceir hen hollt secteraidd yng Ngorllewin yr Alban sy’n dyddio o’r cyfnod Tuduraidd, ac achosodd hyn gryn dywallt gwaed o bryd i’w gilydd. Y digwyddiad mwyaf enwog mae’n debyg oedd cyflafan Glencoe ym 1692 pan laddwyd aelodau o'r llwyth Pabyddol Clan MacDonald gan lwyth Protestanaidd o’r enw’r Clan Campbell.

Cafodd yr hollt hwnnw ei atgyfnerthu yn sylweddol yn ystod y ddeunawfed ganrif pan symudodd degau o filoedd o Wyddelod Pabyddol i Orllewin yr Alban, gan gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd yn dilyn Gorta Mór yn Iwerddon pan adawodd cyfran sylweddol o’r Pabyddion (a’r Iwerddon Babyddol, Wyddelig ei hiaith a ddryllwyd gan y newyn) a oroesodd y wlad i bedwar ban byd. Symudodd llawer i Orllewin yr Alban gan newid y cydbwysedd secteraidd yn sylweddol. Ar uchafbwynt yr allfudo mawr mae'n debyg bod 8,000 o Wyddelod yn cyrraedd Glasgow yn wythnosol.

Ers hynny mae cysylltiad agos wedi bod rhwng Iwerddon, ac yn arbennig Gogledd Iwerddon a Gorllewin yr Alban, ac mae gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon wedi dylanwadu ar agweddau ar fywyd a gwleidyddiaeth mewn trefi a dinasoedd megis Glasgow. Er enghraifft, yn Glasgow y ganwyd James Connolly, ac yn yr un ddinas y ganwyd rhai o arweinwyr modern Sinn Fein – Pat Doherty er enghraifft. Mae acen Gogledd Iwerddon i’w chlywed yn eithaf mynych mewn tafarnau Pabyddol yn Glasgow. Mae’n debyg mai lleiafrif o Babyddion Gogledd Iwerddon sydd heb nain neu daid wedi ei geni / eni yn yr Alban. Mae cyfenwau Albanaidd yn gyffredin iawn yng Ngogledd Iwerddon, yn union fel mae cyfenwau Gwyddelig yn gyffredin yng Ngorllewin yr Alban.

Beth bynnag, yn ol at dafarnau Celtic ardal y Barrows. Ar yr olwg gyntaf maent yn ymdebygu i dafarnau mewn ardaloedd dinesig dosbarth gweithiol, Pabyddol yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’r tafarnau yn adlewyrchu daliadau gwleidyddol y sawl sy’n eu defnyddio. Digon o faneri y tu mewn a’r tu allan – rhai disgwyledig megis y tricolor, rhai llai disgwyledig megis baneri Gwlad y Basg, Paleisteina neu’r estelada Gatalanaidd yn ogystal a rhai a sy’n amlwg yn cael eu chwifio i wylltio gwrthwynebwyr gwleidyddol (baner yr Ariannin yn hongian y tu allan i dafarn ar brif ffordd brysur er enghraifft). Digon o bariffenalia Celtic ar y muriau a’r nenfwd ac ambell i lun o eiconau Gweriniaethol, ymprydwyr newyn yr 80au a chopi o'r proclomasiwn a ddarllenwyd gan Pádraig Pearse ar risiau’r GPO yn ol yn 1916 er enghraifft – testun sy’n ymylu ar fod yn sanctaidd yn y traddodiad Gweriniaethol.

Yr hyn oedd yn drawiadol am dafarnau’r Barrows fodd bynnag oedd y ffordd roedd eu selogion yn ymddwyn. Wedi i’r rownd derfynol ddod i ben (gyda Rangers yn ennill yn erbyn Queen of the South – canlyniad na achosodd lawenydd) aeth pawb ati i wneud yr hyn y byddant yn ei wneud pan nad oes gem bel droed i’w gwylio – canu. Un math o gan yn unig oedd yn cael ei chanu – un wedi ei chymryd o’r traddodiad canu gwerin Gweriniaethol. Caneuon rebel ydi'r term am wn i. Mae’n debyg bod canoedd o ganeuon yn syrthio i’r traddodiad hwn, ac mae’n draddodiad sy’n mynd yn ol rhyw ddau gan mlynedd. Ceir caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn sgil pob rhyfel Gwereniaethol – o gyfnod gwrthryfel mawr yr United Irishmen yn 1798 i’r rhyfel a ddaeth i ben yng nghanol y ddegawd diwethaf.



