Mi ges i sgwrs y diwrnod o'r blaen yn y Black Boy gyda rhywun sydd yn byw yng Ngorllewin Caerdydd, ond sydd a barnu o'i acen gyda'i wreiddiau yn y Gogledd. Mi wnawn ei alw'n Mr X - yn rhannol am nad ydi blogmenai (fel y gwyr fy narllenwyr rheolaidd megis Nic Parry yn dda) byth, byth yn ymosod ar neb yn bersonol, ond yn bennaf oherwydd i mi anghofio gofyn iddo beth oedd ei enw.
Roedd y cyfaill yn disgrifio ei hun fel cenedlaetholwr Cymreig a rhywun oedd yn gweithio yn wirfoddol weithiau i'r Blaid yng Nghaerdydd. Ei gonsyrn o oedd bod y Blaid wedi gwneud 'smonach mawr' o'r busnes ysgolion yn Nhreganna - ward ac ardal lle mae llawer o Gymry Cymraeg yn byw yng Ngorllewin y ddinas. Y smonach oedd peidio ag ymgyrchu i gau ysgol cyfrwng Saesneg Landsdowne, a symud plant ysgol gyfrwng Gymraeg Ysgol Treganna yno.
'Rwan mae yna ddadleuon tros ddilyn y llwybr yma - mae llawer o lefydd gwag (costus) yng Ngorllewin Caerdydd, ac mae yna lawer o lefydd gwag yn Lansdowne tra bo Ysgol Treganna yn llawn at yr ymylon. Mae'r galw am addysg Gymraeg yn tyfu'n rhyfeddol o gyflym mewn rhannau o Gaerdydd - ac yn Nhreganna fwy na'r unman arall.
Awgrymwyd sawl cynllun gan y Blaid cyn yr etholiad cyngor diwethaf - y cwbl ohonynt yn ymdrechu i gadw Landsdowne yn agored tra'n cynnig atebion i Ysgol Treganna, ond nid oedd rhieni Treganna - a'r gymuned Cymraeg yn Nhreganna gyda diddordeb mewn unrhyw opsiwn nad oedd yn cau Landsdowne.
Roedd hyn yn broblem gwleidyddol i'r Blaid - mae'r Blaid angen apelio at drawsdoriad eang o bobl yng Nghaerdydd os ydynt i gamu ymlaen yno. Mae elfennau o'r gymuned Gymraeg ei hiaith yn anghytuno - maent yn ystyried mai pwrpas y Blaid ydi edrych ar ol buddiannau un sector o'r gymuned, ac un yn unig - sef eu sector nhw eu hunain, y Cymry Cymraeg eu hiaith. Nid bod y rhan fwyaf ohonynt yn trafferthu pleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - roedd yna 32,000 o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd yn 2001, tua 9,000 o bleidleisiau a gafodd y Blaid yn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno yn y ddinas. Mae llawer mwy o Gymry Cymraeg yn Nhreganna na sydd yn Fairwater i'r Gorllewin iddi na Riverside i'r Dwyrain - ond mae'r Blaid gyda chefnogaeth etholiadol cryfach o lawer yn y wardiau llai Cymreig.
Aethom ymlaen i siarad am y rhagolygon ar gyfer yr etholiadau Cynulliad yn 2011. Roedd y ddau ohonom yn meddwl bod gobaith gwirioneddol y byddai'r Blaid yn ennil. Roedd Mr X o'r farn ei bod yn bwysig cael rhywun 'iawn' i sefyll. Y person fydd yn sefyll fydd Neil McKevoy - ymgeisydd sydd fwy neu lai yn berffaith o safbwynt etholiadol - oherwydd ei gefndir mae'n apelio at bleidleiswyr Llafur, Pabyddion (elfen bwysig o boblogaeth y ddinas) a'r lleiafrifoedd ethnic. Nid oedd Mr X yn rhy siwr pwy 'iawn' oedd ar gael, ond roedd yn eithaf siwr nad oedd Neil yn 'iawn'. Yn wir, petai Eluned Morgan yn sefyll byddai'n pleidleisio i honno cyn Neil. Y gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall wrth gwrs ydi bod y Gymraeg yn famiaith i'r unoliaethwraig ac mae ei gwreiddiau yng Ngorllewin Cymru. Gwyddelod a Somaliaid ydi cyn dadau'r cenedlaetholwr. Pan mae eich gwleidyddiaeth yn un secteraidd, llwythol mae ystyriaethau fel hyn yn bwysig.
