Mae'n hysbys i rai ohonoch am wn i bod Gwilym Euros wedi dyfynnu'r honiad yn y Caernarfon & Denbigh - papur sydd prin yn un o brif gyfeillion y Blaid yng Ngwynedd - bod Linda Wyn Jones wedi ymadael a grwp y Blaid.
A bod yn deg a Gwilym, 'dydi o ddim yn honni bod Linda wedi gadael, er ei fod yn nodi - yn gwbl gywir - ei bod yn anhapus a rhai penderfyniadau diweddar gan y cyngor. Nodi mae o bod y stori yn y C&D. 'Dydi hyn ddim yn atal Alwyn ap Huw rhag dweud i Gwilym wneud yr honiad. Mae gwneud sylwadau camarweiniol yn nodwedd o flogiau Alwyn wrth gwrs, ac mae wedi cynhyrfu cymaint mae'n mynd ymlaen i wneud cyfres o honiadau tra anhebygol - megis y gallai deg cynghorydd adael - ac mae hyd yn oed yn rhagweld y bydd Llafur yn 'cadw' Arfon - er gwaethaf y gweir anferth gaethant yn yr etholaeth gan y Blaid yn yr etholiadau Cynulliad a'r etholiadau lleol diweddar.
Beth bynnag, rhydd i bawb ei farn - ond mi hoffwn wneud un sylw bach. Nid oes yna unrhyw wirionedd yn y stori yn y Caernarfon & Denbigh i Linda adael grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd.
9 comments:
A pha sylw camarweiniol sydd ar fy mlog tybed?
Yr hyn sydd yno ydy adrodd y ffaith bod un o Gynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd wedi dweud wrthyf ei fod o ymysg saith o gynghorwyr y Blaid sydd yn gwylio'r hyn sydd yn digwydd yn achos Linda Wyn a dau gynghorydd arall ac am ystyried eu dyfodol gyda'r grŵp os yw'r ddau arall yn ymadael.
Hwyrach nad yw Linda yn bwriadu ymadael a'r Blaid, hwyrach nad oes dau gynghorydd yn trafod eu dyfodol gydag arweinwyr y grwp a hwyrach nad oes 7 aelod arall yn meddwl ymadael hefyd. Yr hyn sydd yn sicr yw mai cynghorwyr o grwp y Blaid ar Gyngor Sir Gwynedd sydd yn gyfrifol am ledaenu’r sïon yma. Mae'r ffaith bod cynghorwyr yn teimlo'r angen i gorddi'r dyfroedd yn y fath modd yn ddigon ynddo'i hyn i awgrymu bod yna anniddigrwydd yn y grwp.
Mae croeso iti anwybyddu'r ffaith bod yna anghydfod yng ngrŵp y Blaid os wyt yn dymuno ac i anwybyddu'r ffaith bod nifer cynyddol o bobl yng Ngwynedd yn dechrau cael llond bol efo'r lol ar y cyngor. Ond os wyt yn credu bod ymddwyn fel wystrys a gwadu bod yna broblemau yn gymorth i'r Blaid yna rwyt yn ffŵl.
A pha sylw camarweiniol sydd ar fy mlog tybed?
Y sylw i Gwilym honi i Linda adael y Blaid - wnaeth o ddim - tynnu sylw at stori yn rhecsyn Trinity Mirror a nodi nad oedd o'n gwybod os oedd y stori'n wir wnaeth o.
Mae dy flog diweddaraf Cymraeg hefyd yn enghraifft dda o rhywun methu ag ymateb i ddadl ac felly yn adeiladu dyn gwellt o ddadl ac yna ymateb i honno.
Mi nodais fod Gwilym wedi tynnu sylw at yr hanes bod Linda wedi ymadael a grŵp y blaid - do. Cafwyd cyfeiriad hefyd at honiad Gwilym bod dau aelod o grŵp y Blaid yn ddwys ystyried eu perthynas a 'r grŵp. Nid ydwyf yn darllen y C&D Herald a does gen i ddim syniad am gynnwys yr erthygl yr wyt yn cyfeirio ato. Rwy'n gobeithio bod fy mlog a fy sylw uchod yn mynegi yn glir mae nid Gwilym na'r Herald oedd ffynhonnell fy stori, ond yr hyn a ddwedwyd wrthyf gan gynghorydd y Blaid o Wynedd.
