Sunday, February 26, 2012

Joban wedi ei gwneud _ _ _

_ _ _ ac mae yna ddwy arall yn mynd o ty ni hefyd - efo'r rhifau yn yr un llefydd.



22 comments:

Anonymous said...

3...
2...
1...
Lift off!

Anonymous said...

Gan mae pleidlais gyfrinachol yw hon dwi'n credu fod dangos y bleidlais fel hyn yn golygu nad yw'n ddilys bellach

Cai Larsen said...

He he am rheol ddiddorol.

Pob lwc ar ei gorfodi hi.

Anonymous said...

Galle fod yn anodd, rhyw fath o brawf dna ac inc drudfawr, falle ddim werth yr ymdrech

Wedi hir bendroni fe aeth fy mhleidlais i'r un ffordd a dy bleidlais di

Cyd Og

Anonymous said...

Wel 1..
2..
ac ella 3.. fydd hi i mi.

Pam? Wel y benna' am fy mod wedi meddwl o ddifri beth oeddwn eisiau weld mewn arwieinydd cyn cychwyn yr ornest ac wedi dod i'r casgliad mai fy mhrif flaenoraiaeth fyddai meddu ar weldedigaeth o weld datganoli / annibyniaeth fel proses ac nid digwyddiad. Gwelais hyn yn glir yn DET ac yn EJ yn ei haraith ardderchog yn y gynhadledd llynedd.

Gan fod aelodau'r Senedd yn unfrydol wedi cefnogi datganoli mae sefyllfa P.C. wedi mynd yn fwy niwlog yng Ngwleidyddiaeth Cymru. Amheuaf farn Blog Menai yn awgrymu fod yn rhaid i'r Blaid yn awr ddangos ymrwymiad i annibyniaeth ddigyfaddawd sy'n mynd yn groes i ddyheadau trwch y boblogaeth ar hyn o bryd. Beth sydd angen ar y Blaid ydy polisiau cryf cyffrous sy'n mynd i ddenu cefnogwyr o bob cwr o'r wlad ac o bob oedran. Dyma beth ddigwyddodd yn yr Alban - dyna pam fod yr SNP wedi cael eu hunain yn y sefyllfa gyffrous y maent yn wynebu nawr o gael cynnig dewisiadau real i'r Albanwyr.

Hoffwn hefyd ychwanegu nad wyf yn dymuno gweld ddim drwg deimlad yn sgil yr ornest hon ac ei bod yn bwysig gochel rhag mynd yn bersonol. Cefais fy siomi braidd yn agwedd Blog Menai tuag at ymarweddiad EJ. Nid biwti contest di hon. Cofier Helen Mary / Angela Merkell / Alex Salmond / trwsgwl ond effeithiol?

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn hollol siwr at beth rwyt yn cyfeirio Anon 8.42.

Dweud bod Elin yn cynrychioli delwedd o Gymru wledig, Orllewinol, amaethyddol oeddwn i. Dwi'n gobeithio nad oes neb wedi cam ddehongli hynny.

Anonymous said...

Does na ddim un o'r tri yn ddigon da i wneud y swydd holl bwysig hon. Mi fyddai yn fotio yr un ffordd a blog menai OND yn gwneud hynnu oherwydd mai Leanne ydi'r gorau o 3 gwael ag yn croei bysedd y bydd adam yn ol o fewn 4 mlynedd.
Deall pam dy fod ddim eisiau gweld rhai pethau yn cael eu dweud yn gyhoeddus blog menai ond byddai cael cachwr llyfu tin y queen fatha dafydd el yn y swydd yn ddisaster i'r blaid!!!

maen_tramgwydd said...

Di-enw 12:42

Mae gen i ryw syniad fod gan yr SNP 'ymrwymiad digyfaddawd' i annibyniaeth a hefyd polisiau cryf cyffrous - mae modd rhwymo'r ddau.

Gwaetha'r modd mae gwleidyddiaeth yn beth personol. Mae angen dipyn o garisma.

Dw'i ddim yn credu bydd DET yn ennill. Os y gwnaiff yn fy marn i d'oes ddim llawer o ddyfodol i'r Blaid. Efallai y gallwch egluro i ni sut mae o'n mynd i wella ein bywydau a rhoi gobaith i'r genedl a pam mae o ddim wedi cyflawni hyn eisoes yn ei yrfa wleidyddol?

Un o Eryri said...

