Mae'n rhyfedd fel mae perhau'n dod at ei gilydd mewn ffyrdd anisgwyl weithiau - ac mae marwolaeth Tony Benn yn digwydd ddiwrnod wedi
diswyddo Dafydd Ellis Thomas fel llefaydd mainc flaen a chadeirydd pwyllgor yn y Cynulliad yn esiampl o hynny.
Mae gan ymddygiad Tony Benn yn y gorffennol gweddol bell bellach gysylltiad agos a rhai o egwyddorion ymgyrchu gwleidyddol cyfoes. Arweiniodd arfer Benn o ganolbwyntio ei ynni gwleidyddol ar rwygiadau mewnol oddi mewn i'r Blaid Lafur at hollti'r Chwith Prydeinig yn ddau ac at ddeunaw mlynedd o lywodraeth Doriaidd. Ni chollodd y Dde ei gafael ar awenau'r wladwriaeth Brydeinig nes iddynt hwythau ddechrau cecru yn gyhoeddus - ar bwnc Ewrop yn bennaf.
Ar un ystyr Benn oedd tad y 'Llafur' Newydd a ymddangosodd yng nghanol y nawdegau. Beth bynnag am wendidau Llafur Newydd - ac roedd yna ddigon, roeddynt wedi dysgu gwersi o'r gorffennol. Mae rhai o nodweddion eu hymgyrch 1997 yn parhau i fod yn fodel o sut i wneud rhai pethau wrth ymgyrchu - cyflwyno nifer fach o negeseuon atyniadol ond syml, sicrhau bod pawb yn cadw at y naratif honno, cysylltu pob dim efo'r naratif.
Mae yna fwy i ymgyrchu diweddar wrth gwrs - ond mae'r egwyddorion uchod yn dal yn hanfodol. Dylid gweld araith Leanne i'r gynhadledd yn y cyd destun hwnnw. Etholiad gyda chyfradd isel yn pleidleisio ydi etholiad Ewrop. Mae yna fygythiad i sedd y Blaid (mae hynny hefyd yn wir am sedd UKIP a'r Toriaid). Os bydd pleidlais graidd y Blaid yn dod allan i bleidleisio bydd y sedd yn cael ei chadw, os na fydd hynny'n digwydd bydd yn cael ei cholli. Yn y cyd destun yna mae tynnu sylw at oblygiadau cynrychiolaeth UKIP yn absenoldeb cynrychiolaeth gan y Blaid yn beth deallus i'w wneud. I wneud hynny'n effeithiol mae'n rhaid tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng gwerthoedd Cymreig y Blaid a gwerthoedd Prydeinig UKIP. Y neges syml ydi 'Ni neu'r Dde Brydeinig'.
Rwan dwi ddim yn amau bod dadl ffug academaidd - neu ddadl ty tafarn efallai - i'w chael ynglyn a'r cwestiwn os ydi'r traddodiad adweithiol Brydeinig mor 'Gymreig' ag ydi'r traddodiadau rhyddfrydig, cenedlaetholgar neu undebol, ond o safbwynt etholiadol wleidyddol mae gor gymhlethdod siwdaidd o'r math yma yn waeth na diwerth.
Meddyliwch am funud bod newyddiadurwr yn ol yn 1997 yn gofyn i rhyw hen gojar ffuantus oedd wedi bod ar fainc flaen Llafur ers degawdau '
What did you think of Tony Blair's conference speech emphasising the need for change and emphasising that things can only get better under Labour?" a bod hwnnw 'n ateb
'I thought it was very superficial, 'change' & 'better' are relative terms you know. Who are we to decide on the central locus that 'change' and 'better' are relative to? who are we to yada, yada, yada, yada _ _ _'. Byddai'n amlwg yn tanseilio strategaeth oedd wedi ei llunio'n gywrain er mwyn dangos ei hun, neu awgrymu ei fod o'n fwy deallus na'r arweinyddiaeth, neu am ei fod yn meddwl bod ei hawl i gael mynegi cymhlethdod ei dirwedd mewnol yn bwysicach na lles ei blaid neu beth bynnag. Byddai ei ddyddiau mainc flaen ar ben cyn iddo orffen ar ei rwdlan wrth gwrs.
Mae cynhadledd wleidyddol - yn enwedig un sydd yn sail i ymgyrch etholiadol yn cymryd llawer o waith paratoi a threfnu - gan wleidyddion y Blaid, gan yr adain wirfoddol, ac yn enwedig gan weithwyr cyflogedig y Blaid. Mae'r Blaid yn hynod ffodus bod ganddi dim bach, ifanc ond hynod frwdfrydig o weithwyr cyflogedig. Llwyddodd sylwadau Dafydd i daflu ychydig o gysgod tros beth ddylai fod wedi bod yn ymarferiad effeithiol a chysact i lawnsio ymgyrch Ewrop trwy gyflwyno naratif negyddol i'r cyfryngau ar blat. Doedd y sawl a wariodd cymaint o ymdrech a brwdfrydedd yn rhoi'r gynhadledd at ei gilydd ddim yn haeddu hynny.
Dwi ddim yn awgrymu bod y Blaid yn efelychu Llafur Blair yn y rhan fwyaf o bethau, ond mae'r egwyddorion y dylid sicrhau naratif wleidyddol syml sydd wedi ei theilwrio ar gyfer etholiadau penodol, ac y dylai holl ladmeryddion plaid drosglwyddo'r neges honno ac osgoi anghytuno a'u gilydd yn gyhoeddus - ar boen eu bywydau - yn rhai hanfodol i lwyddiant etholiadol. Llwyddodd Dafydd i feirniadu'r naratif, i anghytuno efo gweddill ei blaid ac i achosi ffrae gyhoeddus mewn ychydig eiriau.
Mae yna ddigon o le i anghytuno oddi mewn i Blaid Cymru yn fewnol - mwy felly nag a geir yn y pleidiau eraill. Mae gan Dafydd fwy o gyfle na'r rhan fwyaf o aelodau cyffredin i fynegi ei farn yn fewnol. Yn anffodus mae'n well ganddo fynegi anghytundeb trwy gyfrwng y cyfryngau torfol - gan beidio a phoeni llawer os ydi hynny'n niweidio'r blaid yn etholiadol, nag am y siom mae'n achosi i'w gyd bleidwyr ar pob lefel.