Wednesday, May 28, 2008

Cymro, Sais ta Phrydeiniwr?

Pob blwyddyn bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhyddhau data sy'n ymwneud ag addysg. Gweler yma.

Un darn digon difyr o wybodaeth a geir ydi cenedligrwydd plant (yn ol diffiniad y rhieni). Pan fydd plant yn cael eu cofrestru mewn ysgol gofynir i'r rhieni ddiffinio cenedligrwydd eu plentyn - mae Cymro, Sais a Phrydeiniwr ymysg y dewisiadau a geir (Gwyddel neu Albanwr ac Eraill ydi'r lleill).

Wele ganlyniadau 2007 wedi eu dosbarthu ar sail y pobl sy'n diffinio eu plant fel Cymry ar sail etholaethau seneddol.

Blaenau Gwent 83.1%
Ogwr 83%
Rhondda 82.7%
Castell Nedd 80.7%
Cwm Cynon 79.8%
Islwyn 78.4%
Caerffili 77.6%
Aberafon 76%
Arfon 75.8%
Pontypridd 74.5%
Merthyr 74.1%
Meirion Dwyfor 72.8%
Penybont 67.7%
Gogledd Caerdydd 67.5%
Llanelli 67.1%
Gwyr 64%
Dwyrain Caerfyrddin Dinefwr 63.7%
Torfaen 63.7%
Ceredigion 63.2%
Ynys Mon 63%
Preseli Penfro 60.4%
Gorllewin Caerdydd 60.6%
Gorllewin Caerfyrddin De Penfro 58.4%
De Caerdydd a Phenarth 57.9%
Aberconwy 57.2%
Canol Caerdydd 55.1%
Brycheiniog a Maesyfed 52.2%
Bro Morgannwg 52%
Dwyrain Abertawe 51.7%
Wrecsam 49.5%
Dyffryn Clwyd 48.8%
Gorllewin Abertawe 48.1%
De Clwyd 47.5%
Gorllewin Casnewydd 47.4%
Delyn 44.3%
Gorllewin Clwyd 44.2%
Dwyrain Casnewydd 42.8%
Trefaldwyn 41.3%
Mynwy 33.8%
Alyn a Glanau Dyfrdwy 20.5%

Rwan mae pobl am weld eu harwyddocad eu hunain i rai o'r ffigyrau. Dyma rhai o'r pethau sy'n fy nharo fi.

- mae rhai o'r etholaethaf mwyaf Saesneg o ran iaith ymysg y mwyaf Cymreig o ran ymdeimlad o genedligrwydd.
- mae rhai o etholaethau mwyaf difreintiedig y Deyrnas Gyfunol yn agos iawn i ben y rhestr.
- ceir perthynas rhwng y ffigyrau a refferendwm datganoli 1997 - tuedda'r ardaloedd a bleidleisiodd Ia i fod yn uchel ar y rhestr.
- mae'n gryn syndod i mi bod Caerdydd yn uwch nag Abertawe - er ei fod yn cadarnhau'r argraff rwyf yn ei chael bod newid sylweddol wedi bod yn agwedd trigolion y brif ddinas at eu cenedligrwydd ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn y ddinas.
- mae'n syndod i mi mai Gogledd Caerdydd - ardal gyfoethocaf y ddinas o ddigon yw'r uchaf. Does yna'r un o etholaethau'r Gorllewin ag eithrio Arfon a Meirion Dwyfor gyda ffigyrau uwch.
- ychydig mae'n debyg gen i a fyddai wedi disgwyl y byddai canrannau Llanelli yn uwch na rhai Dwyrain Caerfyrddin Dinefwr.
- mae Alyn a Glanau Dyfrdwy'n isel iawn ar y rhestr, yn wir mae mwy yn honni eu bod yn Saeson na sy'n dweud eu bod yn Gymry yma.
- mae ffigyrau Delyn mymryn yn uwch na rhai Gorllewin Clwyd.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Tdi ddim yn glir ofnadwy ar ddechrau dy gofnod mai canran sy'n Gymry sy'n caele ei nodi yn dy dabl (er roedd synnwyr cyffredin yn dweud mai dyna ti'n nodi).

Rhaid dweud mae gosodiad Alyn Dwyfor yn drist iawn, er ddim yn syndod.

Alyn and Deeside is the constituency where the lowest percentage of pupils consider their national identity to be Welsh (20.5 per cent), and where the most consider themselves to be English (27.7).

Fel rhywun sydd yn byw yng Nghaerdydd, dwi wedi synnu bod canran mor uchel yn nodi cenedligrwydd eu plentyn/plant fel Cymry. Wedi dweud hynny, dwi'n dod ar draws tipyn o fobl dosbath canol o Loegr yn y grwp oedran 35-50, sawl un a phlant wedi eu geni yma, ac mae nhw'n ymddangos fel eu bod wedi mynd yn native ac yn reit gwladgarol a brwd dros yr iaith, ond wedyn mae hynny gyda lot i wenud a'r cylchoedd dwi'n troi ynddynt efallai. Ddychmyga i bod llawer mwy fel arall ond mod i ddimyn eu cwrdd.

Ychydig oddi ar y pwynt, roedd 'arbennigwr' ar Radio Cymru heddiw yn trafod prisiau tai. Mae'n siaradwr Cymraeg ac yn ymgynghorydd morgeisi gyda arwerthwr tai Alan Harries.
Doedd ddim yn glir ofnadwy, ond dwi'n medwwl aeth i són sut bod y trend cenedlaethol (Prydeinig dwi'n tybio) ddim cweit yn wir am sefyllfa'r canogen ble roedd yn gweithio (ni soniwyd pa un, ond dwi'n dyfalu Pontcanna).
Aeth ymalen i ddweud yn y mis diwethaf, roedd 40% o'u cwsmeriaid o du allan i Gymru. Synnwyd y cyflwynydd a gofynodd iddo gadarnhau ei fod wedi clywed yn iawn, a dywedodd y boi wedyn bod 40% yn dod o du allan i Gymru a Phrydain, ond dwi ddim yn siwr os oedd o'n gwobod ei bethau wedyn.

Tra mae lot wedi newid yng Nghaerdydd dros y 5-10 mlynedd diwethaf, gyda llawer yn ddarganofd eu Cymreictod o'r diwedd, dwi'n mewddwl fod y ddinas yn cael ei Saesnigeiddio cryn dipyn - bron iawn mor gyflym a chefn gwlad Cymru!

menaiblog said...

Diolch am y sylwadau.

'Dwi wedi cywiro'r diffyg eglyrdeb.