Friday, June 15, 2012

Is etholiad Bryncrug

Clarke, Nancy Elizabeth Annibynnol 51 10.2%
Evans, Alun Wyn Plaid Cymru 136 27.2%
Hughes, Gwyn Llais Gwynedd 35 7%
Lawton, Beth Annibynnol. 212 42.4%
Pughe, John Annibynnol. 66 13.2%

18 comments:

Anonymous said...

rheswm i gredu fod Beth Lawton yn cydymdeimlo (oleiaf) gyda Llais Gwynedd. Mae'n aelod o'u grwp Facebook nhw ac wedi bod yn ysgrifennu arno yn frwd yn erbyn Cyngor Gwynedd.

Anonymous said...

Beth Lawton, efo ew felna yn amlwg dim o'r ardal yn wreiddiol ond yn mynnu cael ffordd Saenigaidd ei hun!

Anonymous said...

Anon2 - mi aeth hi i Ysgol Tywyn.

Alwyn ap Huw said...

Beth Lawton, efo ew felna yn amlwg dim o'r ardal yn wreiddiol ond yn mynnu cael ffordd Saenigaidd ei hun!

Mae teulu Beth Lawton wedi ei hen wreiddio yn yr ardal dros sawl ganrif (os nad milawd)!

Alwyn ap Huw said...

Ac os am son am bobl efo enwau felna; pa hawl sydd gan Olaf C Larson i bostio am wleidyddiaeth Cymru?

Plaid Gwersyllt said...

Ai merch y diweddar Robin Bysys ydy Beth? Yn Gymraes ac o Bryncrug yn wreiddiol.

Anonymous said...

Noson siomedig eto i'r Blaid ac unwaith eto yn ail-adrodd y neges i ni bod angen taflu allan y busnes ad-drefnu ysgolion ma ar ei ben.

Plaid Gwersyllt said...

Wedi bod yn deud run peth ers blynyddoedd, da ni ddim yn dysgu y wers hawdd, na ddylsem ypsetio ein pleidlas grai!

Un o Eryri said...

Werth edrych ar tudalen FB Llais, maent yn trin yr etholiad fel buddugoliaeth er fod ei ymgeisydd hwy yn olaf allan o 5. Ymgeisydd Plaid Cymru wedi cael pedair gwaith mwy o bleidlais na hwy. Ma'en dangos unwaith eto mai unig ddiddordeb Ll. G. yw bod yn erbyn Plaid Cymru. Ych a fi

Anonymous said...

mae'r busnes 'sgolion ma yn fwy o drafferth na'i werth. Mae llawer iawn o ymdrech yn mynd i'r mater a dyw hi ddim yn glir mewn gwirionedd beth yw'r manteision - a dwi'n siarad fel pleidiwr !

Anonymous said...

Un o Eryri: "Werth edrych ar tudalen FB Llais, maent yn trin yr etholiad fel buddugoliaeth er fod ei ymgeisydd hwy yn olaf allan o 5."

Eu hymgeisydd "swyddogol" oedd yn olaf allan o 5. Prin i LlG redeg ymgyrch. Rheswm i gredu fod yr un oedd yn fuddigol yn 'cydymdeimlo' a dweud y lleiaf efo LlG..

Anonymous said...

Unwaith eto, mae perygl i rai neidio i gasgliadau a methu unrhyw arwyddocad, os oes o gwbl. Yn gyntaf, nid yw Plaid Cymru wedi dal y sedd yma erioed. Nid sedd Plaid ydi hi nac wedi bod ond yn hytrach ymgeisydd annibynnol. Dwi ddim yn cofio'r tro diwethaf i'r Blaid ymladd y sedd hyd yn oed. Mae'n ymddanogs mai ymgeisydd poblogaidd lleol sydd wedi ennill. Nid yw'n gyfrinach mai y ffactor pwysicaf mewn etholiad lleol yng nghefn gwlad Cymru yw ansawdd a natur yr ymgeisydd gyda ffactorau pleidiol yn eilradd. Nid wyf yn gwybod llawer am y sefyllfa ysgolion yn yr ardal ond o'r canlyniad nid yw'n ymddanogs ei fod wedi bod yn ffactor o bwys. Mae'n bosibl bod llawer o'r sylwadau uchod felly yn amherthnasol ac yn ymgais i daflu'r sylw oddi ar y canlyniad trychinebus i Lais Gwynedd. Ac fe ellir dod i gasgliad o ran hynny dwi'n tybio, megis prin iawn yw pleidlais graidd Llais Gwynedd, hyd yn oed mewn ardal ble mae manteision mawr iddyn nhw ar bapur. Pan mae etholiad Plaid v Llais yn unig mae gwrthwynebwyr Plaid yn uno tu ol i Llais, ond pan mae tocyn o ymgeiswyr mae'r bleidlais yma'n chwalu. Os am ddod i gasgliadau dylid gwneud hynny wrth edrych ar y dystiolaeth siawns?

Anonymous said...

Cri gan Pleidwyr sydd yma nid aelodau o Lais Gwynedd--unwaith eto taflwch yr ad-drefnu ysgolion ma i'r ochr a cefnogwch ein hysgolion presennol.Siawns gwych i wneud hyn gyda'r Cyngor newydd.Drwy wneud hynny a drwy weithio'n galed yn ein cymunedau cawn yr etholwyr yn ol i'n cefnogi ym mhob man ac nid mewn rhai etholaethau fel y mae ar hyn o bryd.

Anonymous said...

Mae Plaid Cymru yn cael eu cysylltu efo cau ac amddifadu ysgolion gwledig. Amser iddynt gael arweinydd newydd yng Ngwynedd sydd ar gallu i gael pawb ar ei hóchr

Anonymous said...

Nid yw'r canfyddiad bod y rhaglen ad-drefnu ysgolion go iawn yn effeithio ar gefnogaeth i'r Blaid ar lawr gwlad yn dal dwr. Dim ond ym Meirionydd - o amgylch y Bala, Dolgellau a Thywyn - y mae yna drafodaethau wedi digwydd a cynigion wedi'i gwneud. Un cynghorydd Llais Gwynedd sydd yno, lleihad o 4 yn 2008. Onid yw hynny'n awgrymu fod rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau yn cymryd agwedd iachach na rheiny sydd ddim? Hynny yw, ofn o gychwyn trafodaethau, yn hytrach nag anfodlonrwydd gyda natur na chanlyniadau'r trafodaethau, sydd wrth wraidd y gefnogaeth i Lais Gwynedd yn Llŷn.

Anonymous said...

Hey! I'm at work surfing around your blog from my new iphone 3gs! Just wanted to say I love reading your blog and look forward to all your posts! Carry on the great work!
my website: android tablet pc

Anonymous said...

Ι аm trulу thankful to the oωner of this wеb
site who has shаred this grеat artiсle at at thіs placе.
My webpage : www.prweb.com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.htm

Unknown said...

led tap: The New Technology The need for shower heads has sprung up with rising water shortage problems. bathroom accessories technology has evolved as many companies have understood the importance of water conservation. Companies have introduced significant changes to their showerhead technology to use less water, while giving the same water levels and quality. kitchen tap that feature the push-on mixer are best for old bathrooms, as they do not require any plumbing behind the bath tap.