Saturday, June 16, 2012

Plaid vs Llais - y darlun ystadegol

Gweld sylw yn nhudalen sylwadau'r blogiad isod oedd yn rhoi canlyniad etholiad Bryncrug wnaeth i mi fynd at Excel yn gynharach heddiw. Ailadrodd canfyddiad sy'n un eithaf cyffredinol oedd y sylw - bod Llais Gwynedd yn gwneud yn dda yn erbyn Plaid Cymru mewn etholiadau lle mai dau ymgeisydd yn unig a geir. Yr awgrym sydd ymhlyg yn hyn ydi bod pobl sy'n wrthwynebus i'r Blaid yn tueddu i hel at ei gilydd o dan faner Llais Gwynedd mewn rasus dau geffyl.

Er bod y canfyddiad yn un cyffredin 'dydi o ddim yn wir. Mewn etholiadau dau geffyl rhwng Llais Gwynedd a'r Blaid cafodd y Blaid 5788 pleidlais i 4628 Llais Gwynedd. Mae hyn yn gymhareb o tua 56/44. Mewn etholiadau lle'r oedd tri neu fwy o ymgeiswyr cafodd y Blaid 2268 pleidlais i 2214 Llais Gwynedd - cymhareb o tua 51/49. Efallai ei bod werth nodi nad oes tystiolaeth bod pleidleiswyr y pleidiau unoliaethol yn aros adref mewn etholiadau lle nad oes ymgeiswyr yn sefyll trostynt - mae cyfraddau pleidleisio yn uchel mewn etholiadau llywodraeth leol yng Ngwynedd - yn wir maent yn uwch nag ydynt yn etholiadau'r Cynulliad mewn llawer o wardiau - yn arbennig rhai gwledig, lle mae Llais Gwynedd yn tueddu i sefyll.

Rwan mae sawl dehongliad posibl i hyn - ond yr un mwyaf amlwg ydi bod mwy o bleidleisio tactegol yn erbyn Llais Gwynedd na sydd yn gwneud hynny yn erbyn y Blaid.

8 comments:

Anonymous said...

Mae gan y Blaid le i apelio'r canlyniad o weld y daflen gelwyddog oedd yn cael ei ddosbarthu ym Mryncrug.

Cai Larsen said...

Wel, roedd y daflen yn sicr yn groes i gyfraith etholiadol - ond byddai'n nesaf peth i amhosibl i brofi pwy sy'n gyfriol mi dybiwn.

Dylan said...

Beth oedd y daflen?

Cai Larsen said...

Mi wela i os ga i gopi yn rhywle.

Anonymous said...

Onid y pwynt yn y sylwadau oedd pan mai etholiad Llais v Plaid h.y. dau ymngeisydd yn unig mae'r pleidleisiau GWRTH Plaid yn uno tu ol i'r ymgeisydd arall. Mewn etholiad, neu is-etholiad, megis Bryncrug, fe mae'r pleidleisiau hynny yn fwy tebygol o gael eu rhannu ar draws y pleidliau eraill?

Cai Larsen said...

Ia - ond mae'r Blaid yn gwneud yn well vs Llais Gwynedd pan mai dau ymgeisydd yn unig sydd. Hynny yw mae peth tystiolaeth ystadegol bod pleidleisiau'r pleidiau eraill yn fwy tebygol o fynd at y Blaid nag at LlG mewn amgylchiadau felly.

Anonymous said...

Mae'r daflen iw gweld ar flog Royston Jones (jac o' the north).

Cai Larsen said...

Diolch