Bairds Bar, Glasgow. Gallwch ddisgwyl treulio trwy gyda'r nos yn gwrando ar ganeuon rebel yma.



Y Peadar O'Donnell, Waterloo Street Derry. Rydych yn llai tebygol o lawer i glywed y ffasiwn beth yma.

Yn amlach na pheidio bydd criw yn eistedd yn agos at ei gilydd ac yn gweithio eu ffordd o un gan i’r llall, cyn symud ymlaen i dafarn arall. Weithiau bydd mwy nag un criw yn gwneud yr un peth, ond yn canu can wahanol, ac felly’n cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mewn rhai criwiau ceir cryn amrywiaeth o ran oedran – gyda’r ieuengaf prin ddigon hen i fod mewn tafarn a’r hynaf yn eu saithdegau. Roedd rhai o ddefodau Gogledd Iwerddon yn cael eu dilyn i’r llythyren. Er enghraifft os ydi enw’r ymprydiwr newyn, Bobby Sands yn cael ei ynghanu’n gyhoeddus yn ardaloedd Pabyddol Gogledd Iwerddon, bydd pawb yn yr ystafell yn sefyll a churo dwylo. Roedd y ddefod bach yma’n cael ei dilyn i’r llythyren. Mae hyn yn ffordd rhyfedd iawn o dreulio amser hamdden i Albanwr.

Yr hyn sy’n ddiddorol ydi nad ydi’r ffordd yma o dreulio noswaith yn gyffredin yng Ngogledd Iwerddon. Yn sicr, cenir ambell i gan o’r math yma ar ddiwedd noswaith, a bydd tafarnau yn cyflogi bandiau sy’n arbenigo mewn canu Gweriniaethol weithiau. Ond, pan mae pobl yn mynd allan i dafarnau, maent yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n debyg i’r arfer yng Nghaernarfon, Crewe neu Poole. Maent yn mynd allan i sgwrsio, chware pwl, fflyrtio, dawnsio neu beth bynnag. Mae dyn yn fwy tebyg o glywed Johnny Cash ar sgrechflwch yn Crossmaglen na'r Wolfe Tones.

Dydi’r gwahaniaethau ddim yn peidio yna. Er bod cysylltiadau cryf rhwng Gorllewin yr Alban a Gogledd Iwerddon fel y trafodwyd uchod, dim ond ar leiafrif bach iawn o Albanwyr y cafodd y rhyfel hir yn y Gogledd effaith uniongyrchol. Ychydig iawn, iawn o Albanwyr a garcharwyd neu a laddwyd, ni ffrwydrodd y rhyfel ar strydoedd Glasgow, a dweud y gwir nid oedd unrhyw weithred o ryfel yn yr Alban fwy na Chymru. Bydd selogion tafarnau'r Barrows yn gwisgo crysau T sy'n mynegi cefnogaeth i'r IRA, ac yn llafarganu sloganau i fynegi cefnogaeth o'r fath. Bydd hyn yn digwydd mewn digwyddiadau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, a ceir tystiolaeth o bresenoldeb yr IRA ym mhob tref hyd heddiw, ond dydi ymddygiad o'r fath ddim yn gyffredin pan mae pobl yn hamddena.

Mae rhannau o Ogledd Iwerddon, y stadau tai ar gyrion y Lower Falls er enghraifft, lle mae’r rhyfel wedi effeithio’n uniongyrchol ac yn ddistrywgar ar fywyd fwy neu lai bawb. Ychydig iawn, iawn o bobl mewn llefydd felly sydd heb rhyw berthynas agos neu’i gilydd wedi ei ladd, ei anafu neu ei garcharu am gyfnod maith. Cafodd llawer iawn o deuluoedd, y mwyafrif mae'n debyg y profiad o gael y lluoedd diogelwch yn torri i mewn i’w tai ac yn eu harchwilio yn oriau man y bore.

Mae’r rhan fwyaf o ‘Weriniaethwyr’ yr Alban yn pleidleisio i blaid unoliaethol. Y Blaid Lafur ydi plaid mwyafrif Pabyddion Gorllewin yr Alban. Mae Protestaniaid yn llawer mwy tebygol o bleidleisio i’r SNP. ‘Dydi’r ddelwedd anymunol ond gogleisiol o Gordon Brown yn lapio ei hun mewn Jac yr Undeb ddim yn ymddangos i fod yn broblem fawr yn y byd rhyfedd yma. Mae'r bleidlais Babyddol yn gydadran greiddiol o'r glymblaid o elfennau yng nghymdeithas yr Alban sydd wedi sicrhau degawdau o oruwchafiaeth y Blaid Lafur. Go brin ei bod yn ormodiaeth i ddweud mai Plaid Lafur yr Alban ydi'r prif rym sy'n sefyll rhwng yr Alban a'i hannibyniaeth. Mae Pabyddion Gogledd Iwerddon yn ddi eithriad bron yn pleidleisio i bleidiau sy'n wrthwynebus i'r Undeb.

