Monday, August 25, 2008

Pam na all Dave Rees ofyn pam?

Fel y gwyddoch ‘dwi newydd fod ar fy ngwyliau, ond y peth cyntaf ddaeth i fy sylw oedd yr erthygl yma diolch i flog hynod gynhwysfawr Ordivicius sy’n cael ei gynnal gan fy nghyfaill Sanddef.

Mae’r erthygl gan David Rees, sydd yn ol pob golwg yn gynghorydd ar Gyngor Caerffili, yn rybydd o’r erchyllderau sydd yn ein haros petai Cymru byth yn ennill ein rhyddid.

Byddai’n hawdd gwneud hwyl am ben rhannau o ‘ddadansoddiad’ Dave. Er enghraifft mae’n ceisio gwadu bod Iwerddon yn gyfoethog – mae ganddi dan wariant cyllidol o 2.6% o’i gymharu a gor wariant o 2.4% gan Brydain (ffigyrau 2007). Mae’r ffigwr sy’n greiddiol i’w ddamcaniaeth – bod Cymru yn gwario £5.2m mwy na mae’n ei gynhyrchu yn (a bod yn garedig) yn amheus.

Mae’n ddigon parod i son am swyddi cyhoeddus (DVLC ac ati) mae’n meddwl y byddai’n gadael y wlad, ond nid yw’n trafferthu nodi y byddai’n rhaid creu rhai eraill mewn meysydd eraill y byddai’n rhaid eu creu (prosesu budd daliadau ac ati). Ond wedyn dyna fo, mae gor ddweud eithafol yn rhan o ddiwylliant ei blaid, ac mae ceisio dychryn pobl allan o’u crwyn yn greiddiol i ymgyrchoedd yr elfennau hynny sydd wedi gwrthwynebu i bobl Cymru gael rheolaeth tros eu bywydau eu hunain yn y gorffennol.

Serch hynny mae’n rhaid cydnabod bod ganddo bwynt. Mae fformiwla Barnett yn sicrhau mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru na sydd ar gael yn Lloegr – gwariant nad yw Cymru’n talu amdano. Mae’r blog hwn yn trafod y broblem yma o safbwynt ennill annibyniaeth i Gymru ac yn cynnig ateb posibl i’r broblem honno.

Ta waeth, yn ol at Dave. Mae rhesymu Dave yn weddol nodweddiadol o resymu unoliaethwyr Cymreig. Mae’n ei chael yn hawdd i gynhyrchu naratif o ddioddefaint, angau a thrallod ar raddfa Beiblaidd fyddai yn ein haros petaem yn annibynnol fel gwledydd eraill, ond nid yw’n cymryd y cam naturiol nesaf a holi pam bod Cymru mor dlawd fel ei bod angen cyfraniadau ychwanegol o’r trysorlys.

Hwyrach bod Dave yn meddwl bod Cymru’n dlawd am ei bod yn fach, ond byddai’n gwbl anghywir i gredu hynny – fel y gwelir yma. Os oes perthynas rhwng maint gwlad a’i chyfoeth, yna gwledydd bach ac nid rhai mawr sy’n tueddu i fod yn gyfoethog.

Efallai ei fod o dan yr argraff nad oes gan Gymru ddigon o adnoddau naturiol i fod yn gyfoethog – ond hynod wan ydi’r berthynas yma hefyd. ‘Does gan Singapore na Hong Kong ddim adnoddau, ond maent yn hynod gyfoethog tra bod Zaire neu Mozambique efo digon, ond maent yn dlawd fel y llygod eglwys diarhebol.

Pwy a wyr – efallai mai seicolegol ydi’r broblem – wedi’r cyfan mae hunan gasineb yn ffrwd greiddiol i’r traddodiad rhyfedd sydd gennym yng Nghymru sy’n gwrthwynebu unrhyw ymreolaeth i bobl Cymru tros fywyd cenedlaethol eu gwlad eu hunain. Efallai ei fod yn meddwl ein bod yn rhy feddw, yn rhy ddwl, yn rhy anwadal neu’n rhy ddi glem i greu unrhyw gyfoeth. Neu efallai ei fod yn meddwl ein bod yn traelio ein hamser i gyd yn cnychu fel geifr ar lethrau’r mynyddoedd _ _ _ , ahem, efallai mai gwell fyddai rhoi’r gorau i ddilyn y trywydd arbennig yma – mangre ryfedd iawn ydi tirwedd mewnol yr unoliaethwr Cymreig.

Posibilrwydd arall ydi nad ydi Dave wedi ystyried y mater rhyw lawer a’i fod yn rhyw led feddwl bod tlodi cymharol Cymru yn rhan o drefn naturiol y Bydysawd – rheol cyson di ildio fel ffiseg Newtonaidd – mater wedi ei benderfynu gan Dduw ar ddiwrnod cyntaf y Cread – rhywbeth cyffelyb i lanw a thrai neu fachlyd a chodiad yr haul.

A’r gwir ydi mae’n debyg nad yw’r rhan fwyaf o unoliaethwyr Cymru wedi meddwl llawer am y mater, oherwydd bod meddwl gormod – neu ychydig – am y math yma o beth yn arwain at un casgliad ac un casgliad yn unig, sef bod tlodi cymharol Cymru yn ganlyniad i’r drefniant cyfansoddiadol mae’n rhan ohoni. Mae gan Cymru rhai anfanteision economaidd, yn union fel llawer o wledydd eraill. Ond yn gwahanol i’r gwledydd hynny ni all fynd i’r afael a’i phroblemau oherwydd na all addasu polisiau ariannol a threthiannol. Nid oes ganddi reolaeth tros y rheiny.

