Wednesday, October 18, 2017

Plant sy'n siarad y Gymraeg adref - Gwynedd a Mon

Dydi'r iaith mae plant yn ei siarad adref ddim o anghenwraid yn dweud wrthym os ydynt yn gwneud defnydd cymdeithasol ohoni, a dydi o ddim yn dweud chwaith pwy sy'n siarad yr iaith yn rhugl.  Mae yna lawer o bobl yn siarad y Gymraeg yn gwbl rhugl sydd ddim yn ei defnyddio ar yr aelwyd.

Serch hynny mae'n rhoi syniad o ble mae iaith yn gryf - a beth sy'n debyg o ddigwydd yn y dyfodol mewn ardal.  Dydi hyn ddim yn wir am ystadegau cyfrifiad moel.  Felly dyma gyhoeddi ffigyrau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwynedd a Mon.  Gellir dod o hyd i'r ffigyrau Cymru gyfan yma.














9 comments:

Ioan said...

Diddorol - dim un ysgol o Arfon yn y 5 uchaf (o ran %)

Ysgol Pentrefoelas Conwy 21 95.5
Ysgol Bro Tryweryn Gwynedd 40 95.2
Ysgol Llanfachraeth Ynys Mon 33 94.3
Ysgol Ysbyty Ifan Conwy 14 93.3
Ysgol Gynradd Edern Gwynedd 57 90.5

Cai Larsen said...

Mae ysgolion Arfon yn tueddu i fod yn fawr. Mae'n fwy anodd cael canran uchel iawn (neu isel iawn) mewn sefyllfa felly.

Byddai 4 o blant sydd ddim yn siarad Cymraeg adref yn dod a chanran Pentrefoelas i lawr 20%, ond fyddai fo prin yn symud canran Ysgol yr Hendre.

Cymro said...

Diddorol tu hwnt - diolch!

Ioan said...

Dim beirnadaeth o Arfon - falch o weld bod na gadarnleoedd (bach) ar ol, tu allan i Wynedd.

Y dyma'r deg ysgol gynradd efo'r nifer uchaf:
Ysgol Yr Hendre Gwynedd 271 85.8
YSGOL TREGANNA Cardiff 242 55.5
Ysgol Y Graig Isle of Anglesey 189 67.5
Ysgol Llanrug Gwynedd 184 84.8
Y DDERWEN Carmarthenshire 175 69.4
Ysgol Gynradd Maesincla Gwynedd 169 74.8
Ysgol Gynradd Llanfairpwll Ynys Mon 168 63.6
Ysgol Cymerau Gwynedd 160 61.8
YSGOL GYMRAEG LLWYNCELYN Rhondda Cynon Taf 160 73.4
Ysgol Pen Barras Denbighshire 158 79.4

6 sir wahanol!

Ioan said...

A dyma y nifer o blant yn y gwahanol siroedd, sydd mewn ysgolion efo drost 70% yn rhygl adre:

Gwynedd 2663
Ynys Mon 453
Conwy 216
Sir Ddinbych 182
Rhondda Cynon Taf 160
Sir Gaerfyrddin 157
Bro Morgannwg 130
Sir Geredigion 32
Powys 21

Ioan said...

Ola rwan..

Ella mesyr da o gryfder iaith, fuasai lluosi y nifer o blant sydd yn rhygl adre, efo'r % o blant sy'n rhygl adre.

i.e. mae'n llawer gwell cael 100 o blant mewn ysgol efo % uchel yn siarad adre, na 100 o blant mewn ysgol efo % isel.

Adio pob ysgol mewn sir at ei gilydd, yn rhoi:

Gwynedd 2936
Carmarthenshire 1023
Isle of Anglesey 987
Cardiff 453
Rhondda Cynon Taf 341
Denbighshire 329
Ceredigion 319
Conwy 305
Vale of Glamorgan 186
Pembrokeshire 151
Neath Port Talbot 143
Powys 115
Bridgend 85
Caerphilly 45
Swansea 44
Flintshire 37
Monmouthshire 24
Wrexham 20
Merthyr Tydfil 10
Blaenau Gwent 4
Newport 0
Torfaen 0

Ioan said...

Ola rwan..

Ella mesyr da o gryfder iaith, fuasai lluosi y nifer o blant sydd yn rhygl adre, efo'r % o blant sy'n rhygl adre.

i.e. mae'n llawer gwell cael 100 o blant mewn ysgol efo % uchel yn siarad adre, na 100 o blant mewn ysgol efo % isel.

Adio pob ysgol mewn sir at ei gilydd, yn rhoi:

Gwynedd 2936
Carmarthenshire 1023
Isle of Anglesey 987
Cardiff 453
Rhondda Cynon Taf 341
Denbighshire 329
Ceredigion 319
Conwy 305
Vale of Glamorgan 186
Pembrokeshire 151
Neath Port Talbot 143
Powys 115
Bridgend 85
Caerphilly 45
Swansea 44
Flintshire 37
Monmouthshire 24
Wrexham 20
Merthyr Tydfil 10
Blaenau Gwent 4
Newport 0
Torfaen 0

Cai Larsen said...

Diolch am yr holl waith Ioan.

William said...

Hylo Cai,

dros 280 o ysgolion heb ddim data (samply rhy fechan <5 o blant) ond ambell un yn y Fro Gymraeg

mae ffigyrau Llwyncelyn yn syndod. Y rhieni sy'n cofnodi hyn, ynde? Anodd credu fod tri chwarter plant mewn ysgol felly yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd

YSGOL GYMRAEG LLWYNCELYN Rhondda Cynon Taf 160 73.4

ond mae ysgolion cynradd eraill yn y Rhondda'n brolio canrannau o 39-51%: yn uwch o dipyn na g ysgolion cyffelyb mewn llefydd dosbarth gweithiol yn y De-Ddwyrain (10-20% fel rheol) (mae ysgolion Cymraeg Treganna a'r Bontfaen yn llawn o bobl o'r fro am wn i)

Ymddengys fod rhywbeth ar droed yn y Rhondda felly. Lle i fod yn optimistaidd yn enwedig am mai dim ond 1% o blant y cwm oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd ym 1952! Adfywiad lleol heb ddibynnu ar fewnfudwyr o'r Fro Gymraeg?