Yr unig broblem ydi nad ydi'r pol yn bol go iawn - rhan o bol Prydain gyfan ydyw a gymerwud gan ORB International ydyw.
Mae yna ddau egwyddor pwysig wrth bolio:
1). Bod y sampl yn ddigon mawr i fod yn ystyrlon.
2). Bod y sampl yn gynrychioladol o'r boblogaeth pleidleisio yn ei chyfanrwydd.
'Dydi'r is set Cymreig ddim yn ateb yr un o'r ddau egwyddor yma. Dydi'r 100 o bobl sydd wedi eu polio yng Nghymru ddim yn adlewyrchu'r boblogaeth bleidleisio yng Nghymru - er bod y pol cyfan yn adlewyrchu'r boblogaeth pleidleisio Prydeinig.
Ac mae sampl o 100 gyda lwfans gwall (margin of error) o tua 10%.
Mae'r fethedoleg am y pol Prydain gyfan mor ddibynadwy ag unrhyw bol arall - ond 'dydi'r elfen ranbarthol i'r pol ddim - yn arbennig lle mae'r 'rhanbarthau' yn rhai a phoblogaeth bach - fel Cymru.