Monday, June 25, 2012

Y rhagolygon ar gyfer refferendwm yr Alban

Mae yna ganfyddiad yn datblygu - yn y cyfryngau a thu hwnt - ei bod fwy neu lai yn sicr mai 'Na' fydd yr ateb yn refferendwm yr Alban yn 2014. Mae yna sawl rheswm y tu ol i hyn - y polau piniwn, perfformiad braidd yn siomedig yr SNP yn etholiadau lleol eleni a dyfarniad y marchnadoedd betio.

Rwan, mae'r pethau hyn yn arwyddocaol wrth gwrs ond,mi fyddai rhoi'r ty i lawr ar 'Na' yn gamgymeriad. Fel mae political betting.com yn dangos mae'r union gwestiwn yn effeithio'n sylweddol ar yr ateb tebygol, a chan lywodraeth yr SNP y bydd yr hawl i osod y cwestiwn. Mae yna dystiolaeth polio pellach bod llawer o bobl yn fodlon pleidleisio 'Ia' os ydynt yn meddwl y byddent yn derbyn £500 neu fwy yn ychwanegol yn flynyddol. Mewn geiriau eraill gallai ennill y ddadl economaidd ennill y refferendwm, ac mae'r ddadl honno yn ei dyddiau cynnar ar hyn o bryd. Yn ychwanegol bydd y digwyddiadau cyfryngol Prydeinllyd sydd wedi dominyddu eleni - y jiwbili a'r Gemau Olympaidd yn hen hanes erbyn 2014.

Pan mae'n dod i ddarogan etholiadau mae gen i record eithaf da, ond mi fydda i'n gwneud ffwl ohonof fy hun weithiau. Y tro diwethaf i mi wneud hynny oedd yn ol yn 2010 pan roeddwn yn sicrhau pawb oedd yn fodlon gwrando neu ddarllen nad oedd gan yr SNP obaith i gadw grym yn Hollyrood y flwyddyn ganlynol. Roedd fy marn wedi ei seilio ar ganlyniad Etholiad Cyffredinol 2010, polau piniwn a'r marchnadoedd betio. Newidiodd y polau piniwn yn sylweddol ym misoedd cynnar 2011 yn sgil dau beth - dad Brdaineiddio gwleidyddiaeth yr Alban fel roedd yr Etholiad Cyffredinol yn diflannu i'r gorffennol, a'r ffaith mai cyd destun etholiadol 2011 oedd y cwestiwn o bwy oedd fwyaf addas i lywodraethu yn yr Alban.

Gallai dad Brydaneiddio o fath gwahanol ynghyd a ffocysu ar y cwestiwn o pa drefniant cyfansoddiadol fyddai'n fwyaf tebygol o godi safon byw gael effaith tebyg erbyn 2014. Byddai newid yn y polau piniwn ym Mhrydain a chanfyddiad ei bod yn debygol y bydd y Toriaid yn cael eu hail ethol yn y flwyddyn ganlynol yn gwneud 'Ia'n' fwy tebygol eto.

9 comments:

Anonymous said...

OK, dwi'n genedlaetholwr, ddim yn byw yn yr Alban ac ond wedi gweld a chlywed pytiau o lansiad 'Na i annibyniaeth'.

Clywais gyfweliad Darling ar Radio 4 bore 'ma. Do, siaradodd e'n ddigon call ond mae'n rhaid dweud i mi feddwl, "is that it?"

Dwi'n rhyw amau y mwyaf fydd yr ymgyrch Na yn ymgyrchu y mwyaf o amser mae'n rhoi i'r Ymgyrch Ie eu hateb ac felly y mwyaf fydd pobl yn dod i ddeall y dadleuon ac nid dibynnu ar ragfarn.

Tegwared said...

A bydd Gemau'r Gymanwlad wedi eu cynnal yn yr Alban erbyn yr etholiad hefyd - llwyfan i ddangos yr Alban ochr yn ochr a chenhedloedd y byd. Antidote i'r gemau olympaidd, ella.

