Friday, August 29, 2008

Biodanwydd - dim diolch

Digwydd dod ar draws gwefan Porche heddiw

Rwan 'dwi'n gwybod bod Porche efo agenda eu hunain - ond 'dydi Porche ddim yn debygol o 'sgwennu celwydd ar eu gwefan - yn gwahanol i gwmniau sigarets yn y 60au - nid bod ganddynt wefannau wrth gwrs.

Yn ol y wefan 'dydi gyrru ceir ddim yn creu llawer iawn o CO2. 'Dwi'n siwr na fydd llawer o bobl eisiau mynd trwy'r holl beth, felly dyma amlinelliad o'u honiadau:

Tua 3.5% o'r CO2 sy'n cael ei arllwys i'r awyrgylch sydd yn ganlyniad i weithgaredd dynol. O'r 3.5%, diwidiant sy'n gyfrifol am 26%, gorsafoedd pwer sy'n gyfrifol am 25%, aneddau 23%, trafnidiaeth awyr a morwrol 14% loris 14% a cheir 12%. Hynny yw mae ceir yn cyfrannu 12% o 3.6%, neu llai na 0.5% o arllwysiad CO2 Byd eang.

Ymddengys ei bod yn bwysig ein bod yn prynu ceir sy'n cael eu gyrru gan fiodanwydd.

Mantais y math yma o danwydd ydi eu bod wedi sicrhau bod CO2 yn cael eu dynnu o'r awyrcylch wrth dyfu, felly dydi o fawr o ots ei fod yn cynhyrchu CO2 wrth gael ei losgi. Digon teg. Ond - a dyma'r ond - mae biodanwydd yn arwain at ddwyn bwyd o gegau pobl dlawd yn y trydydd byd, difa fforestydd glaw, gwthio pris bwyd i fyny - a gwneud hynny heb leihau lefelau CO2 fawr ddim.

Felly os ydi pob dim yn iawn efo pawb arall mi fydda i yn parhau i fynd o gwmpas yn y Mondeo disl ar hyn o bryd - a gwneud hynny heb gael fy nghydwybod yn fy mrifo.

No comments: