Tuesday, June 24, 2014

Headbangers?

Ymddengys bod un o wleidyddion mwyaf poblogaidd Iwerddon - un o aelodau seneddol Ewrop De'r Weriniaeth - Brian Crowley wedi colli chwip ei blaid Fianna Fail oherwydd iddo ymuno a grwp yn senedd Ewrop a elwir yn y Conservatives and Reformist Group.

Eglurodd prif chwip Fianna Fail yn y Dail, Seán Ó Fearghaíl ei bod yn anerbyniol i Crowley ymuno a'r grwp yma oherwydd ei fod yn crowd of headbangers.  Toriaid Prydeinig ydi prif gydadran y grwp.

2 comments:

Anonymous said...

Son am "crowd of headbangers", oes yna ypunrhyw wirionedd i'r sibrydion fod Loise Hughes wedi gadael Llais Gwynedd?

Cai Larsen said...

Oes - mae hi bellach yn cael ei disgrifio fel Aelod Unigol ar wefan y cyngor.