Anonymous said...

Chydig fisoedd yn ol roeddwn i mewn gyfarfod gyda darlithwyr eraill o'r Alban a Gog Iwerddon.

Yn syml mae nhw wedi'i ddweud fod y referendum yno i Salmond i enill. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod Salmond hefo bron o 2 flynedd o hyrwyddo'r peth, ac yn fwy pwysig - mae ganddo adnoddau y Llywodraeth i allu wneud hyn. Ac tydy'r margin ddim mor fawr a hynny. Os gaiff Salmond gael roi yr hawl i pobl dros 16 bleidleision, fe fydda i yn rhoi ambell i geiniog ar pleidlais Ie.

Ond yn union Blogmenai- erbyn 2014 fe fydd y Gemau Olympaidd wedi mynd ar jiwbili. OND, mae'r Commonwealth Games yn Glasgow yn 2014- a fydd hwn yn dangos "pa mor dda ydio i fod yn ran o Brydain" neu all Salmond ddeud "edrychwch, allwn ni dal gael hyn hefo annibyniaeth". Dwin teimlo fydd y gemau yma yn gallu fod yn ffactor.

Roedd y tim "na i annibyniaeth" chwarae teg wedi cael gwefan da, enw eithaf positif ac y ddefnydd o bobl 'cyffredin' yn effeithiol. Er roedd y dadleuon yn eithaf gwan.

Yr un peth dwi'n poeni am yw gweinidogion eraill yr SNP. Yn anffodus, mae nhw wedi bod yn hynod o wan ar y teledu am unrhyw gwestiwn speficic. Rhaid iddyn nhw gyd astudio be fydd yn digwydd ar ol 2014.

Er gwybodaeth:

Ar yr un pryd roedd rhai o Gogledd Iwerddon yn dweud gall hyn yn yr Alban effeithio nhw. O dan y Good Friday Agreement mae y cenedltholwyr hefo'r hawl i ofyn am refferendwm ar unrhyw bryd i ail amuno a'r De heb unrhyw bleidlais. Maen debyg 'na' fysa hyn, ond dal fe fysa nifer or pethau sydd wedi'i sgubo dan y carped ddod allan.

Yna yng Nghymru da ni hefo Silk yn 2014- gret!

Cai Larsen said...

Fy nealltwriaeth i o'r GFA ydi mai mater i'r Ysgrifennydd Gwladol Tros Ogledd Iwerddon ydi galw refferendwm - a hynny pan mae'n ymddangos iddo y gellid cael mwyafrif sydd eisiau ail ymuno a'r Iwerddon.

HC said...

O ran diddordeb, roedd nifer ohonom yng Nghymru yn eithaf blin pan ymddangosodd y fflam Olympaidd yma. digwyddiad ddigon cofiadwy , a bod yn deg, ond roedd bob math o heip Prydeinllyd yn ymdrechu i foddi'r Ddraig Goch, a mawr fu'r cwyno ynghylch hynny.
Sut roedd pethau yn yr Alban. Oedd Jac yr Undeb yn 'Issue' yna ?

Anonymous said...

It's not my first time to visit this web page, i am visiting this web page dailly and get pleasant information from here every day.
My web page - receive structured settlement

Anonymous said...

Hello there! I could have sworn I've visited your blog before but after browsing through some of the posts I realized it's new to me.
Anyways, I'm definitely happy I stumbled upon it and I'll be book-marking
it and checking back often!

Visit my blog post ... annuity payments for powerball

Anonymous said...

Hi! I just want to offer you a big thumbs up for the excellent info you have
got right here on this post. I am coming back to your site for more
soon.

Here is my blog :: Cash for structured settlement

Anonymous said...

Great work! This is the type of information that are supposed to be shared around
the net. Shame on Google for no longer positioning this post higher!

Come on over and consult with my website .

Thank you =)

My homepage purchase structured settlement