Saturday, August 09, 2008

Llafur - dim presenoldeb yn yr Eisteddfod

Wedi bod i’r Eisteddfod ddoe, a trampio o gwmpas fel mae dyn yn ei wneud. Diddorol oedd nodi bod tair o’r pedair brif Blaid yng Nghymru gyda stondinau, ac mai’r un a fethodd y tro hwn oedd y Blaid Lafur. Hyd y gwelaf ‘does ganddyn nhw ddim presenoldeb o unrhyw fath yn Eisteddfod y Brifddinas.

Mae hyn yn rhyfedd ar sawl cyfri, cawsom glywed mwy nag arfer am ymroddiad Cymdeithas Cledwyn i’r Gymraeg eleni, a chafwyd adroddiad hir a diwerth fel rhyw gofgolofn geiriol i nodi bodolaeth cymdeithas gwbl ddiwerth. Eto doedd yna ddim tystiolaeth o fodolaeth y gymdeithas honno ym mhrif ffocws blynyddol y Gymru Gymraeg.

Mae’n rhyfedd hefyd oherwydd bod pob math o feicro fudiadau a chymdeithasau yn ymddangos yn flynyddol gyda’u stondinau – Cymry Llundain, Ambiwlans Cymru, Emmaus De Cymru, Scope Cymru ac ati ac ati. Y Blaid Lafur ydi plaid fwyaf Cymru o ran cefnogaeth, aelodau (mae honna ychydig yn ddadleuol erbyn heddiw), cynghorwyr, cefnogaeth, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol. Mae ganddynt hefyd fynediad di ddiwedd i arian gan unigolion hynod gyfoethog ac undebau Llafur fel mae’r symiau rhyfeddol o arian y byddant yn eu gwario ar etholiadau yng Nghymru yn dangos.

Rwan ‘dwi ddim yn cymryd arnaf bod sicrhau presenoldeb ar faes y ‘Steddfod yn ffordd wych o ennill pleidleisiau mewn etholiadau tros y blynyddoedd dilynol, ond mae diffyg presenoldeb yn arwydd o ddiffyg trefn neu ddiffyg ymroddiad i gyfathrebu gyda’r etholwyr – ac mae yna resymau penodol pam y dylai Llafur geisio bod mor weledol a phosibl yn yr wyl arbennig yma. Rhestraf nhw isod:

• Caerdydd ydi’r brif ddinas – mae yna ffocws ychwanegol ar eisteddfod yn y Brif Ddinas.

• Mae’r Blaid Lafur o dan bwysau sylweddol yn y brifddinas. Maent yn dal tair o’r bedair sedd ar hyn o bryd , ond mae eu cynrychiolaeth ar gyngor y ddinas wedi cwympo’n rhyfeddol tros y ddwy etholiad diwethaf. Roedd llawer iawn, iawn o bobl o Gaerdydd ar y maes eleni.
• Bydd sedd Julie Morgan yng Ngogledd Caerdydd yn sicr o gael ei cholli yn yr etholiad cyffredinol nesaf i’r Toriaid. Mae eu dwy sedd arall hefyd o dan fygythiad – yn arbennig Gorllewin Caerdydd lle mae Plaid Cymru yn bwyta i mewn i’w cefnogaeth dosbarth gweithiol a’r Blaid Geidwadol yn gwneud yr un peth i’r gefnogaeth ddosbarth canol. Mae lle i gredu nad ydi’r Cymry Cymraeg mor driw i Blaid Cymru yma ag ydyw mewn rhannau eraill o Gymru. Perfformiodd y Blaid yn gryfach o lawer yn ardaloedd llai Cymreig yr etholaeth yn yr etholiadau lleol, a Chymry Cymraeg ydi aelodau Cynulliad a Seneddol Llafur. ‘Dydi hi ddim yn anodd gweld y Toriaid yn ennill y sedd San Steffan oherwydd i’r Blaid gymryd sleisen sylweddol o’r bleidlais Llafur, ac i'r Blaid hithau wedyn fod mewn safle cryf i ennill yr etholiad Cynulliad. Bydd mwyafrif llethol Cymry Cymraeg yr etholaeth wedi bod yn yr wyl.

Mater cymharol fach efallai ond mae’n arwydd o ddiffyg ynni ac ymroddiad plaid sydd mewn trafferthion gwirioneddol yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn poeni petai fy mhlaid i methu trefnu rhyw fath o bresenoldeb yn yr Eisteddfod tra bod Cymru Cuba / Ymgyrch Gefnogi Niceragua Cymru gyda phresenoldeb teilwng.

1 comment:

Anonymous said...

Mae rhaid i arweinyddion y Blaid Lafur dewis eu blaenoriaethau yn gwell.