Bydd y sawl sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gwynedd yn ymwybodol i'r Blaid Lafur adael y glymblaid sy'n rhedeg y sir yn ddiweddar, gan adael Plaid Cymru i wneud y joban ar ei phen ei hun.
Mae'n ddiddorol felly i'r Cyng Sion Jones, Bethel gefnogi enwebiad Llais Gwynedd - y Cynghorydd Cyng Dilwyn Lloyd, ar gyfer is gadeiryddiaeth y cyngor yn gynharach heddiw. Enwebiad Plaid Cymru sef Cyng Dilwyn Morgan gafodd gefnogaeth y ddau aelod Llafur arall oedd yn bresenol - y Cynghorydd Gwen Griffiths a'r Cynghorydd Gwynfor Edwards. Doedd y pedwerydd - y Cynghorydd Brian Jones ddim yn bresenol yn y cyngor.
Y Cynghorydd Dilwyn Morgan a gafodd ei ethol i'r swydd.