Thursday, June 28, 2012

Leanne, Martin McGuinness a Mrs Windsor

Yn ol Wales Today, mae Dafydd Elis-Thomas wedi gwneud datganiad sy'n mynegi'r farn y gallai arweinyddion Plaid Cymru ddysgu llawer oddi wrth Martin McGuiness oherwydd i hwnnw ysgwyd llaw efo Elizabeth Windsor ddoe. Ymhellach mae'n ymddangos ei fod o'r farn y dylai pobl 'dyfu i fyny'.

Mae'n debyg gen i mai cyfeirio mae Dafydd at y ffaith i Leanne Wood beidio a mynychu gwahanol ddigwyddiadau i ddathlu'r jiwbili ychydig wythnosau yn ol. Rwan, hwyrach fy mod i yn methu rhywbeth yma, ond ydi agwedd Leanne a Mr McGuinness yn wahanol i'w gilydd go iawn?

Mae ail weinidog Gogledd Iwerddon yn weriniaethwr, ac mae'n ddigon naturiol felly nad aeth ati i ddathlu'r jiwbili, ond roedd yn fodlon cyfarfod Mrs Windsor yng nghyd destun ei swydd.

Mae Leanne hefyd yn weriniaethwraig, ac yn ddigon naturiol wnaeth hithau ddim mynychu'r digwyddiadau jiwbiliaidd chwaith. Ond mae wedi dweud y byddai'n cyfarfod a Mrs Windsor mewn rol swyddogol petai honno'n dod i'r Cynulliad.

Mae safbwynt y ddau yn ymddangos i fod fwy neu lai yr un peth i mi.

10 comments:

Un o Eryri said...

Cytuno yn llwyr gyda Dafydd mae gennyf ofn. 'Roedd sylwadau Leanne ar y Jiwbili yn hynod o "naif" i ddefnyddio y geiriau gan Bethan am Martin McGuinness. Mae Plaid Sinn Fein yn blaid gweriniaethol, ond nid yw Plaid Cymru (er y cytunaf bod amryw gan gynnwys fi'n hunan yn weriniaethwyr ). Y prif wahaniaeth yw bod Sinn Fein wedi bod yn ddigon craff i ddefnyddio y Teulu Brenhinol er lles tymor hir Iwerddon, tra bod rhai o arweinyddiaeth presennol y Blaid yn hollol ddall i sut mae mwyafrif Cymru yn teimlo ar fater sydd yn gwneud dim gwahaniaeth i'n dyfodol ni fel cenedl. Llawer gwell cael Cymru gyda ymreolaeth llawn o dan Frenhiniaeth Lloegr, na Chymru fel ac y mai o dan Lloegr, gyda Lloegr yn Frenhiniaeth neu hyd yn oed yn Weriniaeth.

Cai Larsen said...

Un neu ddau o bwyntiau:

Dydi SF ddim eisiau ymreolaeth o dan frenhinaeth Prydeinig wrth gwrs - eisiau Gweriniaeth Unedig maen nhw. Dydyn nhw ddim hyd yn oed eisiau dim i'w wneud efo'r Gymanwlad. Dydi ysgwyd llaw ddim yn newid

Wnaeth MMG na'r un aelod arall o SF hyd y gwn i fynychu gwasanaethau i ddiolch am deyrnasiad EW. Y cwbl ddigwyddodd oedd cyfarfod mewn cyd destun swyddogol. Onid dyna fyddai'n digwydd efo arweinydd PC petai EW yn dod i'r Cynulliad?

Dwi heb fy argyhoeddi gan y Bib ag ati bod y frenhiniaeth yn agos mor boblogaidd a mae'r heip yn awgrymu.

twm said...

Dydw i ddim yn hollol sicyr os ydym yn colli fwy o bleidleisiau na ydym yn ennill trwy fod mor frwd yn erbyn y frenhiniaeth.

Ond dwi'n hollol sicyr fod pleidiau rhanedig yn colli etholiadau. Os ydy'r arglwydd eisiau beirniadu yr arweinyddiaeth dyla fo wneud hynny yn fewnol, dim i dragon's eye a Martin Shipton.

Un o Eryri said...

Dwi'n cofio Leanne yn beirniadu ac yn mynd yn hollol groes i arweinyddiaeth Plaid Cymru droeon, cyn iddi hi ddod yn arweinydd. Trwy feirniadaeth efallai y gwnaiff hi ddod yn arweinydd da. Fe wnaeth hi araith wych ar y Frenhiniaeth yn y Senedd rhyw dair wythnos yn ol. Ymateb i Feirniadaeth oedd yr araith yno ac fe ymatebodd yn wych. Dwi'n gobeithio y gwnaiff hi arweinydd da yn y dyfodol

Anonymous said...

Pryd oedd y tro diwethaf i DET feirniadu arweinydd unrhyw blaid ond ei blaid ei hun?

Anonymous said...

Be mae y dyddiau diwethaf yma yn dangos rhwng sylwadau Bethan J a Leanne ydy'r angen dybryd am 'chydig o aeddfedrwydd gwleidyddol a deall yn well meddyliau trwch poblogaeth Cymru os am ennill grym yn y dyfodol. Dyma yn union mae SF yn gwneud, safleoli'r blaid ynghanol prif lif meddyliol trigolion Werddon er mwyn ennill grym trwy'r Ynys erbyn 2017. Yn anffodus mae rhai yn Plaid Cymru fel petaent am ynysu ni i ymylon gwleidyddol Cymru ac oherwydd hynny mae'n gwneud lles weithiau i geisio eu tynnu yn ol i'r brif ffrwd

maen_tramgwydd said...

Un o Eryri

"Dwi'n cofio Leanne yn beirniadu ac yn mynd yn hollol groes i arweinyddiaeth Plaid Cymru droeon.."

Os ydwi'n cofio'n iawn yn ôl dy sylwadau yn ystod ornest yr arweinyddiaeth, Un o Eryri, roeddet ti'n swnio'n debyg iawn i DET - yn wir, yn ddigon i mi feddwl mai ti yw DET.

Fodd bynnag, yn fy nhyb i mae'n amser i DET gau ei geg. Ychydig fawr o dda wnaeth o i'r Blaid erioed.

Anonymous said...

Ydi DET yn trio cael ei gicio allan o'r Blaid? Mae popeth mae'n gneud yn awgrymu hynny ar y funud. Mae defnyddio Sinn Fein fel arf i golbio Leanne yn arbennig o ddoniol o ystyried fod DET wedi gofyn i Llywodraeth Prydain arestio aelodau SF oedd yn dod i Gymru i gyfarfod a Chymdeithas yr Iaith yn y 90au. Rhagrithiwr a careerist o'r radd flaenaf.

Cai Larsen said...

Maen Tramgwydd

Dwi'n 'nabod Un o Eryri - ac mi allaf dy sicrhau nad Arglwydd - na hyd yn oed marchog mohono!

HC said...

Dwi'n cofio DET yn cyflwyno'r 'Wolfe Tones' ar lwyfan yn Nglannau Dyfrdwy yn 1982 - union adeg y Flaklands .
Mi wnaeth o fwydro ei ben wedyn hefo CND a gwleidyddiaeth y chwith Brydeinig.