Sunday, October 26, 2014

Pwy sydd eisiau arwyddo bomiau?

Newydd ddod ar draws y ddelwedd fach yma o anghytundeb trydar rhwng Cynghorydd Llafur Bethel, Sion Jones, fi, Alaw Jones a rhywun arall di enw.  A dweud y gwir roeddwn wedi anghofio am y digwyddiad - a dwi'n deall bod Sion bellach wedi dileu rhai o'i sylwadau o'r trydarfyd.

Serch hynny mae'n ddiddorol bod un o bedwar cynghorydd Llafur Gwynedd, a pherson sy'n meddwl mai fo ydi'r person priodol i gynrychioli Arfon ym Mae Caerdydd yn teimlo y byddai'n hoffi arwyddo bomiau sy'n cael eu gollwng o uchder mawr i chwythu pobl i abergofiant.  Mae'r ffaith bod y Blaid Lafur yng Nghymru yn denu pobl sy'n arddel y math yma o ddyheuadau yn dweud pob dim sydd angen ei ddweud am yr hyn ydi'r blaid honno bellach.

4 comments:

Anonymous said...

Efallai fod pobl Bethel yn fwy na parod i gytuno hefo fo. Y nhw sy'n credu mai fo sy'n cynrychioli eu barn orau. Edrycha ar y maes yn C'fon nos Sadwrn. Faint o heddychwyr, cymodwyr a diplomyddion wyt ti'n weld yno ? . Mae'n siarad iaith y dosbarth gweithiol.

Anonymous said...

Cytuno efo anon 11.12am - hogyn cyffredin o gefndir difreintiedig. Mae o yn siarad iaith y werin. Mae angen pobol ifanc , llawn egni a brwdfrydedd mewn gwleidyddiaeth heddiw - pobol fel Sion . Mae yna ddigonedd yn barod yn cefnogi Sion ag mi fydd llawer rhagor fel daw yn amser etholiad. Crafu gwaelod y gasgen wyt ti yn chwilio am faw ar yr hogyn ifanc , bydda'n wyliadwrus Cai rhag ofn fod baw llawer butrach ynglwm wrth ymgeisydd dy blaid dy hun .

Cai Larsen said...

Dwi'n cymryd mai sylwadau gan un o'n cyfeillion Llafur ydi'r ddau uchod - mae gwneud ensyniadau ond bod yn rhy llwfr i sefyll trostynt yn nodwedd o'r blaid honno.

Nid taflu baw ydi dod a gwleidydd wyneb yn wyneb efo ei eiriau ei hun - mae'n rhan o ddisgwrs gwleidyddol arferol. Os nad ydi Sion eisiau bod yn atebol am yr hyn mae o ei hun wedi ei ddweud yna mae yn ceisio dilyn yr yrfa anghywir mae gen i ofn.

Mae honni bod bomio tramorwyr yn flaenoriaeth i bobl dosbarth gweithiol yn brawf pellach - os oes angen un - o cymaint mae Llafur allan o gysylltiad efo'u cefnogwyr naturiol eu hunain.

Anonymous said...

Mae hynna mor Welsh Labour. Gwrthod cymryd cyfrifoldeb am ddim byd, hyd yn oed be mae nhw eu hunain wedi ei ddeud.