Os ydych yn byw yn rhai o bentrefi uchel (yn yr ystyr daearyddol) Arfon os oes gennych olwg da, ac os ydi hi'n anarferol o glir gallwch weld mynyddoedd Wicklow pan mae yna eira ar eu copaon. Ar adegau felly rydych yn edrych ar wlad wahanol - gwlad agos, ond gwlad efo traddodiad gwleidyddol cwbl wahanol i un Cymru. Dyma stori dau berson gyda chysylltiadau a Wiklow - Ann Develin a anwyd yno ac Erskine Childers a fagwyd yn y sir.
Anne Devlin,
housekeeper (ddim yn siwr o'r gair Cymraeg)
Robert Emmet, arweinydd
gwrthryfel 1798.
Wedi i'r chwyldro fethu cafodd hi a'i holl deulu eu dwyn i'r ddalfa, cynigwyd arian iddi am achwyn ar gyd gynllunwyr Emmet, cafodd hefyd ei harteithio yn gorfforol a seicolegol, a'i bygwth gyda marwolaeth. Ni chafodd yr awdurdodau cymaint ag un enw ganddi. Bu ei brawd naw oed farw yn y carchar. Wedi blynyddoedd cafodd ei rhyddhau. Erbyn hynny roedd ei chylch cyfeillion, ei theulu a'r mudiad gweriniaethol wedi eu chwalu. Priododd i mewn i dlodi enbyd a chael plant. Treuliodd lawer o weddill ei bywyd ar y strydoedd.
Yn ei dyddiau olaf arferai weld rhai o gyn gyd gynllwynwyr Emmet ar y strydoedd. Yn gwahanol iddi hi roedd y bobl hynny'n gymharol gyfoethog ac yn aml byddant yn cymryd arnont nad oeddynt yn eu hadnabod. Gallai fod wedi gwerthu gwybodaeth amdanynt unrhyw bryd ac achub ei hun - ond wnaeth hi ddim. Bu farw ar y strydoedd mewn tlodi enbyd.
Yn gwahanol i Ann Devlin un o draddodiad cyfoethog Eingl Wyddelig oedd Erskine Childers, un wedi ei eni yn Lloegr. Ymladdodd tros Brydain yn rhyfel y Boer, ac aeth ymlaen i fod yn rhan o'r sefydliad Prydeinig a chael swydd flaenllaw yn Nhai'r Cyffredin. Roedd o'n ddyn nad oedd erioed rhaid iddo drafferthu am yr Iwerddon, ond mi wnaeth.
Rhoddodd y gorau i'w swydd yn gweithio i'r sefydliad Prydeinig yn 1910 i ymgymryd ag achos Iwerddon. Arhosodd yn driw i'r achos hwnnw hyd y diwedd chwerw, gwenwynig. Cymrodd ochr y sawl oedd yn gwrthod y
Cytundeb Eingl Wyddelig cyntaf yn 1922. Roedd y llywodraeth Wyddelig newydd yn ei gasau a chas perffaith - gwnaed llawer o'i gefndir dosbarth uchel Seisnig, a'i acen Saesneg. Chwalwyd ei gymeriad mewn ymgyrch bropoganda.
Wedi iddo gael ei ddal, cafodd ei ddienyddio yn iard gwersyll milwrol
Beggars Bush. Tra'n gorwedd yn ei arch ar yr iard cerddodd un o swyddogion byddin y wladwriaeth newydd ar draws yr iard at ei gorff a gwagio ei
Mauser automatic i mewn i'w wyneb.
