Sunday, November 18, 2012

Mae'r Cynulliad angen mwy o aelodau

Mae'r Comisiwn Newid Etholiadol yn gywir i alw am fwy o Aelodau Cynulliad.  O gymharu a'r ddau ddeddfwrfa Celtaidd arall mae Cymru yn cael ei than gynrychioli yn weddol ddrwg.  Mae yna 5,255,000 o bobl yn byw yn yr Alban, ac mae yna 129 o aelodau yn senedd yr Alban - un aelod ar gyfer pob 40,736 o bobl.  1,810,863 o bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon ac mae ganddynt 108 o Aelodau Cynulliad i'w cynrychioli - un am pob 16,700 o bobl.  Mae 60 Aelod Cynulliad yng Nghymru, ac maent yn cynrychioli 3,063,500 o bobl - un am pob 51,058 o bobl.

Ar ben hynny mae gan y rhan fwyaf o gynghorau sir yng Nghymru fwy o gynrychiolwyr etholedig na sydd gan y Cynulliad.  Er enghraifft mae gan Cyngor Gwynedd 75 cynghorydd i gynrychioli 121,900 o bobl.  Dydi'r sefyllfa sydd ohoni ddim yn gwneud synnwyr.  

5 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Dw i ddim yn credu bod angen rhagor o ACau. Dydi cymharu'r sefyllfa yng Nghymru efo senedd-dai datganoledig eraill y DU ddim yn dal dwr - efallai fod ganddyn nhw ormod o aelodau? Y gwir yw bod yna nifer fawr o ACau sydd ddim yn cyflawni ryw lawer. Os oes angen rhagor o aelodau er mwyn archwilio deddfwriaeth ail siambr yw'r ateb yn fy marn i.

Dylan said...

Ddim yn meddwl fy mod yn cytuno, Ifan. Mae bron un o bob chwech aelod yn y cabinet, mae mwy yn is-weinidogion, gan daenu'r gweddill yn gymharol denau yn yr amryw is-bwyllgorau craffu. Mae angen 20 aelod arall er mwyn sicrhau bod modd i'r gwrthbleidiau wneud eu gwaith yn iawn.

Anonymous said...

Wrth gwrs fod angen mwy o ACau Ifan.Mae llwyth gwaith ACau yn ormod o lawer. Sut mae disgwyl iddyn nhw fedru cynrychioli eu hetholwyr adal portffolio A dal y llywodraeth i gyfrif? Mae'n amhosib - dydyn nhw ddi yn gallu. Rhaid cael mwy o ACau sydd heb bortffolio i fedru gwneud gwaith palu a chwilio a herio effeithiol.

Rhaid i'r blaid sydd mewn Llywodraeth hefyd gael mwy o ACau i fedru wneud y gwaith caib a rhaw, fel mae Dylan yn ei nodi uchod.

Anonymous said...

Mewn gwirionedd mae angen aelodau ychwanegol (o leiaf 20) ynghyd ag ail siambr.

Ifan Morgan Jones said...

Rwy'n falch bod yr ACau yn gwethio'n galed! Maen nhw'n cael eu talu yn hael iawn wedi'r cwbwl.

Rhaid cofio bod gan yr ACau yma staff ddirifedi i ysgwyddo llawer o'r baich ar eu rhan nhw. Nhw sy'n gwneud lot o'r 'gwaith caib a rhan' mewn gwirionedd. Os yw'r baich yn ormod i'r ACau fe ddylen nhw gael cyflogi rhagor o staff - nid croesi bob t a dotio bob i yw gwaith yr ACau i fod.

(A dweud y gwir fe allai gweithwyr sifil gynnal y wlad yn reit dda hebddyn nhw.)

Ail siambr sydd ei angen er mwyn craffu ar weithgaredd y Llywodreath. 30 aelod, wedi ei leoli yng Nghaernarfon neu rywle arall yn y gogledd-orllewin. Sorted.