Thursday, October 09, 2014

Britain First ac UKIP yn ffrindiau unwaith eto

Mae'n dda gweld bod Britain First yn cefnogi UKIP yn is etholiadau heddiw.  Am wybodaeth pellach am y blaid bach ddymunol hon gweler yma.


5 comments:

Cymro said...

"We must be a party for all Britain and all Britons, first and second generation as much as every other."

Bron y peth cyntaf ddywedodd Douglas Carswell ar ôl cael ei ethol yn AS UKIP bore ma.

Wnei di ymddiheuro am ei alw'n "ffrind Britain First" ar gam?

Anonymous said...

Cymro, tydi Cai ddim yn galw Carswell yn ffrind i Britain First.

Vaughan Williams said...

Ble mae Cai yn dweud hynny Cymro? Dw i wedi chwilio sawl tro ac methu ffeindio ble mae'n ei ddweud e.

Cai Larsen said...

Gwaethaf Cymro, Cymro methu darllen.

Cymro said...

Mae "ffrindiau" yn rhywbeth dwyochrog. Rydych yn pardduo aelodau UKIP gyda'r awgrym eu bod yn cefnogi Britain First.

Cai, efallai fod Mark Bridger yn hoffi BlogMenai. Fyddwch chi'n dweud bod "Mark Bridger a fi yn ffrindiau"? Wrth gwrs na fyddwch, ac byddai'n enllib i rywun arall ddweud hynny.