Ar yr ochr arall i'r mor Celtaidd roedd y sefydliad Prydeinig hefyd yn llawen. Sylw Churchill oedd
No man has done more harm or done more genuine malice or endeavoured to bring a greater curse upon the common people of Ireland than this strange being, actuated by a deadly and malignant hatred for the land of his birth. Roedd yn cael ei gasau yn Lloegr oherwydd iddo droi at achos Iwerddon, ac roedd casineb tuag ato yn yr Iwerddon oherwydd ei Seisnigrwydd. Ond, fel Anne Devlin bu farw'n driw i'w Weriniaeth at y diwedd - er gwaethaf pawb a phopeth.
Dwy stori ydi'r rhain o ganoedd - miloedd - y gellid eu hadrodd am bobl oedd yn fodlon aberthu'r cwbl tros y Weriniaeth - a gweledigaeth o Weriniaeth gynhwysol gyda'i gwreiddiau ideolegol yn y newidiadau gwleidyddol strwythurol anferth a ddigwyddodd yn niwedd y ddeunawfed ganrif.
A beth sydd gennym ni? Pobl fel Mr X sy'n pleidleisio tros bleidiau unoliaethol am resymau llwythol. Grwp o bobl megis Cymry Cymraeg Treganna sy'n fodlon canibaleiddio ysgol rhywun arall er mwyn eu lles eu hunain, 'Cenedlaetholwyr' sy'n troi at bleidiau sefydliadol Prydeinig yn fuan wedi methu cael eu dewis i sefyll am rhyw swydd etholedig neu'i gilydd tros blaid sefydliadol Gymreig. Pobl sydd wedi gwneud gyrfa o bortreadu eu hunain fel cenedlaetholwyr rhonc - cenedlaetholwyr gwell cenedlaetholwyr na llawer ohonom yn troi at bleidiau rhanbarthol sydd yn eu hanfod yn wrth genedlaetholgar. Pleidiau megis Llais Gwynedd. Cymry Cymraeg dosbarth canol breintiedig sy'n meddwl mai prif bwrpas cenedlaetholdeb Cymreig ydi amddiffyn eu buddiannau nhw eu hunain.
Y cwestiwn sy'n codi wrth gwrs ydi pam? Pam bod y cysyniad o wladwriaeth Wyddelig yn ddigon pwerus i wneud i lawer iawn o bobl ddangos ymroddiad llwyr iddo, tra bod y cysyniad o wladwriaeth Gymreig mor wan nes bod hyd yn oed cefnogwyr mwyaf selog y cysyniad yn aml yn cael eu colli i Brydeindod a gwleidyddiaeth rhanbarthol gwrth genedlaetholgar pan ddont ar draws man fygythiadau i'w man fuddiannau llwythol a phersonol nhw eu hunain?
Does yna ddim un ateb wrth gwrs, ond mae perthynas hanesyddol y Cymry a'r wladwriaeth Brydeinig yn agos at wraidd y drwg. Mae dylanwad y Chwyldro Diwydiannol ar gymdeithas a felly gwleidyddiaeth Cymru hefyd yn arwyddocaol - mi'r rydan ni yn fwy tebyg i Saeson yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn seicolegol nag ydi'r Gwyddelod, ac oherwydd hynny 'dydi'r cysyniad o wladwriaeth Gymreig ddim mor atyniadol hyd yn oed i genedlaetholwyr - heb son am y rhan fwyaf o'r boblogaeth nad ydynt yn genedlaetholwyr.
Felly ydi gwladwriaeth Gymreig yn bosibl? Dyna fyddai dyn yn gobeithio - ond tra nad ydym yn ei chael yn bosibl i roi man raniadau o'r neilltu - fel y llwyddodd Anne Develin i ddi ystyru gwahaniaethau dosbarth ac Erskine Childers i ddi ystyru gwahaniaethau ethnig, addysgol a chrefyddol - nid oes yna fawr o obaith.