Sunday, June 08, 2014

Mwy am y cyfryngau Cymreig a'r blogosffer

Ymhellach i fy mlogiad ddoe, mae'n debyg y dyliwn i gyfeirio at nifer o straeon diweddar sydd wedi derbyn sylw yn y blogosffer a sydd heb dderbyn sylw gan y cyfryngau prif lif - hyd iddynt ymddangos ar y We o leiaf.

Aelod Ewrop diweddaraf Cymru - Nathan Gill a'i deulu - ydi gwrthrychau nifer o'r straeon yma.  Mae'n gyfres o straeon digon hyll am fusnes y Gills yn egsploitio mewnfudwyr yn ogystal a nifer o honiadau eraill yn cael eu codi ym mlog Jac o' The North, tra bod straeon ynglyn a thad Nathan Gill yn ymddangos ar flog C'neifiwr - straeon sy'n ymwneud a rhyw a theiars mae gen i ofn.

Rwan mae'r straeon yn ganlyniad newyddiaduriaeth ymchwiliol da gan y ddau flogiwr - ond mae'n ffaith bod llawer (er nad y cwbl)  o'r deunydd sy'n cael ei gyhoeddi yn ddefnydd sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus - open source material.  Mae dau flogiwr sy'n 'sgwennu yn eu amser hamdden wedi dod o hyd i straeon na lwyddodd sefydliadau newyddiadurol proffesiynol i'w darganfod - nid eu bod nhw wedi gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod dim wrth gwrs - roedden nhw'n rhy brysir yn darparu Nigel Farage efo cymaint o sylw a phosibl yn yr wythnosau oedd yn arwain at yr etholiad.

Efallai nad oedd y stori a dyrchwyd gan y blog yma ar ddechrau ymgyrch is etholiad Mon - ynglyn ag Alun Michael yn cael ei hun o flaen llys yn ateb cyhuddiadau o enllib mor arwyddocaol a'r straeon am Gill a'i deulu, ond roedd pob dim a ymddangosodd ar fy mlog i yn ddeunydd oedd wedi ei dynnu o ffynonellau agored.  Ni ddangoswyd unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y mater gan y cyfryngau prif lif, er y byddai rhywun wedi meddwl y byddai gonestrwydd ymgeisydd blaenllaw mewn is etholiad pwysig yn fater y byddent wedi ymddiddori ynddo.  Ond wedyn wnaethon nhw ddim dangos llawer iawn o ddiddordeb yn yr is etholiad ei hun.

Yn y cyfamser Gareth Clubb ar ei flog yntau gododd y cwestiwn ynglyn a'r posibilrwydd bod Alun Davies wedi torri'r cod ymddygiad trwy ddefnyddio ei ddylanwad fel gweinidog yn llywodraeth Cymru i ddod a mantais i'w etholaeth ei hun.  Mae'r mater o weinidogion yn torri'r cod ymarfer yn derbyn sylw sylweddol yn y cyfryngau Seisnig ar hyn o bryd wrth gwrs yn sgil y ffrae rhwng Michael zgove a Theresa May.  Dydi'r posibilrwydd bod gweinidog wedi torri'r cod ymarfer heb wneud yr un argraff ar y cyfryngau Cymreig - er i'r Western Mail gyfeirio at y stori  bellach.  Doedd  llawer o'r deunydd yn stori Gareth ddim ar gael o ffynonellau agored - ond roedd ar gael trwy ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth - rhywbeth sydd ar gael i 'r cyfryngau prif lif.

Mi fyddai'r oll o'r uchod yn faterion o ddiddordeb cyfryngol yn Lloegr wrth gwrs - ond Lloegr ydi Lloegr a Chymru ydi Cymru.  

3 comments:

Anonymous said...

Mase'r pethau mae'n gweithio y ddwy ffordd, wrth gwrs. Mae'r blog 'syniadau' wedi ail-agor yr hanes rhyfedd yna o ymateb arweinyddiaeth PC i'w gwestiynu o bolisi ynni'r Blaid. Gyda gwasg neu corff darlledu mwy craff neu effro, tybed os fyddai'r ymlid yma wedi cael ei gynnal mewn ffordd ddoethach ? Yn ol pob golwg, mae Elin Jones wedi ail-agor craith yr oeddem yn gobeithio fod yr ymgyrch Ewropeaidd wedi cau.

Cai Larsen said...

Ego trip estynedig ydi Syniadau bellach yn anffodus.

Anonymous said...

Stori am Tal Michael oedd honna, nid Alun!