Friday, November 21, 2008

Ydi'ch cymdogion yn perthyn i'r BNP?

Wna i ddim postio linc - byddai hynny'n torri'r Ddeddf Amddiffyn Data - ond cymrodd llai na dau funud o gwglo i mi ddod o hyd i'r rhestr cyflawn o aelodau'r BNP a roddwyd ar y We yn ddiweddar.

Beth bynnag un neu ddau o ffeithiau diddorol o safbwynt lleol beth bynnag:

Mae yna 14 aelod yn Ynys Mon ac 8 ac wyth ohonynt yng Nghaergybi.

Does yna ddim aelodau yng Nghaernarfon - ond mae dau yn Llanberis, un ym Mhenygroes ac un yn y Felinheli.

Mae yna fwy o aelodau ym Mangor, Swydd Down (7) nag ym Mangor, Gwynedd (4).

Mae yna 6 aelod yn Sir Feirionydd a 4 yn Nwyfor - tri ohonynt yn perthyn i'r un teulu.

Mae 32 yng Nghaerdydd - un ohonynt yn gymydog i fy mam yng nghyfraith.

Mae dwy waith cymaint yn ardal Abertawe nag yng Nghaerdydd.

Mae yna 43 yn Wrecsam.

Mae 44 yn sir Conwy.

Mae 27 yn Ninbych.

Mae 4 o aelodau'r BNP yn Ynys Mon o dan y cam argraff eu bod yn byw yng Ngwynedd.

'Dwi ddim yn adnabod cymaint ag un ohonynt.

4 comments:

Huw said...

'White settlers' di rhai Conwy. Siwr o fod wedi symud yma i osgoi'r bobol maent yn eu casau yn y dinasoedd mawrion.

Mae un aelod 162 llath a un arall 420 llath o fy nhÅ·. Hmmm...

Anonymous said...

Mae yna un ohonyn nhw yn byw cwta 50 llath i ffwrdd o fy nhy! A hynny yn un o bentrefi Cymreiciaf Arfon! Mi fysa'n well gen i gael pedoffeil yn gymydog.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dau ohonynt yma yn 'Stiniog hefyd.

Cer i Grafu said...

Rhys Ddiog said...
Mae yna un ohonyn nhw yn byw cwta 50 llath i ffwrdd o fy nhy! A hynny yn un o bentrefi Cymreiciaf Arfon! Mi fysa'n well gen i gael pedoffeil yn gymydog.

Pwch wilia dwli, nei di!
Rwyt ddiog dy enw a diog dy feddwl.