Sunday, December 14, 2008

Newidiadau demograffig - sut i ymateb?

Mae Plaid Cymru Bontnewydd yn holi (ymysg pethau eraill) sut y dylai Cymru annibynnol ymateb i'r newidiadau economaidd a demograffig sy'n trawsnewid rhai o'n hardaloedd gwledig.

Hoffwn awgrymu'n wylaidd mai un ateb amlwg ydi peidio a dilyn trywydd neo ryddfrydig y DU a llywodraethu yn unol a pholisiau sy'n hybu datblygiad rhanbarthol cytbwys. Os ydi hynny'n golygu ymyryd a marchnadoedd a 'ballu - dim problem.

Mae'r mis neu ddau diwethaf wedi dangos gwacter uniongrededd economaidd yr ugain mlynedd diwethaf. Y gred na ddylid amharu ar farchnadoedd sy'n rhannol gyfrifol am y prosesau mae Rhydian yn son amdanynt.

2 comments:

Anonymous said...

Llawn gytuno blogMenai, nid oes lle i bolisi 'dim ymyrraeth' - mae neo-ryddfrydiaeth wedi ei ddatgelu fel anoethineb. Ond mae'r broblem wedi ei greu, a bydd rhaid i ni ym Mhlaid Cymru drafod ffordd o ymdrin a'r achosion, nid yn unig gwrthwynebu'r athroniaeth laissez-faire.

Mae cenhedlaethau yfory am orfod talu am gostau y rydym ni oll wedi eu creu - dim ots nad yw Plaid Cymru ar fai. A mae mwy o'r henoed yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Yn y wlad, mae tyndra rhwng pentrefi bach a trefi - a threfi sydd yn datblygu'n gyflym a threfi marwaidd. A oes gobaith o adfywio pob tref a pentref gan wasgaru pob ceiniog yn hafal? Onid economaidd wirion fyddai ceisio achub bob pentref yn lle canolbwyntio ar rai yn unig? Does gen i ddim atebion llawn ond rwyf am chwilio.

Mae'r brwydrau ar strydoedd Athens yn symptomaidd o rhwystredigaeth yr ifanc yng Ngroeg gyda sustem sydd yn gweithredu yn eu herbyn. Bydd yr un pwnc yn codi ar draws y Gorllewin - heb gymaint o drais gobeithio - yn fuan.

Mae Llais Gwynedd ac eraill led Cymru yn ceisio creu brwydr rhwng y gwledig a'r trefol, gan sefyll ar ochr y pentref gwledig trwy geisio achub ysgolion a chanolfanau hamdden, yn reit llwyddianus mae'n ymddangos.

Mae'n naturiol fod gwleidyddiaeth eisiau anwybyddu'r tyndra ym rhwng genedlaethau a rhanbarthau. Rhaid i Plaid Cymru wynebu'r broblem, a'r ffaith ei fod yn debygol o waethygu. Wrth drafod hyn yn llawn, gallem ddod i gonsensws ar sut i barchu hawliau'r henoed a'r ifanc, y trefol a'r gwledig.

Cai Larsen said...

Diolch Rhydian

Mi ysgrifennaf flof maes o law am rhai o'r materion rwyt yn eu codi.

Hwyrach na fyddwn yn cytuno.