Yn ol copi heddiw o'r Daily Post mae Jonathan Edwards yn ein rhybuddio y bydd cwymp sylweddol yn y nifer fydd a'r hawl i bleidleisio yng Nghymru os ydi'r drefn cofrestru etholwyr yn cael ei newid - dyna ydi bwriad y Comisiwn Etholiadol yn ol pob tebyg.
Y bwriad ydi gwneud i bobl gofrestru yn unigol, yn hytrach na gofyn i un person mewn ty gofrestru pawb. Mae'n debyg i hyn ddigwydd yng Ngogledd Iwerddon tua degawd yn ol - a'r canlyniad oedd cwymp sylweddol yn y nifer oedd ar y gofrestr pleidleisio.
Mae yna fwy i'r stori Gogledd Iwerddon fodd bynnag. Y rheswm bod y newid wedi digwydd yno oedd bod yr awdurdodau wedi argyhoeddi eu hunain mai'r unig eglurhad posibl am y twf ym mhleidlais y pleidiau 'eithafol' oedd twyll etholiadol. Roeddynt o'r farn y byddai'r newid yn gwneud twyll yn fwy anodd.
Beth bynnag - yn gwbl groes i'r darogan - canlyniad yr ymarferiad oedd cwymp sylweddol yn y ganran o'r bleidlais oedd yn mynd i'r pleidiau 'cymhedrol', a chynydd cyfatebol yng nghanran y pleidiau 'eithafol'. Mae mwy nag un eglurhad posibl am hyn, ond yr un mwyaf tebygol ydi bod cefnogwyr pleidiau 'eithafol' yn fwy ymroddedig na chefnogwyr pleidiau eraill, ac o ganlyniad maent yn fwy tebygol o gymryd y drafferth i gofrestru yn unigol.
Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd yr effaith ar batrymau pleidleisio yng Nghymru os bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu.
1 comment:
Sut mae etholiadau yn gweithio yn gwledydd eraill? Ydy pawb hefo cofrestr?
Y rheswm dwi'n gofyn ydy oherwydd yn yr un Ffrainc o ni'n sylwi bod o'n cymeryd dipyn o amser i nw ticio a checio bod y person yn cael cofrestru. Tra yma mater o ddeud enw a mynd i'r blwch ydio.
Post a Comment