Dwi'n gwylio'r newyddion wrth sgwennu hwn - newyddion sydd wedi ei ddominyddu gan y llanast yn Irac.
Cafwyd pleidlais yn Nhy'r Cyffredin ar 18 Mawrth, 2003 ynglyn a mynd i ryfel yn Irac i waredu'r Byd rhag WMDs oedd yn bodoli yn unig yn nychymyg Tony Blair a George Bush. Bu farw 188,000 o bobl o ganlyniad yn ystod y rhyfel neu yn ystod y blynyddoedd maith o anhrefn a'i ddilynodd. Mae'n fwy na phosibl y bydd llawer iawn mwy yn marw yn y dyfodol agos mewn gwlad sydd erbyn hyn yn agos at fod yn amhosibl i'w llywodraethu.
Roedd Tony Blair wrthi heddiw yn egluro i ni i gyd mai dim digon o fomio gan y Gorllewin ydi'r broblem - petai awerynnau rhyfel wedi bomio lluoedd llywodraeth Syria mi fyddai pob dim yn iawn. Mwy o ryfela ydi ateb Tony i bron i pob argyfwng rhyngwladol.
Beth bynnag yr aelodau seneddol Cymreig isod oedd ddigon gwirion i gredu straeon tylwyth teg blaenorol Blair ynglyn a WMDs a phleidleisio tros fynd i ryfela yn Irac. Aeth gyrfaoedd gwleidyddol y rhan fwyaf ohonynt rhagddynt yn ddigon del tros y blynyddoedd canlynol fel roedd lladdfa ar raddfa Feiblaidd yn rhwygo trwy ardaloedd tlawd Irac o ganlyniad i'w rhyfel di bwrpas.
Roedd Ms Clwyd yn un o'r prif bropogandwyr tros y rhyfel gyda'i straeon tylwyth teg bisar ei hun - fel rydym wedi ei drafod eisoes.
Jackie Lawrence
Alun Michael
Don Touhig
Chris Bryant
Wayne David
Ann Clwyd
Peter Hain
Kim Howells
Huw Irranca Davies
Paul Murphy
Chris Rusne
David Hanson
Nick Ainger
Donald Anderson

1 comment:
Roedd Ann Clwyd dal wrthi ar Radio 4 y bore ma.
Post a Comment