Sunday, May 11, 2008

Etholiadau lleol - rhan 2 - y Gorllewin

Y cynghorau sydd dan sylw yma ydi Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin.

Dyma’r ffigyrau moel:

Ynys Mon:

Plaid Cymru 8 (+2), Llafur 5 (+5), Ceidwadwyr 2 (+1) Democratiaid Rhyddfrydol 2 (+1), Eraill 23 (-9).

Gwynedd:

Plaid Cymru 35 (-8), Democratiaid Rhyddfrydol 5 (-1), Llafur 4 (-4), Llais Gwynedd 12 (+9), Eraill 18 (+4).

Ceredigion:

Plaid Cymru 19 (+3), Democratiaid Rhyddfrydol 10 (+1), Llafur 1 (-), Eraill 12 (-4).

Caerfyrddin:

Plaid Cymru 30 (+14), Llafur 11 (-14), Democratiaid Rhyddfrydol 1 (+1), Eraill 32 (-1).

Penfro:
Ceidwadwyr 5 (+4), Llafur 5 (-6), Plaid Cymru 5 (-), Democratiaid Rhyddfrydol 3 (+1), Eraill 42 (+1).

Felly mae’r Blaid yn symud ymlaen ychydig ym mhob man ag eithrio Gwynedd a Chaerfyrddin. Maent yn symud yn eu blaenau yn sylweddol yng Nghaerfyrddin, ond yn llithro yn ol yng Ngwynedd ac yn colli rheolaeth ar y cyngor.

Mae Llafur yn cael cweir ym mhob man ag eithrio Ynys Mon – ond mater technegol ydi hynny mewn gwirionedd. Roedd hoelion wyth Llafur yn eistedd fel grwp annibynnol y tro o’r blaen am resymau sy’n ddealladwy ond i’r ychydig sy’n deal gwleidyddiaeth yr ynys ryfedd honno.

Symudodd y Democratiaid Rhyddfrydol ymlaen mymryn bach ym mhob cyngor ag eithrio Gwynedd lle collwyd ychydig o dir.

Symudodd y Toriaid ymlaen ychydig ym Mhenfro, a mymryn ym Mon.

O edrych am batrymau cyffredinol mae’r canlyniadau hyn yn rhai arbennig o dda i’r Blaid – hyd yn oed ar ol cymryd trychineb Gorllewin Gwynedd i ystyriaeth. Hyd yn oed yng Ngwynedd mae agweddau cadarnhaol iawn i’r canlyniadau. Llwyddodd y Blaid i bentyrru mynyddoedd o bleidleisiau yn wardiau trefol dwyreiniol y sir – a gwneud hynny ar draul Llafur. Roedd y gweir i Lafur ar ei fwyaf syfrdanol yn y wardiau mwyaf dosbarth gweithiol. Curodd y Blaid Llafur o 444 i 173 ym Mheblig, o 424 i 118 yng Nghadnant – dwy ward di freintiedig iawn yn nhref Caernarfon. Curwyd Llafur o 332 i 124 yn Dewi – ward tebyg ym Mangor ac o 195 i 107 yn y ward agosaf ati yn Dewi. Stori tebyg oedd hi yn y pentrefi mawr dosbarth gweithiol.

Mae’r patrwm o gynnydd gan y Blaid yn yr ardaloedd trefol yn ymestyn tros y gorllewin (a thu hwnt fel y cawn weld yn ddiweddarach). Er enghraifft perfformiodd y Blaid yn gryf yn Aberystwyth, Llangefni, Aberteifi, tref Caerfyrddin ac yn nhref Llanelli. Mae’r patrwm o lwyddiant trefol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r Gorllewin, fel y cawn weld mewn blogiau eraill.

Yr unig ran siomedig o’r stori i’r Blaid ydi perfformiad gwael yn Ne Gwynedd, a’r un trychinebus yng Ngorllewin Gwynedd. Y cysur ydi bod ffyrdd gweddol hawdd i ymateb i’r problemau yma.

Mae’r stori i Lafur yn groes i un y Blaid. Nid oedd ganddynt fawr o gynrychiolaeth yn y gorllewin wledig beth bynnag. Maent bellach wedi colli eu cynrychiolaeth yn y trefi hefyd. Trychineb etholiadol o’r radd flaenaf. Tanchwa.

Bydd y Toriaid yn siomedig yma hefyd. Maent wedi gwneud yn dda tros lawer o Gymru, ac yn dda iawn mewn rhai rhannau, ond yn gwahanol i weddill y wlad ychydig iawn o argraff wnaeth y Toriaid yma ag eithrio ym Mhenfro. Er iddynt roi mwy o ymgeiswyr ymlaen nag erioed o’r blaen yn y Gymru Gymraeg, roedd y bleidlais a gafodd rhai o’u hymgeiswyr yn aml yn chwerthinllyd o isel 64 yn erbyn 564 Tom Ellis yn Nhrawsfynydd er enghraifft, neu 48 yn erbyn 503 Plaid Cymru a 202 yr ymgeisydd annibynnol ym Mwldan, Aberteifi. Dwi ddim yn dethol gormod yma – mae digon o enghreifftiau tebyg. Mae’r hen, hen batrwm yn dal nad yw’r Toriaid yn ei chael yn hawdd i ddennu pleidleisiau sydd o dan ddylanwad y traddodiad diwillianol sydd ynghlwm a’r iaith Gymraeg.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi symud yn eu blaenau ym mhob man, ond o safle mor wael ym mhob man ag eithrio Ceredigion fel nad oes fawr o arwyddocad pellach i’r symudiad hwnnw.

