Sunday, June 01, 2014

Etholiad Ewrop - ychydig o ffeithiau

Wythnos i heno y cafwyd canlyniadau etholiadau Ewrop, felly am wn i bod rwan cystal amser a'r un i edrych yn ol ar ychydig o ffeithiau.

  • Plaid Cymru oedd y mwyaf llwyddiannus o lawer o ran gael ei phleidlais allan -  O ddefnyddio perfformiad Etholiad Cyffredinol 2010 fel gwaelodlin llwyddodd PC i gael 67% o'r sawl fotiodd trostynt bryd hynny allan. Ffigwr Llafur oedd 54%, un y Toriaid oedd 43% ac un y Lib Dems oedd 10% - roedd rhaid i mi edrych ar honna eto. 
  • Plaid Cymru hefyd gafodd y mwyafrif sirol gorau - yng Ngwynedd.  Cafwyd mwyafrif o 23%. Blaenau Gwent ddaeth nesaf efo mwyafrif o 17% i Lafur.  Os ga i fod yn blwyfol am ennyd, dwi'n bersonol hynod falch hyn.  Mae'r Blaid wedi rheoli yng Ngwynedd ers talwm iawn ac wedi gorfod cymryd penderfyniadau amhoblogaidd.  Dim ond yn ddiweddar mae Llafur wedi ail afael ar rym ym Mlaenau Gwent.  Mae'r canlyniad yn dystiolaeth o allu'r Blaid yng Ngwynedd i gael ei chefnogaeth allan ac i'r graddau mae'n ran o wead bywyd llawr gwlad yng Ngwynedd.
  • Blaenau Gwent oedd efo'r ganran uchaf i blaid gyda 47% i Lafur.  Plaid Cymru oedd efo'r ganran ail uchaf yng Ngwynedd efo 43% - mwy na gafodd Llafur yn RCT, Caerffili, Castell Nedd Port Talbot ac ati.
  • O edrych ar y gwahaniaeth rhwng darogan y polau piniwn ar ddechrau'r etholiad a'r canlyniad ei hun mae'n amlwg mai Llafur gafodd ei niweidio fwyaf gan UKIP a Phlaid Cymru leiaf.
  • Gwnaeth y Toriaid yn llawer gwell nag oeddwn wedi ei ragweld.  Cafwyd cwymp o 3.8% yn umig o gymharu a 2009.  
  • Methodd Llafur i gael eu pleidlais allan mewn nifer o ardaloedd lle mae ganddynt seddi targed.  15% yn unig oedd eu pleidlais yng Ngwynedd (lle mae Arfon yn sedd darged), 23% oedd eu pleidlais yng Nghaerfyrddin (lle mae Dwyrain Caerfyrddin a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn sedd darged a Llanelli yn sedd mae'n ei dal), 18% oedd eu pleidlais yng Nghonwy (lle mae Aberconwy yn sedd darged), a 21% oedd eu pleidlais ym Mhenfro (lle mae Preseli / Gogledd Penfro yn sedd darged yn ogystal a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro).  16% oedd eu pleidlais yn Ynys Mon - sedd maent yn ei dal.  Dwi'n pwysleisio nad ydi edrych ar etholiad Ewrop yn ffordd dda o ddarogan canlyniadau etholiadau cyffredinol - ond mae'r ffigyrau yma yn awgrymu nad ydi peirianwaith llawr gwlad Llafur yn effeithiol yn y lleoedd hyn.
  • Mae gan y Lib Dems seddi San Steffan yng Ngheredigion, Powys, a Chaerdydd.  11%, 13% a 7% oedd eu pleidlais yn y lleoedd hyn.  Cafodd y Blaid dair gwaith eu pleidlais yng Ngheredigion, cafodd y Toriaid ac UKIP ddwy waith eu pleidlais ym Mhowys, a chafodd Llafur bedair gwaith eu pleidlais yng Nghaedydd. 
  • Cafodd y Lib Dems lai na 5% o'r bleidlais yn ugain o ddwy sir ar hugain Cymru.  Ceredigion a Powys oedd yr eithriadau.  Eu canran isaf oedd 1% ym Mlaenau Gwent.
  • Er i Lafur wneud y penderfyniad bisar o wthio eu hail ymgeisydd Jayne Bryant ar y sail ei bod yn dod o Gasnewydd ac yn cefnogi Newport County a Dreigiau Casnewydd / Gwent (gan anghofio nad ydi 95% o'r etholwyr yn byw yng Nghasnewydd), o 1% yn unig y daeth Llafur o flaen UKIP yno.  Duw a wyr pwy mae Nathan Gill yn ei gefnogi.
  • Mae Llafur Cymru yn canmol eu hymgyrch eu hunain i'r cymylau.  A chofio eu methiant i gael pamffledi allan cyn i lawer o bobl bleidleisio, eu defnydd o'r Newport County Strategy, eu methiant i gynnwys dim byd am Ewrop yn eu gohebiaeth, eu methiant i gael neb allan yn gweithio ar lawr gwlad tros y rhan fwyaf o Gymru a'u methiant i wneud unrhyw ddefnydd o gwbl o boblogrwydd eu harwrinydd Cymreig byddwn yn awgrymu'n garedig ei bod yn ymgyrch gwarthus o aneffeithiol.

