Sunday, January 06, 2019

Brexit - beth fydd yn digwydd tros y misoedd nesaf

Tri phosibilrwydd sydd yna mewn gwirionedd:


- Mae Prydain yn gadael yr UE ar delerau cytundeb May

- Prydain yn gadael heb unrhyw fargen

- Prydain yn aros yn yr UE.


Mae’n annhebygol y bydd Ty’r Cyffredin yn derbyn cytundeb May.  Ymddengys bod tros 400 AS am bleidleisio yn erbyn y cytundeb cyn y Nadolig.  Does yna ddim llawer wedi newid ers hynny.  Yr unig beth allai newid pethau ydi bod Llafur yn newid eu safbwynt - a gan mai’r hyn mae nhw eisiau fwy na dim arall ydi Etholiad Cyffredinol mae hynny’n anhebygol iawn.  


Mae hynny’n ein gadael ni efo dau bosibilrwydd - aros neu adael heb gytundeb.  Mae’r llwybr tuag at aros yn gymhleth.


Er mwyn aros yn yr UE, rhaid i Brydain roi gwybod i'r UE ei bod yn tynnu ei hysbysiad Erthygl 50 yn ôl cyn y 29ain o Fawrth.  Golyga hyn mewn gwirionedd y byddai’n rhaid cael mandad newydd gan etholwyr y DU - naill ai trwy refferendwm newydd neu trwy etholiad cyffredinol.  Mae’n anodd iawn gweld y gallai May alw Erthygl 50 yn ol heb etholiad na refferendwm - byddai hynny’n wirioneddol niweidiol i’r Blaid Geidwadol - a byddai yn ol pob tebyg yn ei hollti.  Mae anghenion mewnol y Blaid Doriaidd wedi cael blaenoriaeth trwy’r holl hanes Brexit - a does yna ddim lle i feddwl y bydd hynny’n newid yn y dyfodol agos - na phell.


Cyn cael ail refferendwm byddai’n rhaid wrth ymgynghoriad cyhoeddus ynglyn a natur y cwestiynau a byddai rhaid fframio’r trefniadau mewn Mesur Refferendwm.  Byddai’n  rhaid i'r Senedd ei basio a byddai’n rhaid  darparu o leiaf ddau fis ar gyfer dadl gyhoeddus cyn y pleidleisio. 


Ag ystyried yr amrediad barn ynglŷn â'r materion hyn a gwrthwynebiad y brif wrthblaid a llawer oddi mewn i’r blaid lywodraethol nid yw’n debydol y gellid cynnal ail refferendwm cyn hydref nesaf ar y cynharaf.  Byddai’n rhaid i’r DU wneud cais i’r UE am estyniad i Erthygl 50 - ac estyniad cymharol faith ar hynny.  


Byddai hyn ymhell o fod yn ddelfrydol i’r UE oherwydd bod etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop yn cael eu cynnal rhwng 26 a 29 Mai eleni.  Pe byddai’r DU yn yr UE o hyd bryd hynny mae’n debyg y byddai’n rhaid i’r DU fynd trwy’r broses etholiadol hefyd.  Dydi hyn ddim yn ddelfrydol o ran yr UE gan fod newidiadau eisoes wedi digwydd yn y niferoedd o aelodau sy’n cael eu darparu i wledydd yr UE yn sgil penderfyniad y DU i ymadael.  Byddai’n rhaid newid hynny ac ethol ASEau o’r DU heb wybod os byddai’r DU yn rhan o’r UE am fwy nag ychydig fisoedd wedyn.


 Problem arall ydi y bydd rhaid i Senedd yr Undeb Ewropiaidd ethol Llywydd nesaf y Comisiwn cyn dechrau mis Gorffennaf, nid yw’n debygol y byddai’r UE yn caniatau ymestyn cyfnod Erthygl 50 y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw. 