Wyt ti yn gwadu dy fod ti wedi dweud bod pobl, fel fi, sydd yn credu mewn annibyniaeth yn snobiaid?
Wyt ti'n gwadu dweud fy mod yn naïf am gredu bod amddiffyn yr iaith yn hollbwysig?
Wyt ti'n gwadu dy fod wedi dweud fy mod heb grybwyll gwleidyddol gan fy mod am gefnogi cymunedau Cymreig?
A chyn fy nghyhuddo i o dorri rheolau dadl trwy adeiladu dynion gwellt, hwyrach ddylit ystyried dy fethiant di trwy ddefnyddio dadleuon add hominem byth a hefyd!
Unwaith eto yr wyt yn ymateb i fy sylwadau trwy edrych lawr dy drwyn a thaflu enllib ac ensyniad yn hytrach na delio efo gwraidd y broblem.
Be am ateb y cwestiwn cychwynnol Be ydy Werth Plaid Cymru? yn hytrach nag ymateb gyda chwestiynau chwerthinllyd megis Be ydy Gwerth Hen Rech Flin? a Be di gwerth snob wleidyddol?
Be am egluro be mae'r Blaid yn gwneud i ddod i'r afael a'i phroblemau amlwg yng Ngwynedd, yn hytrach nag ymosod ar y rhai sydd yn crybwyll bodolaeth y fath broblemau?
Be am ddweud be mae'r Blaid yn gwneud i hyrwyddo'r Gymraeg, hunan lywodraeth a chymunedau ein gwlad yn hytrach nag ymateb yn fabïaidd tuag at y sawl sydd yn mynegi pryderon yn eu cylch?
Tasgau rhy anodd iti hwyrach!
Alwyn, dyma dy atebion:
Lle mae'r papur dyddiol? Mae Golwg wedi derbyn arian i greu gwasanaeth. Nid ydi o gymaint a mae rhai, fel fi a blogMenai, eisiau, ond rhaid iddo wneudy tro. Os nad wyt wedi sylwi, mae gwasgfa ar arian cyhoeddus ers 2005 - y blas cynnar o'r dirwasgiad fyd-eang.
Lle mae'r Coleg Ffederal? Yn y broses o gynllunio. Dydi pethau ddim yn digwydd yn syth mewn gwleidyddiaeth - ond, diolch i Blaid Cymru, mae o ar agenda'r Cynulliad.
Lle mae'r Ddeddf Iaith? Gweler yr uchod - dydi pethauddim yn digwydd
yn syth. Does ddim gwadu fod ASau Llafur yn ceisio arafu pethau, ond os aiff pethau i gynllun, cawn Ddeddf Iaith yn fuan. Os ydi ASau Llafur yn llwyddo ei ohirio, dwi yn amau y bydd nifer o Bleidwyr, gan gynnwys fi a blogmenai mae'n debyg, yn galw am i ni adael y glymblaid.
Nid Dafydd El yw'r Blaid. Ei gyngor o yw cymeryd gofal - os ydi refferendwm yn cael ei golli, gallai ddal unrhyw newidiadau cyfansoddiadol yn ol am chwarter canrif. Mae'r rhan fwyaf o aelodau, am weld refferendwm yn fuan.
Yn ol i ysgolion bach. Effeithlondeb yw'r rheswm. Mae llefydd gwag mewn ysgol yn arallgyfeirio arian o wasanaethau eraill. Nid oes digon o arian i gynnal y llefydd gwag yma. Ar draws Cymru, gan drin bob ardal gwledig yn gyfartal, byddai'n costio degau o filiynau. Erbyn hyn, mae'r ddadl ar ben gan fod Llais Gwynedd yn erbyn y syniad. Rwyf wedi derbyn y ffaith - cawn weld pwy sydd yn iawn.