I roi’r peth mewn ffordd ychydig yn gwahanol, os ydym yn derbyn bod endid daearyddol yn wlad, yna mae’n dilyn y dylai gael rheolaeth tros ei bywyd cenedlaethol ei hun – yn arbennig felly ei chyfundrefn economaidd ei hun. Y ffordd briodol i wlad gael ei rheoli ydi gan ei phobl ei hun, ac nid gan bobl eraill. Os ydyw’n cael ei rheoli gan bobl eraill yna nid oes ganddi’r awdurdod na’r hyblygrwydd i fynd i’r afael a’i phroblemau ei hun. Y diffyg rheolaeth democrataidd hwn sydd wrth wraidd tlodi cymharol ond parhaol Cymru.

Ond ni all Dave ofyn y cwestiwn Pam? - pam bod Cymru’n barhaol dlawd? Mae gofyn y cwestiwn yna yn arwain at un casgliad a chasgliad hynod o anymunol ar hynny – bod yr amser wedi dod i Dave ollwng llaw dew Mami ac edrych os ydi’n gallu gwneud rhywbeth ohoni ar ei ben ei hun.

Mae hyd yn oed breuddwydio am olchi ei drons ei hun, gwneud ei frecwast yn y bore mynd i'w wely heb gael ei swatio gan Mami heb son am ffurfio perthynas neu ddau nad ydi Mami’n gwybod pob dim amdanynt yn ddigon a gwneud i unoliaethwr Cymreig fel Dave ddeffro yn y bore i ganfod bod ei wely yn wlyb socian ac yn drewi i’r uchel nefoedd.

4 comments:

Anonymous said...

mae'r seicoleg dwfn yma i'w weld ar ei mwyaf amlwg ac onest gyda Mrs Davies, Burry Port:
http://british-nats-watch.blogspot.com/2007/03/rhodri-morgans-letter-in-western-mail.html

Rhys Wynne said...

Current UK national debt is approximately £500bn. This would mean on day one of Plaid Cymru’s independent Wales, they would have to finance approximately £25bn of debt.

Now I’m not a pessimist by nature, but I can foresee that were this to happen, Plaid Cymru would be going to the International Monetary Fund with the begging bowl on day two of independence.


Bydd ond yn deg ein bod ni'n ysgwyddo rhywfaint o'r ddyled, ond siawns ei bod yr un mor gostus i cyfrannu tuag at ad-dalu'r £500 biliwn ag y byddai i ad-dalu £25 biliwn. Hefyd, dychmyga i bod y ffigwr yma o £500 biliwn yma'n cynyddu'n sylweddol pob blwyddyn - sgwn i beth sy'n costio mor ddrud dudwch?

£20 biliwn yw'r amcangyfrif diwethaf ar gyfer rhyfeloedd Irac ac Affganistan, digwydd bod. Agos iawn i gyfran Cymru o'r ddyled 'genedlaethol'. Iesu, ni'n gwneud mor dda bod yn rhan o'r DG.

Dyfrig said...

Er mod i'n cefnogi annibynniaeth, dwi hefyd yn cyd-weld a safbwynt Dave Rees. Petai Cymru yn cael ei rhyddid yfory, fe fyddai pethau'n ddu iawn arnom ni. Mae'r sector gyhoeddus yn chwarae rhan flaenllaw yn economi Cymru, ac mae'r sector honno yn derbyn cymorth ariannol gan Loegr.
Wrth gwrs, dyw Cymru ddim am enill ei hanibynniaeth fory, ond - fel rhywun 31 oed - dwi'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y galla i edrych ymlaen ato yn ystod fy nghyfnod byr i ar y ddaear. Ond mae'n rhaid gwneud gwaith paratoi. Tra bo ein economi ni mor ddibynnol ar wariant cyhoeddus, fe fydd dadl Dave Rees yn dal dwr. Os ydym ni genedlaetholwyr o ddifri ynglyn ac annibynniaeth, mae'n rhaid i ni dderbyn beth yw goblygiadau hynny - rhaid treulio'r degawdau nesaf yn torri yn ol ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn hybu economi hunan-gynhaliol.

Cai Larsen said...

Dyfrig

Mae'r blog hwn wedi dadlau sawl gwaith na all Cymru ennill ei rhyddid nes iddi ddatblygu'r gyfundrefn ddatganoli presenol i'r graddau bod gan y Cynulliad reolaeth tros drethiant a'r economi yn gyffredinol. Gellid wedyn greu polisiau sydd yn cynyddu cyfoeth ac yn lleihau dibyniaeth ar y wladwriaeth Brydeinig ar yr un pryd.

Fel ti'n awgrymu mae'r sefyllfa bresenol o wariant cyhoeddus cymharol uchel yn milwrio yn erbyn annibyniaeth. Mae'n creu dibyniaeth real a seicolegol (gweler llythyr Miss Davies), mae'n rhoi dadl gref i bobl fel Dave ac ar ben hynny mae'n diwylliant gwleidyddol anaeddfed - diwylliant sy'n un o gonglfeini hegonomi traddodiadol Llafur yng Nghymru.