8 comments:

Anonymous said...

Er gwaerhaf ymdrech i fod braidd yn rhy garedig gyda pherfformiad PC mae hi'n braf cytuno gyda bron y cyfan o'r uchod.

Tra'n amheus os gall PC gipio Ceredigion yn 2015 mae Ynys Mon (gyda help UKIP) o fewn cyraedd. Bechod fod yr ymgeisydd yn meddu ar lai o garisma na hyd yn oed Albert!

Hywel hefyd mewn sefyllfa fwy cyfforddus er nad wyf erioed wedi credu fod Alun Pugh yn ddewis doeth i Lafur.

Cai Larsen said...

Wel na - ydi hi'n syniad da mewn gwirionedd anfon boi sydd methu siarad fawr ddim Cymraeg i ganfasio ym Mro Silyn, Pentre Helen a Maes Barcer?

BoiCymraeg said...

Anon 11:21 - dwi'n meddwl mae PC yn fwy tebygol o gipio Ceredigion na Mon a dweud y gwir. Ydy, mae Albert yn edrych yn fregus a cafwyd buddugoliaeth ardderchog gan Rhun wedyn, ond mae Llafur yn tueddu gwneud yn well o dan sefyllfa etholiad cyffredinol, tra rhaid cofio hefyd bod Llafur ar i fyny drwy'r wlad tra bod y Dems rhydd yn dymchwel. Oedd, mi oedd eu mwyafrif yn 2010 yn dda iawn, ond dwi'n credu y bu Cleggmania (unrhywun yn cofio hyny?!) yn chwarae rol yna. Mike Parker yn ymgeisydd dda dros y Blaid hefyd.

John Williams said...

Diddorol iawn, yn enwedig yr ymgyrch gan y Blaid Lafur, clywais i rywun o'r blaid honno yn mynnu mai 2014 oedd yr etholiad Ewropiaidd (ymgyrch) maen nhw erioed wedi brwydo! Mae'n gwneud i chi feddwl beth sy'n cyfateb i ymgyrch sal?

Am Ynys Mon, yn naturiol rwyf yn dymuno'n dda iawn i John Rowlands. Yr unig beth ydy pleidlais sylweddol personol sydd gan Albert Owen, beth bynnag eich barn amdanfo a'i wleidyddiaeth mae'n boblogaidd iawn.

Anonymous said...

Wn i ddim digon am Geredigion ond anghywir fyddai priodoli canlyniad 2010 yn y Sir i Cleggmania. Yr hyn oedd yn rhyfedd am Cleggmania oedd mae colli chwe AS oedd y canlyniad a chipio chydig iawn o seddau targed.

O'r tu allan mae canlyniad 2010 yn awgrymu ffactorau lleol llawn cymaint os nad mwy na unrhyw ddylanwad canolog. Anodd iawn fyddai dadlau nad oedd Mark Williams wedi cael pleidlais o hyder go sylweddol tra bod y Blaid wedi cael slap go hegar.

Dwi dal o'r farn fod Albert yn fwy bregus na Mark a hynny gan fod pleidlais PC yn soled a phleidlais Llafur dan fygythiad gan UKIP. Cwta 35% gafodd Albert tra fod Mark bron ar 50%. O orfod gwisgo sgidiau un o'r ddau fe wn pa un fyddai fy newis!

Simon Brooks said...

Dwi ddim yn aelod o'r Blaid, felly gwell imi gadw allan o hyn.

Ond mi wna i un sylw sydyn. Ar y cyfryngau cymdeithasol, y cwbl dwi'n ei weld gan Bleidwyr yw son am annibyniaeth (i'r Alban, fel arfer).

Yn natganiadau yr arweinydd, y cwbl dwi'n ei ddarllen ydi son am 'progressive politics' - pensiynau yn y sector cyhoeddus, cadw gwasanaethau yn y sector cyhoeddus etc.

Dyw hi ddim yn gwbl glir i ryw ddieithryn ai fel y SNP ynteu fel Die Linke mae'r Blaid yn ei gweld ei hun yn yr hirdymor.

Y SNP fyddai'r model gorau, dwi'n amau.

William Dolben said...

Gaf fod mor hy â gofyn i'r Pleidwyr a fyddent yn pleidleisio'n dactegol ym Mhorth Talbot dros UKIP adeg lecsiwn 2015 er mwyn trechu y Tywysog Kinnock? Mi geith rhai ateb yn ddienw!

Ioan said...

Mi wnaeth yr erthygl yma yn y Guardian atgoffa fi am dy flog am fyd bach gwag Llafur Arfon.

http://www.theguardian.com/commentisfree/2014/jun/02/labour-fake-empty-slogans-ed-miliband

"...they are so wary of actually speaking their minds that they take refuge in empty slogans and the odd bit of fake folksiness."