Thursday, November 20, 2008

Llafur a PR

Newydd weld hwn ar flog Saesneg Hen Rech Flin.

Mae'n ddiddorol, ond mae'n cam gynrychioli pethau. Gan nad ydw i wedi darllen erthygl Rhodri Morgan, 'dwi ddim yn siwr os mai Rhodri ta Alwyn sydd wedi drysu. Efallai bod y ddau yn y niwl.

Yr hyn mae Alwyn yn ei ddweud ydi y byddai Rhodri yn hoffi'r syniad o ddull PR o bleidleisio yng Ngorllewin Cymru, tra'n cadw'r drefn bresenol yn y Cymoedd oherwydd y byddai hynny o fudd i Lafur. Mae'r ddadl yma wedi ei seilio ar gam ddealltwriaeth o'r ffordd y byddai PR yn debygol o weithio.

Pe byddai PR yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru mae'n debyg mai'r dull a ddefnyddir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fyddai - STV etholaethau aml sedd.

'Rwan byddai rhaid gweithredu fersiwn anarferol iawn STV iddo fod o gymorth i Lafur mewn etholiadau lleol yn y Gorllewin - mae eu cefnogaeth yn rhy isel i sicrhau seddi o dan y drefn arferol.

Heb fynd yn or dechnegol, mewn etholaeth gyda phedair sedd byddai'n rhaid i ymgeisydd ddod o hyd i 20% o'r bleidlais erbyn diwedd y broses cyn ennill sedd. Petai'n etholaeth tair sedd byddai'n rhaid wrth 25% o'r cyfanswm. Petai'n un 5 sedd byddai'n rhaid dod o hyd i tua 16.5% o'r bleidlais. Ar lefel leol nid oes gan Llafur y math yma o gefnogaeth yn y Gorllewin gwledig (mae'n stori ychydig yn gwahanol ar lefel seneddol a Chynulliad).

I roi'r sefyllfa yn ei chyd destun ni allai Llafur fod yn hyderus o ennill unrhyw sedd y tu allan i Fangor yng Ngwynedd. Ar Ynys Mon dim ond yng Nghaergybi y gellid bod ag unrhyw sicrwydd. Ni fyddent yn debygol o ennill unrhyw seddi yng Ngheredigion, a dim ond yn ardaloedd Doc Penfro ac Aberdaugleddau y gallent sicrhau unrhyw beth ym Mhenfro. Hwyrach y gellid ennill sedd neu ddwy yn ardal Ystradgynlais yn Ne Powys.

Ar y llaw arall byddai mantais i Lafur mewn rhai lleoedd yng Nghymru. Er enghraifft mae'r dref bresenol (FPTP) yn garedig gyda Llafur mewn etholiadau seneddol a Chynulliad yn ninasoedd y De, ond mae'n angharedig wrthynt mewn etholiadau lleol. Heb fod a'r ffigyrau wrth law, 'dwi'n weddol sicr bod pleidlais Llafur a'r Lib Dems yn debyg yng Nghaerdydd, ond cafodd y Lib Dems fwy o seddi o lawer.

Gallai PR fod o gymorth i Lafur - ond nid yn yr ardaloedd mae Alwyn a / neu Rhodri yn meddwl.

4 comments:

Penderyn said...

Dau beth ... syniad Rhodri yw i gynnal refferendymau lleol yn unig ac felly mae'n bosib y gellid cyflwyno PR yng Nghaerfyrddin dyweder, ond ddim yn y Rhondda! Yn ail dwi ddim yn derbyn na fyddai LLafur yn ennill seddi yng Ngheredigion, mae Hag Harris wedi cynnal y faner Lafur am gryn amser ar y cyngor lleol, ac yn sicr gellir dychmygu sawl ardal trefol lle byddai Llafur efallai yn gallu cipio 15-20% o'r bleidlais (gyda'r ymgeisydd iawn).

menaiblog said...

Mae Hag yn cael ei ethol i Gyngor Ceredigion try'r dull FPTP wrth gwrs.

O dan STV byddai'n rhaid iddo ddenu cefnogaeth o'r tu allan i Lanbedr Pont Steffan - a byddai'r rhain yn ardaloedd gwledig iawn. Byddai'r wardiau yn fwy o lawer.

