Wednesday, November 14, 2012

Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu

Hynodrwydd etholaeth Liverpool Riverside ydi iddi gael y gyfradd pleidleisio isaf  erioed mewn etholiad tros Brydain gyfan.  Y dyddiad oedd 2001 a'r gyfradd oedd 34.08%.  Y gyfradd yng Nwyrain Abertawe yn etholiadau Cynulliad 2011 oedd 31.39%.  Mae hynny'n uchel o'i gymharu a'r 26.8% a bleidleisiodd yn refferendwm 2011 yn Wrecsam.  

Mi fydd y ffigyrau hynod isel yma yn ymddangos yn barchus 'fory wrth ymyl y canrannau fydd yn pleidleisio yn yr etholiadau i ddewis comisiynwyr heddlu.  Tan yn ddiweddar byddech wedi cael pris go lew y byddai'r bleidlais yn ei chyfanrwydd yn is nag 17% - er ei bod yn ymddangos erbyn hyn y bydd ychydig yn uwch na hynny.

Mae'r wefan betio wleidyddol - politicalbetting.com yn awgrymu mai Llafur fydd yn cymryd pob un o'r rhanbarthau heddlu Cymreig gydag eithriad posibl Dyfed Powys - (gellir disgwyl gogwydd o tua 5% i Lafur).  Dwi wedi dwyn y data ganddyn nhw - canrannau'r etholiad cyffredinol ydi'r ffigyrau:


LAB “Certainties”

Cleveland: LAB 40.1 CON 27.81 LD 21.5
Durham: LAB 45  LD 24 CON 21
Greater Manchester: LAB 41 CON 27 LD 23
Gwent: LAB 41 CON 24 LD 17
Merseyside: LAB 52 CON 21 LD 20
Northumbria: LAB 45 LD 24 CON 22
South Wales: LAB 41 CON 22 LD 21
South Yorkshire: LAB 43 LD 23 CON 20
Nottinghamshire: LAB 37 CON 36 LD 19
West Midlands: LAB 37 CON 32 LD 19
North Wales: LAB 33 CON 30 LD 15 Plaid 15 (no LD and Plaid)
West Yorkshire: LAB 37 CON 32 LD 20

LAB on CON>LAB swing of upto 5%

Derbyshire: CON 36 LAB 34 LD 22
Cheshire: CON 40.84 LAB32.53 LD 21.21
Cumbria: CON 39.5 LAB 30.82 LD 24.35
Dyfed-Powys: CON 30 LD 26 LAB 22 Plaid
Humberside: CON 37 LAB 31 LD 22
Lancashire: CON 38 LAB 35 LD 18

LAB on CON>LAB swing of 5-7.5%

Staffordshire: CON 41 LAB 31 LD 18
Bedfordshire: CON 44.91 LAB 27.28 LD 20.4
Leicestershire: CON 41 LAB 28 LD 22
Warwickshire: CON45 LAB 27 LD 20

Probably CON

Cambridgeshire: CON 45.3 LD 29.19 LAB 16.31
Dorset: CON 48 LD 32 LAB 12
Essex: CON 49 LD 21 LAB 19
Gloucestershire: CON 45 LD 27 LAB 21
Hampshire: CON 49 LD 30 LAB 14
Herefordshire: CON 50 LD 24 LAB 19
Kent: CON 50, LAB 21, LD 21
Lincolnshire: CON 46 LD 21 LAB 20
Norfolk: CON 43 LD 27 LAB 18
North Yorkshire: CON 46 LD 27 LAB 19
Northamptonshire: CON 48 LAB 26 LD 19
Suffolk: CON 46 LD 24 LAB 21
Surrey: CON 55 LD 28 LAB 9
Sussex: CON 46 LD 27 LAB 16
Thames Valley: CON 48 LD 25 LAB 17
West Mercia: CON 46 LD 24 LAB 18
Wiltshire: CON 47 LD 30 LAB 18
Avon and Somerset: LD 38.4 CON 37.85 LAB 17.97
Devon and Cornwall: CON 42 LD 36 LAB 12

Mae yna gymhlethdod mewn nifer o'r rhanbarthau hyn.  Er enghraifft yng Ngogledd Cymru mae yna ymgeisydd annibynnol sydd wedi wedi ceisio cael ei ethol tros y Lib Dems i San Steffan yn y gorffennol sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth nifer o arweinwyr y Blaid yn y Gogledd - Winston Roddick. Byddai pleidlais y Blaid a'r Lib Dems efo'i gilydd yn ei wneud yn gystadleuol - er nad ydi pethau yn gweithio mor syml a hynny fel rheol.

Er eglurder, mae yna honiad ar led yng Ngwynedd mai unwaith yn unig a safodd Winston tros y Lib Dems, a hynny yn Ynys Mon yn 1970.  Dwi ddim am fynegi barn os mai ymgais ydi hyn i bellhau Winston oddi wrth y Lib Dems yn y Gogledd Orllewin cenedlaetholgar, ond yn ol 'Etholiadau'r Ganrif' Beti Jones safodd G W Roddick tros y Lib Dems yn Ynys Mon yn 1970, safodd dyn o'r enw Winston Roddick tros y Lib Dems yn Ne Caerdydd yn 1983, a safodd Winston Roddick yng Ngorllewin Casnewydd yn 1987. Yr un boi? - barnwch chi.

O - a gyda llaw, rhag ofn bod rhywun eisiau gwybod, mi fyddai i yn torri arfer oes ac yn peidio a phleidleisio pan rwyf mewn sefyllfa i wneud hynny.  

5 comments:

Anonymous said...

Every weekend i used to pay a quick visit this site, for the reason that i want enjoyment, since
this this web site conations actually nice funny stuff too.
Take a look at my weblog ... Black Friday 2012

Anonymous said...

A oedd yna Lib Dems yn 1970 ? Os cofiaf yn iawn y Rhyddfrydwyr neu'r Liberals oedd enw'r blaid yr adeg honno.

Lowri said...

Yup - ti'n iawn

Anonymous said...

Christopher Salmon, y Tori, yn ennill yn Nyfed powys. Gwyther yn colli...eto. Nifer fawr o bapurau wedi sbwylio.

Anonymous said...

"Mae'r wefan betio wleidyddol - politicalbetting.com yn awgrymu mai Llafur fydd yn cymryd pob un o'r rhanbarthau heddlu Cymreig gydag eithriad posibl Dyfed Powys"

Damio mod i heb fynd i'r bwcis. Gogledd - Winston, Annibynol
DyfPowys - Tori
Gwent - Annibynol

Trychuneb i Lafur. Ergyd iw hygrededd.