Wednesday, June 20, 2012

Carwyn a'r WMDs

Felly mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur Gymreig yn erbyn WMDs yn Iran, Irac ac ati, ond o blaid eu gorfodi nhw ar Gymru.

O ganlyniad ymddengys bod Carwyn Jones eisiau lleoli WMDs yng Nghymru - arfau fyddai yn rhoi'r wlad ymysg prif dargedau unrhyw elyn - yn absenoldeb unrhyw ddylanwad tros bolisiau tramor a allai arwain at ryfel efo'r gelyn hwnnw.

Tybed os oes yna unrhyw lywodraeth arall yn unrhyw le yn y Byd fyddai'n fodlon rhoi'r wlad mae'n llywodraethu trosti mewn perygl sylweddol, tra'i bod heb unrhyw fewnbwn i'r prosesau sy'n arwain at gynnydd a lleihad yn lefel y risg hwnnw?

2 comments:

Brwynen said...

Cytuno'n llwyr Blogmenai, y grym i benderfynu yw'r allwedd yma.

Bydde pobol Cymru wedyn yn medru penderfynu naill fordd neu'r llall wedi pwyso a mesur y peryglon/buddiannau/moesoldeb

Yn bersonol bydden ni'n meddwl fod y perygl yn fwy na'r buddiannau ond wedi deud hynny fydden ni'n meddwl fod Y Wylfa a'r holl weithfeydd niwcliar yn Ngorllewin Lloehgr yn dargedau milwrol dilys hefyd. Felly falle nad yw'r risg o gael trident yng Nghymru llawer yn fwy na'r risg presennol?

Cai Larsen said...

Wel, mae yna burfeydd olew a storfeydd nwy yn yr ardal. Byddai presenoldeb y rheiny yn agos at ddeunyddiau niwclear yn risg sylweddol heb ystyried unrhyw fomio. Petai Trident yn mynd i Sir Benfro byddai'n rhaid eu cau.