'Dwi ddim yn dadlau nad ydi hi'n bosibl i Lafur ennill yng Ngheredigion o dan STV - dadlau ydw i nad yw'n bosibl gwarantu sedd trwy ddefnyddio'r dull.

Does yna ddim llawer o dystiolaeth bod cefnogaeth sylweddol o gefnogaeth i Lafur bellach yn yr un o drefi Ceredigion - ond fel ti'n dweud gallai ymgeisydd da sicrhau'r 14.5% tros y dre y byddai ei angen i ennill sedd yno (petai'n etholaeth 6 sedd). Ond gallai ymgeisydd da gael y 40% mewn ardal llawer llai y byddai ei angen i ennill sedd o dan FPTP.

Fy nadl ydi na fyddai STV yn sicrhau seddi i Lafur yn y Gorllewin gwledig.

Alwyn ap Huw said...

Diolch am yr ymateb Cai. Hwyrach fy mod wedi troelli ychydig ond yn sicr nid ydwyf wedi fy nrysu.

Yr hyn dywedodd Mr Morgan oedd ei fod yn annhebygol i'r Blaid Lafur cael troedle o ddylanwad eto yn y Gorllewin heb gynrychiolaeth gyfrannol ar y cyngor sir. Mae'n siŵr mae codi ymyl pais i geisio denu'r Rhyddfrydwyr - a rhybuddio'r Blaid ydoedd trwy wneud ei sylw.

Yr hyn a arweiniodd at fy narllen rhwng y llinellau oedd bod Rhodri yn cynnig PG ar sail refferenda lleol ym mhob cyngor unigol, yn hytrach na thrwy fesur ar gyfer Gymru gyfan. Gan fod Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn credu mewn PG fel mater o egwyddor, mi fyddai hynny yn debyg o arwain at PG yng Ngwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Yr ardaloedd lle mae Rhodri am gael troedle i Lafur eto. Mae'n annhebygol byddid refferendwm, heb son am un llwyddiannus, yn llefydd megis RhCT a Glyn Nedd gan na fyddid cefnogaeth i BG yn y fath ardaloedd gan y Blaid Lafur. Gan hynny rwy'n credu bod fy asesiad bod Rhodri o blaid PG lle fyddai'n fanteisiol i'w blaid ac yn gwrthwynebu fel arall yn un sownd a di ddryswch.

Dwi ddim yn derbyn dy sylw mae STV byddai'r system pleidleisio gyfrannol, o anghenraid. Mae'r Blaid Lafur yn ffafrio'r system aelodau ychwanegol. Mae 'na ddadleuon "call" dros ddefnyddio system etholiadau'r Bae a Brwsel ar gyfer y cynghorau hefyd. Bydda'r annibynwyr bondigrybwyll yn ffafrio'r un system, ac efo cyn lleied o aelodau i gynnig i glymblaid yn y Bae hawdd bydd perswadio'r Rhyddfrydwyr bod PG gwael yn well na dim PG.

Yn y rhan fwyaf o wardiau prin iawn yw cystadlaethau rhwng y 4 Plaid fawr. Mae nifer o gynghorwyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad, heb gyfle i etholwr bwrw pleidlais. Y dewis imi fis Mai oedd Annibynnol neu Geidwadol - doedd Plaid Cymru, Llafur na'r Rhyddfrydwyr ddim ar y ddewislen. Ond os oedd pleidlais rhestr, ychwanegol ar gael, byddai modd pleidleisio mewn wardiau diwrthwynebiad a dewis o'r holl bleidiau ar gael yn fy ward innau.

O dan y fath drefn rwyf yn sicr bod modd i Lafur cael rhagor nag un cynghorydd yng Ngheredigion, a chael y troedle yn yr etholaeth y mae'n dymuno, er geisio rhoi'r troed dros yr aelwyd unwaith eto mewn etholiadau seneddol a chynulliadol y dyfodol.

menaiblog said...

Alwyn - dwi'n derbyn llawer o hyn - byddai dull rhestr yn arwain at aelodau Llafur - ond 'dwi'n onest ddim yn credu bod dull o'r fath yn addas ar gyfer llywodraeth leol - byddai'n chwalu'r cysylltiad rhwng cynghorydd ac ardal benodol.

Ni fyddai gan ddull o'r fath obaith o fynd heibio refferendwm - mae etholwyr eisiau rhywun i redeg negeseuon ar eu rhan.