Un o'r problemau mae llawer ohonym wedi ei gael gyda Llais Gwynedd ydi deall yn iawn sut fath o blaid ydi hi. Wedi'r cwbl mae wedi llwyddo i ddenu cefnogaeth arch frenhinwyr megis Anita Kirk, cenedlaetholwyr Cymreig fel Now Gwynys a Seimon Glyn a chenedlaetholwyr Seisnig fel Ian Franks a John Walker.
Beth bynnag, mewn cyfweliad diweddar yn y Daily Post, mae arweinydd newydd y blaid, Now Gwynys yn rhoi ychydig gig ar yr esgyrn.
Our councillors come from a wide spectrum of abilities and opinions, and I believe we’re seeing here a historic move away from the London-centric and Cardiff-centric parties towards a more local form of democracy.
Mae'r darn am y wide spectrum of abilities and opinions yn wirioneddol ddigri. Dydi bod yn ddiplomataidd ddim yn rhinwedd sy'n cael ei chysylltu gyda Now yn rhyw aml iawn - ond mae defnyddio'r term yma i ddweud fod ei blaid yn llawn o nytars a Brits yn berl bach sydd werth ei thrysori.
Ta waeth, y darn mwy diddorol o ran sylwedd ydi'r un lle mae'n gweld ei blaid fel un leol. Am wn i ei chysylltu efo mudiadau tebyg yn rhai o gymoedd De Ddwyrain Cymru mae.
Mae'n hynod arwyddocaol nad ydi o'n diffinio ei blaid fel un genedlaetholgar. Yn wir, mae'n gwneud y gwrth wyneb. Dydi plaid sydd yn gweld ei rol fel edrych ar ol buddiannau un ardal benodol ar draul buddiannau ardaloedd eraill oddi mewn i'r wlad ddim yn blaid genedlaetholgar. Yn wir mae plaid felly yn un gwrth genedlaetholgar. Mae'n rhaid bod a gweledigaeth genedlaethol i fod yn genedlaetholgar.
Diolch am wneud hynny'n glir Now.
3 comments:
Un o'r pethe mwyaf amlwg am ymgyrch Llais Gwynedd ym Meirionnydd oedd gwrthwynebiad i ganoli - nid yn Llundain, nac yng Nghaerdydd - ond yng Nghaernarfon!
Efo dim ond tri allan o ddwsin o aelodau wedi eu hethol ym Meirion problem fwyaf fy nai yng nghyfraith bydd profi mae nid Llais Sir Gaernarfon yw'r blaid newydd! Mewn plaid sydd wedi ei ffurfio ar seiliau lleol, gallasai hyn profi'n anodd!
"local form of democracy"?
Mae o angen edrych ar hanes dipyn mwy. Yr oedd gan Abergele Cyngor Bro Trefol, a oedd efo lot o bwer - cymaint a chyngor sir, ond ar gyfer tref. Yr oedd hyn oll yn cael ei redeg gan unigolion lleol di-blaid.
Mae'r dyddiau ym di mynd, ond yn sicr tydio ddim yn dim byd newydd.
Nid yn unig Plaid Sir Gaernarfon, ond Plaid Dwyfor Alwyn..
Dau yn unig a etholwyd yn Arfon - ac Arfon ydi rhan mwyaf poblog y sir o ddigon.
Post a Comment