Peth braf yw cael cytuno a'r awdur ar rhif 2. Bydd 1 a 3 yn hollol groes a bydd 3 pleidlais o'r ty yma yn gwneud hynny, felly byddwn yn amlwg yn canslo ein hunain allan. Peth braf hen wrth ganfasio ffon dros Dafydd oedd y nifer o bobl oedd wedi bod yng Nghaernarfon a Penyngroes yn meddwl cefnogi Leanne, ond ar ol bod yno wedi newid ei meddwl i gefnogi Dafydd

Anonymous said...

DET 1
LW 2
EJ 3

Tair pleidlas i gyd yr un fordd, o ty ni.

Anonymous said...

Di-enw 03:15 a 03:31

Fe fuasai'n well i chi a'ch teuluoedd ymuno a'r Blaid Lafur a cael dylanwad uniongyrchol yn lle pleidleisio am un a'i uchelgais yw bod yn gi bach iddi.

Anonymous said...

Di enw 12.57

Nawr, nawr. Un peth syn sicr, diw D E T , ddim wedi bod un gi bach I neb.

Anonymous said...

Di enw 1:28

Os caiff ei ethol fe fydd yn debyg o fod mewn clymblaid a Llafur cyn deunaw mis.

Dwi'n meddwl iddo eisiau bod yn ddirprwy-brif weinidog Cymru yn y Llywodraeth cyn iddo ymddeol. Hyd y gwela i dyn hunan-bwysig ydi o.

Faint o seddi wnaiff y Blaid golli tro nesaf os digwyddith hynny?

Wrth gwrs, efallai bydd Llafur ddim yn ei eisiau neu yn ei angen. D'oes ganddyn nhw ddim byd i gynnig i Gymru beth bynnag.

Anonymous said...

Di enw 2.58

Oedden i yn meddwl bod pob gwleidydd yn hynan-bwysig. Man lleiaf fe fydd yn arwainydd.

Maer ymosod personol ar DET, os rhiwbeth yn gwneud byddigoliaeth iddo, yn fwy tybygol.

Anonymous said...

Di enw 4:04

O leiaf, atebwch y cyhuddiad ei fod am glymblaid gyda Llafur.

http://tinyurl.com/7v9synv

Beth fydd dyfodol y Blaid wedyn?

Ble fydd DET wedyn? ...wedi ymddeol.

Anonymous said...

Di enw 4.25

Clymblaid a LLafur, dim ond os bydd yn gwella sefyllfa Cymru.

Mae yn well i unrhiw blaid i fod mewn llywodraeth gyda grim, na bod yn wrthbenygwyr da.

Beth bynnag, bydd dym clymblaid heb cefnogaeth aelodaur Blaid, yr un peth a ddigwyddodd 5 blynedd yn nol.

Anonymous said...

Nifer dwi'n nabod wedi pleidleisio ychydig yn wahanol.
1.LW
2.DET
3.EJ
Dyddiau gorau DET ymhell yn y gorffennol.
A fawr o ffydd gan nifer ohonom yn EJ. Dydi'r greadures jest ddim yn taro rhywun fel arweinydd/es

Anonymous said...

Hеllο it's me, I am also visiting this web site daily, this web page is really nice and the people are actually sharing nice thoughts.
Also visit my web blog ... click through the up coming webpage

Anonymous said...

Your means of telling the wholе thing in thіs paragraph is аctually nice, all bе аble tо
without difficulty understand it, Τhanks a lot.

Here is my weblοg silk n sensepil hair removal

Anonymous said...

Hello there, I think your blоg cοuld ρossіbly be
haѵing browser compatibilitу problеms.
When ӏ looκ at your blog іn Safari, іt lοoks
fine however, if opening in Internet Explorer,
іt's got some overlapping issues. I just wanted to provide you with a quick heads up! Aside from that, great site!

My web-site - simply click the up coming site

Anonymous said...

Ι ԁo truѕt all of the ideas you haνe offerеd οn yοuг pοѕt.
They are vеry convincing аnd will dеfinitеly
wοrk. Ѕtill, the ρoѕts аге veгy
short fοг newbies. May just you ρlease lengthen them a little from subsеquent time?

Thank you foг thе pοst.

my рage ... %anсhor_text%

Anonymous said...

Good day! Ӏ cοuld have sωorn I've visited this site before but after going through a few of the posts I realized it's
neω to me. Regaгdlesѕ, I'm definitely delighted I found it and I'll be book-marking it and chесking
back frеquently!

Alsο νisit my webpаge: Recommended Looking at
my web site > Going to http://www.prweb.com