Peidiwch a chamddeall rwan - fyddwn i ddim yn argymell i neb fynd i'w waith yn feddw - ond mae gen i rhyw ychydig o gydymdeimlad efo Nick Ramsay yn sgil cwyn gan Julie Morgan ei fod yn feddw gocos yn y Cynulliad y diwrnod o'r blaen. Petai Nick yn gweithio yn San Steffan yn hytrach nag ym Mae Caerdydd go brin y byddai neb yn cymryd fawr o sylw ei fod o dan effaith y ddiod gadarn.
Fel y gellir gweld yma mae'r hogiau (ond nid y genod o bosibl) efo hanes o seshio trwy'r dydd cyn pleidleisio yn Ny'r Cyffredin. Mi fyddan nhw'n mynd i gwffio o bryd i'w gilydd, ac mae'r arfer yn mynd yn ol o leiaf cyn belled a 1666. Bydd aelodau weithiau yn cael trafferth i gerdded i'r lobi i bleidleisio heb son am sefyll a gwneud araith fel y gwnaeth Nick.
Ceir 9 bar yn Nhy'r Cyffredin at ddefnydd Aelodau Seneddol a'u gwesteon, ac roedd trosiant y 9 bar yn £1.33m y tro diwethaf i'r ffigyrau gael eu cyhoeddi. Fel bwyd yr aelodau mae'r trethdalwr yn sybsideiddio eu diota, gyda diodydd yn rhatach yn San Steffan nag yn unman arall ym Mhrydain bron - heb son am ganol Llundain. Mae'r trethdalwr yn gorfod dod o hyd i yn agos at £6m y flwyddyn i gynnig bwyd a diod i Aelodau Seneddol yn San Steffan am bris gostyngol. Mae eu cyflogau aelodau mainc gefn yn fwy na thair gwaith y cyflog cyfartalog yn y DU. Mae yna 44,000 potel o win yn seleri Ty'r Cyffredin at ddefnydd y circa 650 aelod.
Druan o Nick - mae'r creadur yn gweithio yn y ddeddfwrfa anghywir.

3 comments:
Credaf fy mod yn iawn i ddweud nad yw'n gyfreithiol bosibl i rhywun fod yn feddw na'n farw yn y ty cyffredin. Mae galw AS arall yn 'feddw' yn saith gwaeth na'i alw yn Ffasgydd, celwyddgi, godinebwr na llofrudd. Petaech yn gorff mud ers oriau, ni chewch farw tan ar ol i chi gael eich hebrwng o'r siambr/Palas San Steffan (Nid wyf yn siwr pa un).
Dwi'n siwr y buasai Bae Caerdydd yn le dipyn mwy diddorol petai rhai o'r aelodau yna wedi " ciniawa'n dda " cyn mentro i ddadl.
Tueddiad arferol Cai di pardduo San Steffan fel sefydliad gan awgrymu fod pethau'n well yn y Bae. Tybed?
Heb amheuaeth mae trac record SS yn bur wael o ran defnyddio a cham-ddefnyddio y ddiod gadarn ond hyd yn oed o ddarllen links Cai ymddengys fod 'na gryn newid er gwell wedi bod yno er gwaethaf honiadau Cai. Yn yr un modd diddorol sylwi fod yr erthygl sy' n trafod y sybsydi honedig yn dyddio nol i 2010 sef CYN i brisiau SS gael ei newid i adlewyrchu prisiau masnachol yn Llundain. Does dim son chwaith gan Cai fod 10,000 o staff yn San Steffan ac naw bar honedig dim ond un, ia, un sydd at ddefnydd Aelodau Seneddol yn unig. Hawdd di creu delwedd negyddol trwy fod yn gynil mewn defnydd o ystadegau a ffeithiau blynyddoedd allan ohoni - dawn y propogandydd yn wir.
Ond beth, serch hynny, am y Cynulliad? Sawl AS sydd wedi colli trwydded yrru yn ddiweddar oherwydd y ddiod gadarn? Sawl AS yn ddiweddar sydd wedi bod yn feddw yng nghwmni merch oedd yn derbyn tal am ei chwmniaeth gan arwain at wahardd yr AC dan sylw o westy nepell o'r Senedd?
Sawl gweinidog San Steffan sydd wedi cyhoeddi gwobr lenyddol gan enwi'r person anghywir oherwydd dylanwad y ddiod gadarn? O ran hynny, sawl AS bledleisiodd am wahardd smygu mewn llefydd cyhoeddus sydd wedyn wedi ei gwahardd o dafarn oherwydd iddynt smocio sigar dan ddylanwad?
Ac wrth gwrs, AC oedd Rod Richards pan gafodd drafferth mewn parlwr piza tra'n llai na sobor.
Ydi San Steffan yn batrwm i'w ddilyn? Wrth gwrs ddim ond propoganda gan Cai ac nid sylw gonest ydi awgrymu fod Nick druan yn y senedd anghywir. O ystyried fod gan y Cynullad lai na 10% o aelodaeth San Steffan mae'n rhfedd faint o gwmbi fyddai gan Nick wrth fwynhau peint neu ddau gyda!i gyd-aelodau.
Mae angen sbectol newydd ar Cai gyda gwydyr bob ochr. Mae'r un sydd ganddo braidd yn un-llygeidiog!
N'hic Ramsay wnes i ddarllen rhywle...
Post a Comment