Wednesday, June 04, 2014

Y sensro cwestiynau arferol ar Question Time

Mae'n ddiddorol nad yw'r BBC yn fodlon gadeal i aelod o'r gynulleidfa ofyn cwestiwn ar Question Time ynglyn a'r gwahaniaeth rhwng agwedd UKIP at bobl sy'n symud i Loegr yn dysgu Saesneg a phobl yn symud i Gymru yn dysgu Cymraeg. Ymddengys bod y gorfforaeth o'r farn na fyddai cwestiwn o'r fath efo apel 'digon eang'.

Mi fyddai rhywun sydd ddim yn 'nabod y Bib wedi meddwl y byddai'n ystyried y gallai cwestiwn o'r fath - sy'n  ymdrin a mater  yn y newyddion Prydeinig o ongl ychydig yn wahanol i'r arfer - daflu goleuni  ffresh ar y mater hwnnw.  Ond dydi'r Bib ddim eisiau i faterion gwleidyddol cyfoes ym Mhrydain gael eu harddangos mewn goleuni gwahanol - atgyfnerthu naratifau Prydeinig ydi pwrpas y Bib - y peth diwethaf maen nhw am ei wneud ydi dangos y naratifau hynny mewn goleuni amgen a mwy heriol.  Byddai hynny'n gwneud i bobl feddwl - a Duw a'n gwaredo rhag hynny.  Perspectif amhrydeinig ar wleidyddiaeth Prydain ydi'r peth diwethaf y gallwn ei ddisgwyl gan y Bib.  Mi fedrwn ni ddisgwyl yr un hen gwestiynau un dimensiwn ar y rhaglen mae gen i ofn.

Mae'r stori yn fy atgoffa o'r profiad od braidd o ganfasio cefnogwr UKIP yng Ngwalchmai y llynedd. Eglurodd i mi yn ddigon cwrtais ei fod yn fotio i UKIP oherwydd bod 'na ormod o dramorwyr yn dod i Brydain i gymryd y swyddi i gyd ac nad oedd llawer ohonyn nhw yn gallu siarad Saesneg.  Mi es i ymlaen efo'r sbil canfasio arferol a gofyn iddo pa faterion lleol oedd yn ei boeni.  Yr ateb oedd bod diffyg croeso iddo yng Ngwalchmai oherwydd ei fod yn dod o Loegr a'i fod methu siarad Cymraeg.  Dwi ddim yn meddwl i anghysondeb ei safbwyntiau erioed groesi ei feddwl.

4 comments:

Anonymous said...

Ac mae'n siwr, fel Pleidiwr bach da, na wnes ti dynnu ei sylw at yr anghysondeb hwnnw.

William dolben said...

Buest yn rhy gwrtais o lawer, Cai

Unknown said...

Nid oes rhaid i neb dysgu'r Cymraeg yng Nghymru am fod pawb yn siarad Saesneg. Gobeithio bod hyn yn ateb dy gwestiwn.

Cai Larsen said...

Pa gwestiwn?