Friday, October 10, 2014

UKIP 1

Cyn mai stori fawr y funud ydi llwyddiant UKIP yn is etholiad Clacton ddoe a pherfformiad cryf y blaid Adain Dde yn Rochester waeth i mi gyfrannu fy mewath cyn bod pawb arall wrthi.  

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y symudiadau hyn yn y patrymau pleidleisio yn sylweddol.

Clacton:

UKIP +60%
Toriaid -18%
Llafur -14%
Lib Dems -12%

Heywood:

UKIP +36%
Toriaid -15%
Llafur +1%
Lib Dems -18%

Yr ail beth i'w ddweud ydi bod symudiadau tebyg i'r rhain yn weddol gyffredin mewn is etholiadau Prydeinig.  Mae yna lawer iawn y gellid cyfeirio atynt, ond efallai mai'r rhai enwocaf ydi'r gyfres o bedair is etholiad yn wyth degau cynnar y ganrif ddiwethaf.  Cyd destun yr etholiadau hynny oedd ffraeo mewnol a hollt yn y Blaid Lafur a arweiniodd at ffurfio'r SDP a'r cytundeb etholiadol rhwng y blaid honno a'r Rhyddfrydwyr.


Reit ta, beth ddigwyddodd bryd hynny?

Croydon
Rhyddfrydwyr +29.5%
Toriaid -18.9%
Llafur -14.1%

Crosby 
SDP +43.8% (o gymharu a phleidlais y Rhyddfrydwyr)
Toriaid -17.1%
Llafur -15.2%

Bermondsey 
Rhyddfrydwyr +50.9%
Llafur -37.5%
Toriaid -19.4%

Glasgow Hill Head
SDP +19%  (o gymharu a phleidlais y Rhyddfrydwyr)
Toriaid -14.4%
Llafur -8.5%

Roedd y symudiadau yn sylweddol.  Ond wnaethon nhw ddim arwain at newid anferth yn yr etholiad canlynol yn 1983.  Er i bleidlais y Rhyddfrydwyr a'r SDP rhyngddynt godi o 14.4% y Rhyddfrydwyr yn 79 i bleidlais gyfunol o 25.4%, wnaeth hynny ddim arwain at lawer iawn o seddi i'r glymblaid newydd - ond arweiniodd at gynnydd sylweddol yn y nifer o seddi a gafodd y Toriaid trwy hollti pleidlais y Chwith.

Toriaid - 42.4% a 397 sedd
Llafur - 27.6% a 209 sedd
Rhyddfrydwyr / SDP - 25.4% a 23 sedd.

Y Dde sydd wedi hollti y tro hwn wrth gwrs, a gellid dadlau y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd yn 2015 gyda llawer o seddi Toriaidd yn cwympo i Lafur oherwydd bod pleidlais y Dde ar chwal.  Mae hynny'n sicr yn bosibl - ac mae yna gryn dystiolaeth o'r polau - a rhywfaint o etholiadau neithiwr (er i bawb waedu pleidleisiau i UKIP yn Clacton) - bod UKIP yn cymryd mwy o bleidleisiau gan y Toriaid na Llafur.  Serch hynny mae pethau wedi dod yn eu blaen ers 1983 a bydd UKIP yn gwybod sut i dargedu seddau yn well nag oedd y Glymblaid bryd hynny - ond mi fyddwn i'n fodlon betio y bydd yna fwy o aelodau seneddol o'r SNP yn San Steffan ar ol etholiad 2015 na fydd yna o rai UKIP, beth bynnag ddigwyddodd neithiwr.

1 comment:

Anonymous said...

Targedu ar gyfer ukip ar batrwm
cymdeithaseg hynod ddiog?
"Costa geriatrica a threfi glan mor Giro Cymru" (ymysg ardaloedd eraill mae hi'n sicr)
Nid yn unig o herwydd llwyth o Saeson ond Bae Colwyn, Rhyl ac ati megis Clacton ydynt wel.. Llefydd ger y lli lle ciliodd y llanw fel petai.
Pan mae atsain brith gof hen wyliau haf yn troi'n grechwen heddiw, dyma, tybed, orwelion agos atynt, i'w gweld felly ta beth..