Pan yn trafod diffyg cefnogaeth i gymunedau Cymreig, at pa gymunedau wyt ti yn cyfeirio?
Wrth drafod tai cyngerdd, fe oeddwn i'n credu mai ti a HoR oedd yn cwyno am ddiffyg arian i ddiwylliant. Pan yn trafod Dolgarrog, nid oedd hwn yn fusnes bach, ond busnes a ddylai fod wedi gallu cynnalei hun. Mae galw rhyngwladol am nwyddau craidd wedi dymchwel - ni fedrir cynnal pob cwmni trwy dirwasgiad.
Rwyf wedi ateb dy gwestiynau di: a wnei di ymateb i'r sialens y gwnes i osod uchod?
Dduw mawr Alwyn - darllen y darn - mae'n ateb dy holl gwestiynau.
Does yna ddim ymysodiad ar bobl sydd o blaid yr iaith Gymraeg nag o blaid annibynniaeth - dwi yn y gwersyll hwnnw fy hun.
Tynnu sylw mae at bobl sy'n honni eu bod yn fwy pleidiol i'r pethau hynny na'r gweddill ohonom, ond sydd yn edrych i lawr eu trwynau ar y sawl sy'n cymryd camau i adeiladu'r gefnogaeth etholiadol sydd ei angen er mwyn bod mewn sefyllfa i hyrwyddo'r pethau hynny.
'Dwi wedi edrych ar y darn eto, a fedra i ddim yn fy myw weld pam nad ydi hynny'n gwbl amlwg.
O ddeall y darn byddet yn deall pwrpas Plaid Cymru - ond mae'n ymddangos bod y cysyniad y tu hwnt i ti.
Gyda llaw Alwyn - 'dydw i ddim yn defnyddio dadl add hominem.
Mae'n ymddangos felly i ti oherwydd nad wyt yn gwahaniaethu rhwng yr hyn wyt yn ei ddweud oddi wrth yr hyn yr wyt.
Mae pob sylw 'dwi'n ei wneud nad wyt yn ei hoffi yn sylw ynglyn a rhywbeth ti'n ei ddweud yn gyhoeddus. 'Does yna ddim byd y tu hwnt i hynny.
Gyda llaw Alwyn - 'dydw i ddim yn defnyddio dadl add hominem.
Nag Wyt?
Yn niweddar yr wyt wedi fy ngalw yn:
Snob Ideolegol, yn Naïf ac yn Idiot (ar sawl achlysur!)
Yr wyt wedi danfon pyst gyda'r teitlau:
Beth ydi pwrpas Hen Rech Flin?
Gwobr Hen Rech Flin am idiotrwydd.
Yr wyt wedi dweud mewn post Mae Alwyn yn gwbl gyfeiliornus am fwy neu lai popeth mae'n ysgrifennu!
Dim ond ychydig o enghreifftiau o Cai yn cicio'r dyn yn hytrach na'r bel yw'r uchod. Ond be di be? Mae Cai yn aelod o Blaid pur a pherffaith Gymru, felly mae pob dim y mae o'n gwneud yn deg.
Ond gwae uwch adwae ar y sawl sy'n mentro dweud gair yn erbyn ei annwyl Blaid. Hyd yn oed os ydy'r feirniadaeth yn un sy'n ceisio adeiladu'r achos cenedlaethol!
Snob ideolegol - chdi ddiffiniodd dy hun fel snob ideolegol.
Beth ydi Pwrpas Hen Rech Flin? - sori - fedra i ddim gweld bod hynny'n sarhad.
'Dwi ddim yn ymwybodol o fod wedi dy alw'n idiot, a dydi dweud bod yr hyn rwyt yn ei 'sgwennu'n gyfeiliornus ddim yn ymysodiad personol.
Dyfais i dynnu sylw at resymeg diffygiol ar dy ran di(nad ydi dirwasgiad economaidd yn debygol o effeithio ar rhywun sydd ddim yn dal ffliw adar) ac ar ran blogiwr arall (mai Mark Williams sy'n gyfrifol am osod prisiau olew'r byd) oedd Gwobr Hen Rech Flin.
Post a Comment