Wednesday, November 12, 2008

Cywilydd i gael eich galw'n Brydeiniwr?

'Dwi'n gweld o flog Ordivicus bod rhywbeth o'r enw Gerald Warner sy'n 'sgwennu i'r Telegraph wedi pechu'n lan oherwydd bod Cyngor Caerffili yn awgrymu i'w gweithwyr beidio a defnyddio'r term British rhag pechu pobl. Ymddengys bod y South Wales Echo, David Davies a rhai o'r papurau Seisnig wedi cael eu hunain mewn tipyn o stad hefyd.

Yn bersonol 'dwi'n meddwl bod y cyngor yn ddigon call. Petawn i yn cael fy ngalw yn Brydeinig, mi fyddwn i wedi fy mhechu. Wedi'r cwbl mae'r wladwriaeth Brydeinig a'r un Seisnig a'i rhagflaenodd wedi ymosod ar ei holl gymdogion yn rheolaidd ac wedi creu ymerodraeth a fu'n gyfrifol - mae'n debyg - am fwy o farwolaethau na'r un endid gwleidyddol arall erioed.

Rhagflaenwyr gwleidyddol David Davies a Gerald Warner yn y wasg geidwadol ac yn Nhy'r Cyffredin oedd yn bennaf gyfrifol am y tywallt gwaed mawreddog yma.

5 comments:

Anonymous said...

http://partiparry.blogspot.com/

galla to rhoi fi ar eich rhestr o blogs sgwelwch yn dda

Cai Larsen said...

Croeso

Anonymous said...

diolch

Hogyn o Rachub said...

Cytuno'n llwyr, byddwn i hefyd yn ystyried cael fy ngalw yn Brydeiniwr yn sarhaus, ac wedi dweud hynny i sawl un yn y gorffennol.

Dyfrig said...

Er mod i'n genedlaetholwr i'r carn, ac yn dymuno gweld Cymru annibynnol, dwi hefyd yn ystyried fy hun yn Brydeiniwr - yn ogystal ac Ewropeaid, yn ddyn gwyn, ac yn aelod o'r ddynol ryw. Mae hunaniaeth i mi yn rhywbeth aml-haenog, ac mae Prydeindod yn un o'r haenau sydd yn fy ngwneud i yn fi fy hun. Wedi dweud hynny, mae gen i bob cyd-ymdeimlad ac unrhyw un sydd yn dymuno ymwrthod a'i Prydeindod, ac yn gweld sylwaday Cyngor Caerffili fel rhai cwbl synhwyrol a chymhedrol.