Saturday, June 07, 2014

Newsnight Cymru

Mi wnes i fwynhau sgwrs gan Mabon ap Gwynfor yn y Galeri yng Nghaernarfon heddiw.  Sgwrsio oedd Mabon am y syniad o gael fersiwn Gymreig o Newsnight ar y BBC yng Nghymru - hynny ydi rhaglen materion cyfoes sy'n cael ei darlledu yn ddyddiol yn ystod yr wythnos a sy'n cynnig arlwy o ddadansoddi gwleidyddol yn ogystal a chyfle i holi gwleidyddion, gweinidogion ac ati.  Dadl Mabon ydi y byddai creu darpariaeth reolaidd fel hyn yn dechrau gwneud iawn am rhai o'r diffygion mewn darpariaeth newyddion yng Nghymru ar hyn o bryd - ac roedd ganddo restr hir o esiamplau diweddar o ddarpariaeth anigonol ar ran y gwasanaethau newyddion yng Nghymru.

Rwan i roi fy nghardiau ar y bwrdd ar y cychwyn mae gen i amheuon ynglyn a chaniatau i'r Bib gymryd yr awennau o ran llywio'r ddisgwrs wleidyddol Gymreig.  Wna i ddim ailadrodd y beirniadaethau sydd yn cael eu gwneud yma'n fynych o'r Bib yng Nghymru, ond mae diwylliant mewnol y Bib yng Nghymru yn ei gwneud yn anodd iddynt gynnig darpariaeth materion cyfoes effeithiol.  Tuedda'r Bib i weld ei hun fel un o brif bileri'r sefydliad Gymreig, ac mae hynny'n ei gwneud yn amharod i edrych ar bileri eraill y sefydliad Cymreig trwy lygaid beirniadol.  Mae hefyd yn llawer rhy barod i gymryd arweiniad gan y Bib Prydeinig - sydd yn ei dro yn cymryd ei arweiniad gan y cyfryngau print Seisnig.  Y canlyniad ydi ymdriniaeth geidwadol, di ffrwt, dameidiog a Seisnig o faterion Cymreig.  Serch hynny dwi yn meddwl bod rhinweddau i'r syniad o Newsnight Cymreig.

Fel y bydd darllenwyr cyson y blog yma yn gwybod, roeddwn yn yr Iwerddon tros wyliau'r Sulgwyn.  Roedd etholiadau Ewrop a lleol  newydd gael eu cynnal ar hyd a lled yr ynys, ac roedd y pleidleisiau yn cael eu cyfri fel yr oeddem yn croesi o arfordir y Dwyrain i arfordir y Gorllewin.  Yr hyn oedd yn drawiadol oedd cymaint o ddiddordeb oedd yn y canlyniadau.  Roedd pobl yn dilyn y datganiadau o'r canolfannau cyfri mewn tafarnau, roedd pobl yn trafod y canlyniadau mewn tai bwyta.  Roedd hefyd yn drawiadol bod y cyfryngau torfol yn cymryd yr etholiadau o ddifri - rhaglenni teledu a radio oedd yn parhau i bob pwrpas am ddau ddiwrnod, papurau lleol yn arwain ar y canlyniadau, toriadau ar raglenni arferol pan oedd datganiadau yn cael eu gwneud o'r canolfannau cyfri.  Mewn geiriau eraill roedd y cyfryngau torfol a'r cyhoedd yn ymddiddori yn yr etholiadau mewn modd sydd ddim yn digwydd yng Nghymru.  Roedd diddordeb y naill yn atgyfnerthu diddordeb y llall.

Rwan mae yna resymau penodol am hyn - mae yna ddiwylliant gwleidyddol cryf yn yr Iwerddon sy'n rhoi cymhelliad i'r cyfryngau ddarparu ymdriniaeth gynhwysfawr o wleidyddiaeth sydd yn ei dro yn atgyfnerthu'r diwylliant gwleidyddol.  Mae'r sefyllfa yn hollol wahanol yng Nghymru - mae'r diwylliant gwleidyddol yn wan, tameidiog ydi diddordeb y cyfryngau mewn gwleidyddiaeth Gymreig, ac mae hynny yn ei dro yn atal diwylliant gwleidyddol aeddfed rhag datblygu.

Byddai rhaglen reolaidd o leiaf yn rhoi cychwyn ar greu disgwrs  weleidyddol  aeddfed yng Nghymru.  Peidiwch a fy nghamddeall i - dwi'n derbyn bod yna ddarpariaeth ar gael ar hyn o bryd, a bod rhai rhaglenni (Manylu ar Radio Cymru er enghraifft) gyda pherspectif Cymreig iawn.  Ond mae'r pethau hyn yn wasgaredig a does yna ddim naratif lled gyffredin yn eu clymu nhw at ei gilydd. Byddai rhywbeth rheolaidd o ran darlledu a chyson o ran fformat yn creu ffocws i drafodaeth wleidyddol yng Nghymru.  Dydw i ddim yn credu y gall diwylliant mewnol y Bib newid yn hawdd - ac efallai nad yw'n bosibl iddo newid o gwbl.  Ond yn y pen draw y Bib ydi'r unig beth sydd gennym mewn gwirionedd sy'n gallu cynnig darpariaeth Cymru gyfan - a byddai cam bach i'r cyfeiriad cywir yn well na dim.  A phwy a wyr - efallai y byddai newid bach yn arwain at newid mwy maes o law.

4 comments:

Anonymous said...

Say it in English not some monkey language!

Y Cymro said...

That just says it all! Wow!

William dolben said...

You forget to mention coward or maybe just spineless?

Mrs Lewis said...

Roger, you're not supposed to go on these websites! How many times do I have to tell you?! And when you do, pleeeease take some Andrex! I know what you're doing, and it's not healthy. You'll make yourself blind, mark my words!
Mamma Lewis