Mae’n anodd darllen ymlaen gormod o etholiadau lleol – ond meant yn pwyntio at yr hyn a allai ddigwydd mewn etholiad cyffredinol, ac maent yn rhoi adlewyrchiad gwell na hynny o’r hyn a ddylai ddigwydd mewn etholiad Cynulliad.

Felly dyma fy narogan ar gyfer yr etholaethau seneddol.

Ynys Mon: Nid yw’r data yma’n ddigonol i ddod i gasgliad ar eu sail, ond mae’n anodd gweld tanchwa Llafur yng ngweddill Cymru ddim yn effeithio ar y sedd ymylol yma (er bod gan Mon hanes o dorri ei chwys ei hun). Felly Phlaid i gipio yn yr etholiad San Steffan, a Plaid i gadw yn yr etholiad Cynulliad.

Arfon: Plaid i gipio yn hawdd yn yr etholiad San Steffan (sedd Llafur ydi hi ar bapur yn sgil y newid ffiniau), a Phlaid i gadw yn yr etholiad Cynulliad heb drafferth.

Meirion Dwyfor: Plaid i gadw yn weddol hawdd yn yr etholiad San Steffan, ac i gadw yn yr etholiad Cynulliad – er y gallai Llais Gwynedd fod yn her iddynt yn honno os nad ydi pethau wedi newid. Er mai hon oedd sedd gryfaf y Blaid o ddigon yn yr etholiad Cynulliad diwethaf, byddwn yn disgwyl i’r Blaid gael canran uwch yn Arfon a Dwyrain Caerfyrddin yn yr etholiadau San Steffan a Cynulliad nesaf. Mae niwed etholiadol wedi ei wneud yma.

Ceredigion: Plaid yn parhau i symud ymlaen, felly dylid ail ennill y sedd San Steffan mewn etholiad gweddol dyn, a chadw’r sedd Cynulliad yn rhwydd. Mae'r ffaith i ymgeisydd y Blaid golli ei sedd cyngor yn ffactor negyddol - ond digwyddodd hynny i Gwynfor Evans hefyd, ond aeth ymlaen i ennill sedd seneddol yn fuan wedyn. Un ffactor a allai fod yn bwysig yma ydi cynnydd yn y bleidlais Doriaidd yn sgil etholiad dda iddynt yn ehangach. Byddai hyn yn effeithio ar bleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, nid ar un y Blaid. Mae pethau mor agos gallai cynnydd bach wneud gwahaniaeth arwyddocaol. 'Dydi'r math o berson sy'n pleidleisio i'r Blaid ddim yn debygol o symud ei bleidlais i'r Ceidwadwyr.

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: Plaid i ddal yn hawdd yn San Steffan a’r Cynulliad. Bydd hon yn sedd gryfach yn y ddwy etholiad i’r Blaid na’r ddwy yng Ngwynedd.

Llanelli: Wedi craffu ar ffigyrau’r etholiadau lleol rwy’n barnu am y tro cyntaf y bydd Plaid yn cymryd hon yn yr etholiad San Steffan gyda mwyafrif o fwy na 5%. Bydd Helen yn dal y sedd yn hawdd yn y Cynulliad hefyd.

Preseli Penfro: Toriaid i’w dal yn hawdd tros Lafur yn yr etholiad San Steffan. Plaid ac nid Llafur fydd yn ail yn y Cynulliad.

Gorllewin Caerfyrddin, De Penfro: Toriaid i gipio sedd Nick Ainger yn hawdd yn etholiad San Steffan. Gallai Llafur gael trafferth i gael yr ail le hyd yn oed. Plaid i ennill y sedd oddi wrth y Toriaid yn yr etholiad Cynulliad

1 comment:

Hogyn o Rachub said...

Dyn dewr sy'n fodlon dweud yr aiff Môn yn erbyn ei llif arferol, ond dwi'n rhyw deimlo y gallai Môn fod yn weddol agos rhwng Plaid Cymru a'r Torïaid. Bydd rhywfaint eto'n dibynnu a fydd Peter Rogers yn penderfynu sefyll - a fydd, yn ôl canlyniad yr etholiad diwethaf, yn ergyd i Blaid Cymru, ond yn chwalfa i'r Torïaid. Dyn ag wyr pam, a fynta'n nob.

Fodd bynnag, dwi hefyd yn teimlo ei bod yn bosibl am y tro cyntaf (yn wirioneddol felly) darogan y bydd Plaid yn ennill yn Llanelli - canlyniad mawr, angen eithaf gogwydd, ond yn yr hinsawdd bresennol, mae'n bosibl iawn.

Fydd Arfon yn hawdd i PC. Petai Betty yn sefyll, fyddwn i ddim mor siwr, ond fydd Martin yn sicrhau hwn i'r Blaid.

Adam Price yn ddiogel iawn, iawn, yn enwedig o weld ei wrthynebydd ar CF99 (!), ac mi fydd y niwed yn Nwyfor Meirionnydd yn cael ei adlewyrchu yn y bleidlais.

Fodd bynnag, byddwn i ddim yn fodlon eto galw Ceredigion. Bydd hon yn agos iawn - dwi'm eto wedi fy argyhoeddi bod Plaid am ei chipio'n ôl - yn enwedig o ystyried nad enillodd yr ymgeisydd ei ward ei hun y tro hwn.