Friday, June 13, 2014

Ydi gwleidyddiaeth etholiadol Cymru yn newid?

Cyn ein bod wedi edrych ar bolau oedd (at ei gilydd) yn anffafriol i'r Blaid yn y misoedd cyn etholiad Ewrop, mi edrychwn ni yn frysiog ar un llawer mwy ffafriol a gyhoeddwyd heddiw gan BBC Cymru / ICM.  Gellir gweld y ffigyrau yn erthygl Golwg360 ar y pwnc.  Cyn mynd ymlaen hoffwn bwysleisio nad ydw i wedi gweld y data manwl eto - os oes rhywun efo mynediad i'r data hwnnw, gadewch i mi wybod plis.

Y peth cyntaf i'w nodi ydi nad yw'n syniad arbennig o dda i wneud gormod o bol unigol - ni ddylid gwan galoni o ddod ar draws un pol gwael, ac ni ddylid gorfoleddu o ddod ar draws un da.  Patrwm a chyfeiriad sy'n bwysig.  Dyna pam bod Roger Scully yn gywir i gyfeirio at gyfeiriad y polau tros gyfnod yn ei flogiad diweddaraf.

Mae'r patrwm mae Roger yn tynnu sylw ato yn un sylfaenol syml.  Mewn cyfnod o ddwy flynedd mae'r polau cyfartalog yn awgrymu i gefnogaeth y Blaid ac UKIP gynyddu, i gefnogaeth y Toriaid aros yn sefydlog, i gefnogaeth y Lib Dems aros yn sefydlog (ond isel iawn) ac i gefnogaeth Llafur syrthio'n sylweddol.  Os ydi'r patrwm yma yn un parhaol mae'n anodd gor bwysleisio ei arwyddocad i wleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw sawl gwaith yn y gorffennol at hen, hen batrwm yn hanes etholiadol Cymru - sef bod Llafur yng Nghymru yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym ac yn ei gadw pan mae yna lywodraeth Doriaidd yn San Steffan, ond eu bod yn colli peth o'r gefnogaeth honno pan mae Llafur mewn grym yn San Steffan.  Mae yna ambell i eithriad i'r patrwm  (79-83 er enghraifft) - ond maent yn brin iawn.  Roedd yn edrych hyd at 2012 bod yr hen batrwm yma'n dal yn fyw ac yn iach - ond mae'r polau - ac yn wir etholiadau - ers hynny yn awgrymu  bod pethau bellach yn newid.

Mae yna sawl rheswm posibl am hyn - efallai bod mewn grym parhaol yn y Cynulliad yn ddrwg i Lafur o safbwynt creu a chynnal cefnogaeth, efallai bod ymysodiadau'r cyfryngau Seisnig ar lywodraeth Cymru yn cael effaith ar y farn gyhoeddus yng Nghymru, neu efallai bod newidiadau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn erydu pleidlais graidd Llafur - rhywbeth mae rhai wedi ei ragweld   ers tro.

Rwan gall pethau newid eto wrth gwrs, a gall hen batrymau ail sefydlu - ond mae'r hyn sydd wedi
digwydd tros y ddwy flynedd ddiwethaf yn rhoi lle i obeithio bod gwleidyddiaeth etholiadol Cymru yn datgloi a bod pethau am fod yn llawer mwy diddorol ac agored yn y dyfodol nag ydynt wedi bod yn y gorffennol.


3 comments:

Anonymous said...

Beth yw'r tebygrwydd ein bod ni'n gweld yng Nghymru rhywbeth tebyg i beth ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon, gyda'r ddwy blaid ar begynau eithafold(Uup a Sinn Fein) yn ennill, ac yma yng Nghymru Plaid Cymru ac Ukip.

Dylan said...

Bydd yn ddifyr gweld beth fydd tynged y Democratiaid Rhyddfrydol dros y blynyddoedd diwethaf. A fydd lle iddyn nhw o gwbl ym mhrif ffrwd gwleidyddiaeth Cymru o hyn ymlaen? Os mai system pedair plaid sydd yng Nghymru, yna UKIP ydi'r bedwaredd erbyn hyn.

O safbwynt y DRh, dw i'n credu ei bod yn hanfodol iddyn nhw wella'u sefyllfa cyn gynted â phosibl. Os yw'r ffigurau truenus yn parhau am rai blynyddoedd, gall fod yn farwol. Byddai'n anodd dychmygu ffordd yn ôl.

Dylan said...

Wps. "dros y blynyddoedd nesaf" oedd hwnna i fod, yn amlwg.