'Dydi hi ddim yn anodd egluro'r ddeuoliaeth yma, os ydym yn ceisio deall agweddau ac ymddygiad Pabyddion dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd hyn mewn termau hunaniaeth yn hytrach na mewn termau gwleidyddol. Ffordd eithafol braidd o atgyfnerthu hunaniaeth sydd mewn rhai ffyrdd yn eithaf bregus ydi'r arfer o ganu, ac ail ganu caneuon rebel, ac ymddwyn mewn ffordd sydd mewn gwirionedd yn barodi o batrwm ymddygiad pobl ym Melffast a Derry. Gwedd arall ar y dosbarthiadau Gwyddelig a'r clybiau GAA sy'n gyffredin yn yr Alban hyd heddiw ydyw. I rhyw raddau mae tebygrwydd rhwng cymanfa ganu yn yr America a sesiwn o ganu caneuon Gwereniaethol gan griw o Albanwyr meddw yn Glasgow.

Daw hyn a ni yn ol atom ni ein hunain (fel pob cyfraniad yn y blog hwn erbyn meddwl). Mae'n drawiadol nad ydi'r ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn goroesi yn aml ymysg Cymry sydd wedi eu magu y tu hwnt i ffiniau Cymru. Mae hyn yn dra gwahanol i hunaniaeth Gwyddelig y tu hwnt i'r Iwerddon. Bydd hwnnw'n aml yn goroesi am ganrifoedd.

Yn ddi amau ceir eithriadau - mae goroesiad y Gymraeg yn y Wladfa yn esiampl nodedig. Gall y rhan fwyaf ohonom hefyd feddwl am unigolion sy'n siarad Cymraeg ac yn ystyried eu hunain yn Gymry, er eu bod wedi eu geni a'u magu mewn gwlad arall. Ond beth ddigwyddodd i'r degau o filoedd o Gymry Cymraeg o Ogledd Cymru a fudodd i Lerpwl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Beth am yr holl Gymry a fudodd i Lundain o'r maes glo a'r Gymru wledig fel ei gilydd yn ystod yr un ganrif?

Mae'r ateb yn siwr o fod yn gymhleth - mewnol (o gefn gwlad i'r maes glo) oedd y rhan fwyaf o fudo Cymreig, doedd cyfraddau geni yng Nghymru ddim mor uchel ag oeddynt yn yr Iwerddon ac felly nid oedd y fath niferoedd yn symud. Ond eto mae'r cwestiwn yn aros - symudodd llawer iawn, iawn mwy o Gymry i Lerpwl nag aeth i'r Wladfa, ac eto yn Ne America mae hunaniaeth Gymreig wedi goroesi, tra'i fod wedi marw i bob pwrpas ychydig filltiroedd tros y ffin yn Lerpwl.

'Dwi ddim yn honni fy mod yn gwybod yr ateb i'r paradocs yma, ond hoffwn wneud cynnig arni. Byddwn yn arenwi pedair elfen gwahanol - ond dydyn nhw ddim yn gwahanol mewn gwirionedd, maent wedi eu cysylltu'n agos a'i gilydd:

(1) Chwyldro Diwydiannol. Cafodd y datblygiadau hanesyddol y byddwn yn eu galw yn chwyldro diwydiannol effaith ar y rhan fwyaf o ddigon o'r Cymry. Ni chafodd lawer o effaith ar y rhan fwyaf o Wyddelod. Arweiniodd hyn at newidiadau strwythurol pell gyrhaeddol mewn cymdeithas a gwleidyddiaeth yng Nghymru - newidiadau a'n gwnaeth yn fwy tebyg o lawer i Loegr nag oeddym cynt. Ni chafodd world view y rhan fwyaf o Wyddelod ei wyrdroi. O ganlyniad roedd yn haws i gymunedau Gwyddelig gadw hunaniaeth yn Lloegr a thu hwnt oherwydd bod gwahaniaethau yn eu canfyddiad sylfaenol o'r byd a'i bethau.