O ganlyniad, byddai Prydain yn ol pob tebyg wedi gadael yr UE cyn y gallai ail refferendwm ddigwydd - a byddai ceisio dod yn ol ar ol gadael yn creu llawer o gymhlethdodau ynddo’i hun.  Ar ben hynny mae’n debyg y byddai ymadawiad o dan yr amgylchiadau yma yn un anhrefnus a heb sail cyfreithiol iddo - a byddai’r refferendwm yn cael ei gynnal mewn amgylchiadau argyfyngus.  Byddai galw refferendwm arall hefyd yn hollti’r Blaid Doriaidd.


Gallai etholiad cyffredinol ddigwydd yn llawer cynt a mwy di drafferth a gallai Senedd newydd gyda mandad i wrthdroi Brexit trwy alw’r  datganiad Erthygl 50 yn ol yn fuan wedi’r etholiad - ond byddai'n rhaid galw’r etholiad erbyn y 1af o Chwefror ar yr hwyraf  i ganiatau galw Erthygl 50 yn ol cyn 29ain o Fawrth. 


Gallai'r UE gytuno i ymestyn Erthygl 50 am tua dau fis arall i ganiatáu mwy o amser ar gyfer yr etholiad os byddai angen hynny.  Gellid galw Erthygl 50 yn ol yn fuan wedi etholiad - ond mae’n anodd gweld y gellid ei alw yn ol heb i’r blaid fuddugol - y Toriaid neu Lafur - fod wedi mynd i’r etholiad ar y ddealltwriaeth eu bod am wneud hynny.  Mae’n anodd gweld y byddai hynny’n bosibl i’r Toriaid ond mae’n bosibl i Lafur - er bod yna’r cymhlethdod bach bod arweinyddiaeth (ond nid aelodaeth)  y blaid honno eisiau Brexit.


Mae etholiad cyffredinol yn bosibl mewn amgylchiadau eraill hefyd - byddai gadael yr UE heb sail gyfreithiol i wneud hynny ac heb gyfnod trosiannol yn debygol o arwain at argyfwng gwleidyddol fyddai’n cyd redeg efo’r argyfwng economaidd.  Gallai hyn yn hawdd esgor ar etholiad cyffredinol.  Dydi hi ddim tu hwnt i bosibilrwydd chwaith y byddai’n well gan May wynebu etholiad cyffredinol na symud i ymadawiad caled a gorfod perchnogi hynny.  Byddai yna bethau gwaeth o safbwynt y Blaid Doriaidd na chyfnod fel gwrthblaid yn edrych ar Lafur yn ceisio gwneud rhywbeth efo’r llanast.


Mae etholiad cyffredinol felly yn llawer mwy tebygol na refferendwm.  


Ond gan nad yw'r Torïaid na’r Blaid Lafur yn ddigon unedig i ymrwymo i wyrdroi’r broses Brexit y perygl - yn wir y tebygrwydd ydi - y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb oherwydd nad ydi hi’n bosibl cytuno i wneud unrhyw beth arall.  Lleiafrif gweddol fach sydd eisiau Brexit caled - ond lleiafrif sydd eisiau unrhyw beth yn y cyswllt yma.  


Mae etholiad cyffredinol eleni yn debygol iawn - ac mae gadael yr UE heb gytundeb yn fwy tebygol na pheidio.

3 comments:

Anonymous said...

Beth fuasai neges Plaid Cymru i'r miloedd yn y cymoedd sy'n wrth-Ewropeaidd, ac sy'n amlwg yn debyg o barhau felly ?

Cai Larsen said...

Bod angen ail refferendwm oherwydd ei bod bellach yn amlwg y byddai gadael yr UE yn cael effaith negyddol ar eu safon byw.

Unknown said...

Petai annibyniaeth i Gymru yn golygu cwymp yn fy safon byw, buaswn o'i blaid. Dyna un o'r rhesymau yr oedd yn anesmwyth hefo rhai agweddau o arweinyddiaeth Leanne Wood, gan ei bod yn dweud fod angen i'r economi gyrraedd rhyw safon gyntaf.
Yn yr un modd, gan fod cyflwr economaidd gymaint o Dde Cymru yn dalcen mor galed, mae amheuaeth gennyf os y buasai pobl yn ystyried fod cwymp yn ei safon byw yn bosib/arwyddocaol.