Sunday, October 12, 2014

UKIP 2


Mae gan Glyn Erasmus bwynt yn yr erthygl isod a ymddangosodd ar ei gyfri trydar @Erasmo y bore 'ma (cliciwch ar y ddelwedd i'w chwyddo). Mae'r syniad bod gwleidyddiaeth cadarnhaol yn fwy llwyddiannus na gwleidyddiaeth negyddol wedi gwreiddio yn ddiweddar - ond mae UKIP yn brawf y gall gwleidydda negyddol weithio yn well na gwleidydda cadarnhaol o dan rhai amgylchiadau.



Ond dwi'n meddwl bod yna fwy i dwf UKIP na chyfuniad o wleidydda negyddol a sylw di ben draw gan y cyfryngau.  

Roeddwn yn arfer meddwl mai rhywbeth tros dro oedd UKIP - cynnyrch y Glymblaid Tori / Lib Dem.  Mae'r Glymblaid wedi llusgo'r Toriaid i'r Chwith gan adael lle ar y Dde i UKIP tra'n cymryd lle'r Lib Dems fel bwced pleidleisiau protest.  Mi fyddai  diwedd y Glymblaid wrth gwrs yn dod a'r amgylchiadau hynny i ben, a byddai cefnogaeth UKIP yn cilio yn sgil hynny.

Erbyn hyn dwi ddim mor siwr bod hyn am ddigwydd.  Mae'n bosibl bod rhywbeth mwy sylfaenol wedi digwydd a bod cyfuniad o newidiadau cymdeithasol yn y DU, cwymp cyson yn safonau byw carfanau sylweddol, anghyfartaledd economaidd y DU  a siniciaeth cyffredinol tuag at y system wleidyddol wedi sigo'r hen gyfundrefn etholiadol.

O safbwynt cenedlaetholwr Cymreig gall edrych ar y twf yng nghefnogaeth UKIP fod yn brofiad digon anghyfforddus.  Ond mae yna ffordd arall o edrych ar bethau.  Mae'r grymoedd sydd wedi arwain at dwf UKIP hefyd wedi arwain at dwf yr SNP yn yr Alban, a fel y gwelwyd yn y blogiad diwethaf, twf cenedlaetholwyr a'r Chwith yn Iwerddon.  

Mae yna bethau sy'n gyffredin rhwng UKIP a'r SNP - er bod eu gwleidyddiaeth sylfaenol yn wahanol iawn.  Mae gan y ddwy blaid bolisi canolog sy'n hynod wrth sefydliadol - gadael y DU yn achos un plaid a gadael yr Undeb  Ewropiaidd yn achos y llall.   Mae hyn yn rhoi delwedd wrth sefydliadol i'r ddwy blaid - ac mae  hynny'n gweddu efo agweddau llawer o bobl yn yr oes sydd ohoni.  Dydi gwleidydda 'saff' a 'pharchus' ddim yn taro deuddeg ar hyn o bryd - ac mae hynny'n debygol o barhau  yn y dyfodol.  

Mae'n debyg gen i bod yna were i genedlaetholwyr Cymreig yn hynny.  

3 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Beth sydd wedi hybu poblogrwydd y ddwy blaid yn fy marn i yw'r canfyddiad (cywir) nad yw grym bellach yn nwylo'r bobl. Mae'r byd yn cael ei reoli gan gwmnioedd byd-eang drwy gyfrwng arbenigwyr cysylltiadau cyhoeddus sydd wedi dysgu nad oes pwynt ceisio newid meddyliau'r bobl gyffredin tra ei fod yn fwy effeithiol lobio a dylanwadu ar wleidyddion. Mae'r gwleidyddion yn eu tro yn defnyddio'r un technegau er mwyn ceisio argyhoeddi y bobl i gytuno efo nhw, yn hytrach na symud eu polisiau nhw yn agosach at y bobl. Roedd pobl yn ddigon hapus i beidio cwestiynu'r system tra bod yr economi yn gwella, ond yn sgil chwlfa 2008 mae pobl wedi deffro a sylweddoli nad yw'r byd bellach yn cael ei gynnal gan bobl sy'n malio ryw lawer am beth sydd o fudd iddyn nhw. Mae'r SNP ac UKIP am adennill rywfaint o rym a'i ddod yn agosach at y bobl. Mae nod y ddwy blaid yn 'doable' - gellid credu y gallai ddigwydd. Y broblem i PC yw nad oes ganddynt rywbeth i'w gynnig sydd yn 'doable' yn yr un modd. Dydw i ddim yn credu bod ACau ac ASau y blaid hyd yn oed yn credu bod annibyniaeth yn bosib yn y tymor byr.

Cai Larsen said...

Diddorol iawn Ifan.

Mae datganoli sylweddol o bwerau pellach i Gymru nid yn unig yn doable chwadl tithau, ond mae hefyd yn boblogaidd.

Ifan Morgan Jones said...

Rwy'n cytuno - ond efallai nad yw datganoli grymoedd pellach yn ateb mor hawdd a secsi ac y mae'r SNP yn ei gynnig gerbron!