(2) Rhyfel a gwrthdaro. Mae traddodiadau milwrol cryf yn yr Iwerddon - mae un yng Nghymru hefyd, ond mae gwahaniaeth. Traddodiad o amddiffyn buddiannau'r Ymerodraeth Brydeinig a geir Nghymru. Mae traddodiad felly yn yr Iwerddon hefyd, ond mae traddodiad arall sy'n mynd yn ol ymhellach - un o ymladd yn erbyn Prydain ydi hwnnw. Ers creu'r Wladwriaeth Rydd yn y dau ddegau cynnar, dyma'r traddodiad swyddogol yn y 26 sir, a dyma'r traddodiad mae'r rhan fwyaf o Wyddelod ar hyd yr ynys a thu hwnt yn uniaethu efo fo. Atgyfnerthu hunaniaeth trwy dalu teyrnged i'r traddodiad yma mae canwyr tafarnau Glasgow.

(3) Crefydd. Mae'r rhan fwyaf o Wyddelod yn Babyddion, a Phrotestaniaid o gwahanol fathau ydym ni fel rheol. Mae mynychu man o addoliad yn dod a phobl at ei gilydd (yn union fel tafarnau). Tuedda addoldai penodol i ddenu pobl o gefndir penodol. Ceir rhai eglwysi heddiw sy'n dennu Pwyliaid, tra bod rhai eraill yn apelio at Babyddion cynhenid. Yn Glasgow byddai Pabyddion o'r Iwerddon yn mynychu rhai eglwysi, tra byddai Pabyddion o'r Ucheldiroedd neu'r Ynysoedd Gorllewinol yn mynychu rhai eraill. Mae ffocws cymunedol yn bwysig i boblogaethau sydd wedi eu gwasgaru - fel Pabyddion Glasgow a Chymry Llundain. Y broblem (yn y cyd destun hwn) efo'r enwadau Cymreig oedd eu bod yn gyfangwbl Gymraeg eu hiaith fel rheol. Felly pan na throsglwyddid iaith o un genhedlaeth i'r nesaf (ac nid yw'r Gymraeg yn cael ei throsglwyddo yn effeithiol trwy'r cenedlaethau yn yr unman ag eithrio rhannau daearyddol o Orllewin a Gogledd Cymru)byddai'r cyfarfod pob Sul yn dod i ben. Hefyd roedd cysylltiad rhwng crefydd a gwleidyddiaeth rhyngwladol yn y gorffennol. Yn y cyd destun yma byddai Gwyddelod yn cael eu dieithrio oddi wrth y wladwriaeth Brydeinig, tra byddai'r Cymry yn closio ati.

(4) Iaith. Rydym wedi cyffwrdd a hyn uchod, ac wedi nodi bod yr iaith yn gallu milwrio yn erbyn parhad ymwybyddiaeth Gymreig y sawl sy'n byw y tu allan i Gymru. Mae'r broblem yn ehangach. Mae llawer o sefydliadau Cymreig ag eithrio'r capel yn ddibynnol ar y Gymraeg i ryw raddau neu'i gilydd. Pan gollir yr iaith y tu allan i Gymru, collir yr ymdeimlad o fod yn Gymro hefyd - yn enwedig ag ystyried bod y Cymry yn debyg i'r Saeson mewn sawl ffordd arall.

6 comments:

Anonymous said...

It's actually a cool and helpful piece of information. I am happy that you shared this helpful information with us. Please stay us informed like this. Thanks for sharing.
my web site: Continue Reading

Anonymous said...

Awesome article.

My site - hardwood floors
my site: hardwood flooring

Anonymous said...

Wonderful, what a webpage it is! This web site presents
helpful information to us, keep it up.

Look into my web blog; treatment for toenail fungus
my site > nail fungus zetaclear

Anonymous said...

I am truly grateful to the owner of this site who has shared this enormous post at here.


my web site :: toe nail fungus treatments

Anonymous said...

Hello, i read your blog from time to time and i
own a similar one and i was just wondering if you get a lot of spam remarks?
If so how do you reduce it, any plugin or anything you can
recommend? I get so much lately it's driving me insane so any support is very much appreciated.
hardwood flooring

Feel free to surf to my website :: hardwood floors installation
My webpage :: hardwood floors

Anonymous said...

Your method of telling everything in this article is genuinely nice, all be capable of effortlessly know it, Thanks a lot.


my web blog :: natural hair
my web page :: uktop40charts.com